Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod o hyd i swydd nawr

Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith un o gronfeydd data swyddi gwag mwyaf Prydain, sy'n cael ei diweddaru'n gyson. Mae miloedd o swyddi newydd ar gael bob wythnos. Gallwch hefyd chwilio am waith gwirfoddol a all eich helpu i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd tra byddwch yn chwilio am swydd.

Sut i ddefnyddio chwiliad swyddi'r Ganolfan Byd Gwaith

Chwilio am swydd

Chwilio am swydd nawr trwy ddefnyddio chwiliad swyddi'r Ganolfan Byd Gwaith

Mae'r chwiliad yn hawdd i'w ddefnyddio, hyd yn oed os nad oes gennych lawer o brofiad o ddefnyddio'r rhyngrwyd.

I ddechrau chwilio, teipiwch deitl swydd a lleoliad neu god post.

Os hoffech weld yr holl swyddi mewn ardal leol, teipiwch 'all jobs' yn hytrach na theitl swydd.

Cadw eich chwiliadau

Gallwch gofrestru gyda 'Fy chwiliadau' a sefydlu eich cofnod personol eich hun. Gallwch gadw eich hoff chwiliadau swyddi a chreu nodau tudalen ar gyfer swyddi.

Eich ffordd i mewn i waith – awgrymiadau a chyngor

Defnyddiwch y ddolen ganlynol ar gyfer help a chyngor ymarferol ar gynllunio eich chwiliad swydd, diweddaru eich CV neu baratoi ar gyfer cyfweliadau.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU