Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Addysg uwch a'ch gyrfa

Fe all yr yrfa sydd gennych mewn golwg fod yn ffactor allweddol wrth benderfynu a ydych am ddilyn cwrs addysg uwch ai peidio, a pha gwrs yr ydych am ei ddilyn. Edrychwch ar y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael, a chanolbwyntiwch ar yr hyn yr ydych chi’n meddwl fyddai orau ar gyfer eich dyfodol chi.

Addysg uwch a rhagolygon eich gyrfa

Mae addysg uwch yn meithrin rhinweddau sy’n bwysig i gyflogwyr, megis sgiliau cyfathrebu a datrys problemau. Gallai dilyn cwrs addysg uwch roi mantais i chi yn y farchnad swyddi: yn ôl rhagolygon, mae'n debygol y bydd angen graddedigion ar gyfer swyddi a ddaw'n wag rhwng 2004 a 2020.

Ac ar gyfartaledd, mae pobl sydd â chymhwyster addysg uwch yn tueddu i ennill mwy o arian dros eu bywyd gwaith na'r rheini heb gymwysterau.

Mae cymhwyster addysg uwch yn angenrheidiol ar gyfer rhai gyrfaoedd – megis meddygaeth, deintyddiaeth, pensaernïaeth a pheirianneg siartredig. Ar gyfer ambell broffesiwn, fel y gyfraith neu therapi lleferydd, bydd angen cymhwyster ôl-radd arnoch cyn y cewch ymarfer yn y maes.

Archwilio’ch dewisiadau gyrfa

Gall mynd i addysg uwch gynnig dewisiadau newydd i chi yn eich gyrfa. Os ydych chi’n ystyried gwneud cais i brifysgol neu goleg, efallai fod nawr yn amser da i edrych eto ar eich cynlluniau gyrfa. Mae cyngor ar gael os oes angen cymorth arnoch i benderfynu.

Dewis cwrs sy’n cyd-fynd â’ch cynlluniau gyrfa

Os oes gennych yrfa benodol mewn golwg, mae'n werth meddwl am gwrs sy'n arwain at gymhwyster galwedigaethol. Maent wedi'u cynllunio â sector penodol mewn golwg, ond fel pob cwrs addysg uwch, gallant eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy.

Ewch i 'Dod o hyd i gwrs prifysgol neu goleg’ i gael cyngor ar ddewis cwrs, gan gynnwys gwybodaeth am y prawf Stamford - prawf ar-lein sy’n eich helpu i baru’ch diddordebau â chyrsiau addysg uwch.

Newid trywydd eich gyrfa drwy addysg uwch

Nid ar gyfer ‘unigolion disglair’ traddodiadol sy'n meddu ar lawer o gymwysterau academaidd yn unig y mae addysg uwch.

Beth bynnag yr ydych wedi bod yn ei wneud yn ystod eich oes waith, gallai cwrs addysg uwch roi’r sgiliau a’r gydnabyddiaeth y mae eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa newydd a fydd yn rhoi cryn foddhad i chi.

Fel myfyriwr hŷn, ni fydd angen cymwysterau traddodiadol arnoch o reidrwydd, ac os byddwch yn dilyn cwrs sy'n berthnasol i'ch gwaith fe allai profiad gwaith perthnasol fod o fudd i chi. Ceir llawer o ddewisiadau astudio hyblyg i'ch helpu i gael cydbwysedd rhwng eich cwrs a'ch ymrwymiadau gwaith.

Cael gwybod mwy am yrfaoedd i raddedigion

Os ydych chi'n meddwl am gwrs neu faes astudio penodol, efallai y byddwch yn dymuno:

  • edrych ar y farchnad swyddi i raddedigion yn y maes hwnnw
  • ceisio cael gwybod am gyflogau swyddi penodol

Allweddumynediad llywodraeth y DU