Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod o hyd i yrfa sy’n addas i chi

Mae rhai pobl yn gwybod pa waith yr hoffent ei wneud pan maent yn ifanc – ond, i bobl eraill, dydy pethau ddim mor syml. Mae dewis gyrfa yn benderfyniad mawr, ond peidiwch â gadael i hynny’ch dychryn. Mae digon o gymorth ar gael i'ch helpu i ddod o hyd i yrfa sy'n addas i chi.

Pa fath o yrfa fyddai'n addas i chi?

Un ffordd dda o ddechrau cynllunio yw ystyried beth sy’n eich cymell chi fel person.

Lluniwch restr o’r gweithgareddau yr ydych wedi’u mwynhau – y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol, y coleg neu’r gwaith. Beth oeddech chi’n ei hoffi amdanynt? Does dim atebion cywir nac anghywir – ond, er enghraifft, efallai y sylweddolwch i chi fwynhau:

  • dysgu mwy am bwnc penodol
  • datrys problemau a oedd yn dipyn o her
  • gweithio fel aelod o dîm
  • cwrdd â phobl newydd

Pan fydd gennych syniad clir beth yw'ch diddordebau, y cam nesaf yw dechrau chwilio am yrfa sy'n cyd-fynd â hwy. Mae cronfa ddata Jobs4U Connexions Direct yn cynnwys gwybodaeth am nifer helaeth o yrfaoedd, a’r rheini wedi’u rhannu’n ‘deuloedd swyddi’.

Cynllunio gyrfa

Mae dod o hyd i yrfa sy'n rhoi boddhad yn bwysig i'r rhan fwyaf o bobl – ac mae angen ychydig o waith cynllunio.

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd, ond bydd cael cynllun:

  • yn gwneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r holl lwybrau sy’n arwain at eich gyrfa ddelfrydol
  • yn eich helpu i osgoi canfod eich hun mewn swydd nad ydych yn ei hoffi
  • yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth mae angen i chi ei wneud yn ystod gwahanol gyfnodau yn eich bywyd

Mae llawer o bethau i’w hystyried cyn y byddwch yn barod i roi eich cynlluniau ar waith – gan gynnwys sut mae cael y sgiliau a’r cymwysterau y bydd eu hangen arnoch.

Cymorth i gynllunio’ch gyrfa

Mae'n hanfodol eich bod yn cael cyngor er mwyn cael y cyfle gorau posib i gael yr yrfa yr hoffech ei chael.

Cyngor yn yr ysgol neu’r coleg

Bydd gan athrawon a darlithwyr syniad da beth allwch chi ei wneud gyda’r pynciau yr ydych yn eu hastudio. Ond dim ond yn yr ysgol neu’r coleg y byddan nhw’n eich gweld chi – ac efallai nad ydynt yn cael darlun cyflawn ohonoch.

Er enghraifft, efallai eich bod yn dawel yn y dosbarth ond yn treulio’ch amser hamdden yn cynhyrchu podlediadau neu’n gweithio ar radio ysbyty. Os felly, does dim i’ch rhwystro rhag dilyn gyrfa ym myd radio.

Mae’n werth cael cyngor o ffynonellau eraill hefyd: mae’r rhan fwyaf o ysgolion a cholegau yn cynnig gwersi gyrfaoedd a/neu wasanaeth gyrfaoedd.

Gallwch hefyd siarad â’ch cynghorwr Connexions Direct lleol.

Os ydych chi mewn addysg uwch

Gallwch gael cyngor am eich dewisiadau ar ôl graddio gan swyddfa gyrfaoedd eich prifysgol neu’ch coleg, ac mae digonedd o wybodaeth ar gael drwy wasanaeth Prospects.

Cyngor gan eich teulu a’ch ffrindiau

Gall fod yn ddefnyddiol cael cyngor gan y bobl sy’n eich adnabod orau, ond ni fyddant bob amser yn gwybod ryw lawer am yr yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi.

Cofiwch – eich gyrfa chi ydyw. Fe wyddoch beth rydych yn dda am ei wneud ac fe wyddoch beth hoffech chi ei wneud. Os yw’ch breuddwyd yn golygu dilyn trywydd gwahanol i ffrindiau a theulu, peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro.

Allweddumynediad llywodraeth y DU