Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall bod yn fyfyriwr hŷn ddod â llawer o foddhad i chi - a gallai lle mewn prifysgol neu goleg fod yn nes na'r disgwyl. Mae profiad gwaith a chyrsiau Mynediad yn cynnig ffyrdd eraill o fynd i addysg uwch, a cheir llawer o opsiynau i'ch helpu i ddysgu o gwmpas eich ymrwymiadau eraill.
Nid ar gyfer pobl ifanc 18 oed yn unig y mae prifysgolion: mae 60 y cant o israddedigion yn y DU dros 21 oed. Mae pobl yn penderfynu mynd i addysg uwch yn ystod gwahanol gyfnodau yn eu bywyd, ac am bob math o resymau. I rai, mae'n uchelgais bersonol - uchelgais y mae ganddynt fwy o amser i'w gwireddu efallai am eu bod yn hŷn. I eraill, mae addysg uwch yn ffordd o agor drysau i ddewisiadau gyrfa newydd.
Gall cymhwyster addysg uwch ddangos eich bod yn meddu ar sgiliau a rhinweddau sy'n bwysig i gyflogwyr - gall fod yn ddefnyddiol os ydych am ddatblygu yn y gwaith neu os ydych am ymddangos yn ddeniadol i gyflogwyr mewn cyfnod ansicr. Mae llawer o gyflogwyr yn cefnogi staff sy'n dymuno gloywi eu sgiliau, ac mae rhai hyd yn oed yn fodlon helpu gyda chostau cyrsiau.
Ac os ydych chi'n bwriadu newid gyrfa, gallai addysg uwch eich helpu i ail-hyfforddi a chyrraedd eich nod.
Os ydych chi'n chwilio am ffordd i gyd-blethu addysg uwch â'ch bywyd, mae mwy o ddewisiadau nag erioed ar gael yn awr.
Mae oddeutu 40 y cant o fyfyrwyr addysg uwch yn dilyn cyrsiau hyblyg neu gyrsiau rhan-amser. Maent yn arbennig o boblogaidd ymhlith pobl a chanddynt ymrwymiadau gwaith a theulu.
Gellir cwblhau Graddau Sylfaen a chyrsiau tystysgrif neu ddiploma yn gyflymach na graddau traddodiadol - ac yn aml gellir ychwanegu atynt yn ddiweddarach. Gyda rhai cyrsiau byddwch yn cronni'r credydau fesul cam fel sy'n addas i chi, nes bod gennych ddigon i gael cymhwyster.
Mae cyrsiau addysg uwch ar gael mewn nifer o golegau lleol, felly mae'n aml yn bosib astudio'n agos at adref.
Ar gwrs dysgu o bell, yn hytrach na mynychu darlithoedd, byddwch yn gallu astudio o'ch cartref ar adegau sy'n gyfleus i chi.
Rydych yn debygol o gael cyswllt rheolaidd â thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr ar-lein - ac mae'n bosib y cewch gyfarfod wyneb-yn-wyneb o bryd i'w gilydd ar gyfer grwpiau astudio neu ddigwyddiadau preswyl.
Gweler OpenLearn i gael rhagflas rhad ac am ddim o ddysgu o bell.
Ceir ystod eang iawn o gyrsiau i ddewis ohonynt, ond mae digonedd o wybodaeth ar gael i'ch helpu i ddod o hyd i'r un iawn.
Os oes angen i chi barhau i ennill arian wrth astudio, gellir cyfuno cyrsiau hyblyg a rhan-amser gyda gwaith.
Ac os byddwch yn dilyn cwrs amser llawn, mae'n bosib y bydd gennych hawl i gymorth ariannol ychwanegol os oes gennych blant neu os oes oedolyn yn dibynnu arnoch yn ariannol.
Mae rhai myfyrwyr hŷn yn mynd i addysg uwch gyda chymwysterau Safon Uwch neu gyda chymhwyster cyfatebol sy'n gysylltiedig â gwaith (fel NVQ neu BTEC).
Ond nid yw cymwysterau traddodiadol yn angenrheidiol bob amser. Efallai y bydd rhai sefydliadau'n ystyried eich cymwysterau proffesiynol neu brofiad gwaith perthnasol sydd gennych. Ni fydd eraill bob amser yn gofyn am gymwysterau ffurfiol gan fod y cwrs ei hun yn cynnwys unedau sydd â'r nod o roi'r wybodaeth 'sylfaenol' a'r sgiliau astudio cywir i chi.
Mae gofynion mynediad yn amrywio o'r naill gwrs i'r llall, felly os oes gennych un mewn golwg mae'n werth edrych beth yw'r gofynion mynediad ar-lein. I gael gwybod a yw prifysgol neu goleg yn fodlon ystyried eich profiad gwaith, cysylltwch â thiwtor mynediad y cwrs.
Un cymhwyster a dderbynnir yn helaeth gan brifysgolion a cholegau yw'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch.
Nod y diploma, a gynlluniwyd gyda chymorth prifysgolion, yw darparu sylfaen dda yn y sgiliau astudio a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i lwyddo mewn addysg uwch. Mae'n gyfwerth â Safon Uwch, ond mae'r cyrsiau wedi'u llunio gyda golwg ar bobl nad ydynt wedi astudio ers tro - ac nid oes angen cymwysterau blaenorol ar gyfer y mwyafrif.
Ceir dros 1,000 o gyrsiau sy'n arwain at y diploma, mewn pynciau sy'n amrywio o'r celfyddydau a dyniaethau neu astudiaethau cyfreithiol i wyddoniaeth a thechnoleg neu nyrsio.
Mae nifer yn caniatáu i chi astudio'n rhan-amser neu gyda'r nos. Mae'r rhan fwyaf o golegau lleol yn cynnig cyrsiau Mynediad, felly mae'n debygol bod un addas yn lleol i chi - ac mae nifer ar gael drwy ddysgu o bell.
Defnyddiwch wasanaeth chwilio am gyrsiau Cross & Stitch i ddod o hyd i gyrsiau ar bob lefel, gan gynnwys cyrsiau Mynediad. Gellir cael cyngor dros y ffôn, wyneb-yn-wyneb neu dros e-bost - ewch i 'Dewis cwrs dysgu i oedolion sy'n addas i chi'.
Cael canllaw Aimhigher i addysg uwch
Os ydych yn ystyried mynd i addysg uwch fel myfyriwr hŷn, ceir llawer mwy o wybodaeth yng nghanllaw Anelu'n Uwch - ‘Make your dreams a reality’.
Gallwch lwytho copi oddi ar y we isod, neu archebu un:
Nodwch y cyfeirnod ‘RETURN09’. Gellir cael copïau mewn Braille, mewn print bras neu ar dâp sain.