Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Manteision addysg uwch

Gallai addysg uwch roi hwb i'ch rhagolygon gyrfa a’ch potensial o ran ennill arian. Gallai hefyd roi cyfle i chi ymgolli mewn pwnc sydd o wir ddiddordeb i chi – ac i gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau eraill.

Ydy addysg uwch yn addas i chi?

Mae addysg uwch yn golygu mynd â’ch addysg i'r lefel nesaf: dysgu pethau newydd a chyrraedd eich nod.

Gallai cymhwyster addysg uwch eich helpu i lywio eich dyfodol drwy feithrin eich sgiliau a'ch hyder a chyflwyno cyfleoedd newydd i chi - ni waeth pa gyfnod yr ydych ynddo yn eich bywyd. Hyd yn oed os nad oes neb arall yr ydych chi'n ei adnabod yn meddwl am fynd i addysg uwch, efallai mai dyna'r dewis iawn i chi.

Ar hyn o bryd, ceir dros ddwy filiwn o fyfyrwyr addysg uwch yn y DU. Cynigir cyrsiau addysg uwch mewn oddeutu 130 o brifysgolion a cholegau addysg uwch, ac mewn nifer o golegau addysg bellach.

Gyda dros 50,000 o gyrsiau mewn amrywiol bynciau academaidd a phynciau cysylltiedig â gwaith – gan gynnwys llawer o gyrsiau sy'n gadael i chi gyfuno mwy nag un pwnc – rydych yn siŵr o ddod o hyd i un sy'n addas i chi.

Pam mynd i brifysgol neu goleg?

Gallech gael budd o addysg uwch mewn nifer o ffyrdd. Drwy fynychu prifysgol neu goleg cewch brofi amgylchedd diwylliannol a chymdeithasol cyfoethog, a chwrdd ag amrywiaeth o bobl wrth i chi astudio pwnc sydd wrth eich bodd.

Gall cymhwyster addysg uwch hefyd arwain at well gallu i ennill, ystod ehangach o gyfleoedd a gyrfa sy’n rhoi mwy o foddhad i chi. Bydd llawer o gyflogwyr yn targedu graddedigion yn eu hymgyrchoedd recriwtio.

Ac ar gyfartaledd, mae graddedigion yn tueddu i ennill cryn dipyn yn fwy na phobl sydd wedi cael Safon Uwch ond heb fod mewn prifysgol. Yn ystod bywyd gwaith rhywun, mae’r gwahaniaeth yn rhywbeth fel £100,000 cyn treth, yn ôl ffigurau heddiw.

Beth allwch chi ei astudio?

Gall cyrsiau addysg uwch amrywio o bynciau academaidd cyfarwydd megis Saesneg neu hanes i bynciau llai cyfarwydd megis athroniaeth, ac amrywiaeth o gyrsiau cysylltiedig â gwaith (galwedigaethol) megis cyfrifeg.

Nid yw addysg uwch o anghenraid yn golygu ennill gradd er anrhydedd - fe allech astudio am Radd Sylfaen, Tystysgrif Cenedlaethol Uwch (HNC), Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), neu Ddiploma Addysg Uwch.

Mae llawer o gyrsiau’n seiliedig ar unedau astudio neu ‘fodiwlau’. Bydd pob modiwl yn gadael i chi ennill credydau a fydd yn cyfrannu at eich cymhwyster, ond ar yr un pryd yn rhoi dipyn o hyblygrwydd dros ganolbwynt eich astudiaethau.

Faint fydd hyn yn ei gostio?

Mae costau bod yn fyfyriwr yn amrywio o'r naill ran o'r DU i'r llall – a gall hyd y cyrsiau amrywio hefyd. Mae cymorth ariannol ar gael, felly ni ddylai arian fod yn rhwystr. Bydd y cymorth y gallwch ei gael yn dibynnu ar sefyllfa’ch teulu ac ar y math o gwrs yr ydych yn ei ddilyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU