Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Prentisiaethau

Os oes gennych syniad pa lwybr yr hoffech ei ddilyn o safbwynt eich gyrfa, a'ch bod yn hoffi'r syniad o ennill arian wrth ddysgu, efallai y byddai Prentisiaeth yn addas i chi. Mae'n gwarantu hyfforddiant o safon uchel, ond yn gadael i chi feithrin eich sgiliau ac ennill cymwysterau tra byddwch yn gweithio.

Prentisiaethau - ennill wrth ddysgu

Er mwyn rhoi'r cyfle gorau i chi'ch hun gael llwyddiant yn eich gyrfa, bydd angen i chi ddal ati i feithrin eich sgiliau ar hyd y blynyddoedd tra byddwch yn gweithio. Mae prentisiaethau'n rhoi cyfle i chi ddysgu - ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol - a chael cyflog wythnosol yr un pryd.

Mae mwy na 180 o Brentisiaethau ar gael mewn mwy na 80 o sectorau diwydiant gwahanol. Maent i'w cael ym maes cyfrifeg, gweinyddu busnes, adeiladu, peirianneg, cynhyrchu a llawer mwy.

Ai Prentisiaeth yw'r dewis i chi?

Y peth cyntaf y bydd angen i chi ei wneud yw penderfynu pa yrfa sydd fwyaf addas i chi. Yna, bydd angen i chi benderfynu a allwch chi ymrwymo i ofynion Prentisiaeth. Mae hyn yn golygu cyfuno gweithio ac astudio yn y tymor hir - cyfnod sy'n ymestyn rhwng blwyddyn a phum mlynedd.

Am faint fydd Prentisiaeth yn para?

Maent yn amrywio. Mae'r rhan fwyaf yn para blwyddyn neu ddwy, er y bydd rhai yn para hyd at bum mlynedd. Bydd faint o amser y bydd prentisiaeth yn para yn dibynnu ar y proffesiwn y byddwch yn ei ddewis, ar lefel eich gallu, ac ar anghenion eich cyflogwr.

Pwy all wneud cais?

Nid oes gofynion mynediad penodol ar gyfer y rhan fwyaf o Brentisiaethau. Fodd bynnag, ar gyfer Prentisiaethau sy'n fwy technegol, efallai y bydd angen graddau A* i C TGAU arnoch mewn mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, cynigir naill ai Prentisiaeth neu Brentisiaeth Uwch i chi.

Bydd pa un a gynigir i chi'n dibynnu ar y sgiliau, y profiad a'r cymwysterau sydd gennych yn barod.

Pa fath bynnag o Brentisiaeth ydyw, mae'n angenrheidiol:

  • eich bod yn byw yn Lloegr, a
  • nad ydych mewn addysg amser llawn

Prentisiaeth dan law Rhaglen

Os hoffech ddilyn Prentisiaeth ond nad ydych wedi dod o hyd i gyflogwr eto, gallwch ddechrau ar ‘Prentisiaeth dan law Rhaglen’.

Mae hyn yn golygu dechrau astudio yn y coleg - a chael rhywfaint o brofiad gwaith - cyn symud ymlaen at Brentisiaeth gyda chyflogwr.

Arian a gwyliau

Os ydych chi'n dilyn Prentisiaeth gyda chyflogwr

Cewch gyflog o £95 yr wythnos o leiaf. Mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf sy'n dilyn Prentisiaeth yn cael mwy na hyn.

Os ydych chi'n dilyn Prentisiaeth dan law Rhaglen

Os ydych chi rhwng 16 a 18 oed ac yn dilyn Prentisiaeth dan law Rhaglen, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Gwyliau

Fe gewch o leiaf ddiwrnod a hanner o wyliau â thâl am bob mis o'ch hyfforddiant. Mae hyn yn ychwanegol at wyliau'r banc.

Cymwysterau

Gall Prentisiaethau (a Phrentisiaethau Uwch) arwain at y canlynol:

  • Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) ar Lefel 2 neu Lefel 3
  • cymwysterau Sgiliau Allweddol fel datrys problemau a defnyddio technoleg
  • (yn y rhan fwyaf o achosion) Tystysgrif Dechnegol megis BTEC neu Ddyfarniad Cynnydd City & Guilds
  • cymwysterau eraill y mae eu hangen ar gyfer galwedigaethau penodol

Astudiaeth bellach

Gall y cymwysterau a gewch fel prentis hefyd eich helpu i fynd i addysg uwch.

Os ydych chi dan 16 oed: Prentisiaethau i Bobl Ifanc

Os ydych chi rhwng 14 ac 16 oed, gallech, gyda Phrentisiaeth i Bobl Ifanc, gael blas ar waith go iawn tra byddwch yn dysgu. Gweler ‘Profiad Gwaith ym Mlynyddoedd 10 ac 11’ i gael gwybod mwy.

Cyfleoedd i oedolion 25 oed a hŷn

Cyflwynwyd cyfleoedd am brentisiaethau i bobl 25 oed a hŷn ym mis Awst 2007.

Bydd yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi yn dibynnu ar y mathau o sgiliau y mae ar fusnesau lleol eu hangen gan eu gweithwyr. Bydd modd i chi wneud cais p'un ai a ydych yn gweithio'n barod ai peidio.

Cael gwybod mwy a gwneud cais

Gallwch gael gwybod mwy – neu chwilio a gwneud cais ar am swyddi yn Lloegr – ar y wefan Prentisiaetahu cenedlaethol.

Cyngor i bobl ifanc

Os ydych chi rhwng 13 a 19 oed, gall eich cynghorydd personol o Connexions roi cyngor a mwy o wybodaeth i chi am Brentisiaethau.

Gallwch hefyd gael cyngor cyfrinachol am ddim am yrfaoedd a chyrsiau gan Connexions Direct.

  • Connexions Direct: 08080 013 219

Allweddumynediad llywodraeth y DU