Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwirfoddoli tra'n chwilio am waith

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddatblygu a dysgu sgiliau newydd tra'ch bod yn chwilio am swydd. Gallai hyd yn oed gynyddu eich siawns o ddod o hyd i waith. I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am 'Cydweithio' - cymorth newydd y gallwch ei gael gyda gwirfoddoli gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Gwaith gwirfoddol

Mae llawer o fanteision i wirfoddoli. Mae'n ffordd wych o ddod yn rhan o amgylchedd gwaith a allai eich helpu i:

  • datblygu sgiliau newydd
  • ennill profiad
  • cael hyfforddiant mewn meysydd gwaith newydd
  • archwilio diddordebau gyrfa
  • cynyddu eich cysylltiadau, a allai arwain tuag at waith
  • magu eich hyder
  • datblygu a gwella eich CV

Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd wych o gefnogi eich cymuned a gall wneud gwahaniaeth mawr yn lleol.

Cydweithio - help i wirfoddoli

Os ydych yn cael budd-daliadau ac yn awyddus i wirfoddoli, gallwch gael help i ddod o hyd i gyfleoedd gan y Ganolfan Byd Gwaith, drwy 'Cydweithio'.

Gall 'Cydweithio' eich helpu i ddysgu mwy am wirfoddoli yn ogystal â rhoi gwybodaeth i chi am ble i ddod o hyd i gyfleoedd.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am 'Cydweithio', siaradwch â’ch ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ystod eich apwyntiad nesaf

Chwiliwch ar-lein am waith gwirfoddol

Mae tua 914,000 cyfleoedd gwirfoddoli ar gael ar-lein yn Lloegr (fel ar 30 Gorffennaf 2011). Mae llawer mwy ar gael ledled y Deyrnas Unedig gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Gallwch chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli drwy roi eich cod post neu'ch lleoliad. Gallwch hefyd ychwanegu pa mor bell rydych yn fodlon teithio. Er mwyn helpu i fireinio eich chwiliad, gallwch roi geiriau allweddol, er enghraifft enw elusen neu faes penodol o ddiddordeb.

Gwirfoddoli tra'n cael budd-daliadau

Ni ddylai gwirfoddoli effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau ar yr amod mai dim ond er mwyn talu treuliau gwirfoddoli y cewch yr arian. Gallai hyn fod ar gyfer pethau fel cost teithio o'ch cartref i'r lleoliad gwirfoddoli.

Nid oes terfyn ar faint o amser y gallwch wirfoddoli amdano, nac unrhyw gyfyngiadau ar y mathau o sefydliad y gallwch wirfoddoli iddynt. Yr unig ofyniad yw eich bod yn parhau i fodloni amodau’r budd-dal neu’r credyd treth rydych yn ei gael.

Defnyddiwch y ddolen ganlynol i weld rhagor o wybodaeth am wirfoddoli tra'n cael budd-daliadau.

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU