Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cydweithio - cyfleoedd gwirfoddoli i geiswyr gwaith

Mae Cydweithio ar gyfer unrhyw un sy'n ddi-waith ac yn chwilio am waith. Mae Cydweithio yn rhoi'r cyfle i chi wirfoddoli gyda sefydliad gwirfoddol lleol. Gall gwirfoddoli eich helpu i wella eich siawns o ddod o hyd i waith. Mynnwch wybod mwy, gan gynnwys pryd y gallwch gymryd rhan.

Cydweithio - beth ydyw

Mae Cydweithio yn un o'r gwasanaethau a gynigir gan y Ganolfan Byd Gwaith i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith.

Gall gwirfoddoli tra rydych yn chwilio am waith â thâl eich helpu i:

  • wella'r sgiliau sydd gennych eisoes
  • dysgu sgiliau newydd
  • rhoi cynnig ar rywbeth newydd fel y gallwch chwilio am fwy o fathau gwahanol o swyddi
  • magu eich hunanhyder
  • cael profiad go iawn mewn amgylchedd gwaith
  • gwella eich CV drwy ychwanegu eich cyfnod o brofiad gwaith
  • cael geirda sy'n gysylltiedig â gwaith
  • cynnal eich cymhelliant drwy gyflawni rhywbeth ar gyfer eich cymuned leol

Cymryd rhan

Os oes gennych ddiddordeb mewn Cydweithio, gall un o ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith:

  • egluro sut y gallai gwirfoddoli eich helpu wrth chwilio am waith
  • rhoi mwy o wybodaeth i chi am Cydweithio
  • dweud wrthych beth sydd ar gael yn eich ardal gan fod cyfleoedd yn amrywio
  • egluro beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn dechrau

Gall hefyd roi manylion i chi am sefydliadau lleol a all eich helpu i ddod o hyd i gyfle gwirfoddoli. Gallai'r rhain gynnwys:

  • sefydliadau lleol yn y sectorau gwirfoddol a chymunedol
  • Canolfannau Gwirfoddol a Chanolfannau Gwasanaethau Gwirfoddol yn y gymuned
  • sefydliadau sy'n rhoi cymorth ar-lein
  • sefydliadau â chyfleoedd gwirfoddoli penodol

Pwy all wirfoddoli?

Mae cymryd rhan yn Cydweithio:

  • yn gwbl wirfoddol
  • ar gael i unrhyw un sy'n ddi-waith ac yn chwilio am waith

Gallwch ymuno â Cydweithio ar unrhyw adeg oni bai ei bod yn ofynnol i chi gymryd rhan yn y Rhaglen Waith.

Gall un o ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith drafod gwirfoddoli gyda chi a chytuno ar p'un a yw'n addas i chi ai peidio.

Lwfans Ceisio Gwaith a Cydweithio

Er mwyn parhau i gael eich Lwfans Ceisio Gwaith tra'n gwirfoddoli, rhaid i chi:

  • barhau i chwilio am waith
  • mynd i'ch adolygiadau chwiliad gwaith rheolaidd

Cydweithio a budd-daliadau eraill

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill, byddwch yn parhau i'w cael cyn belled â'ch bod yn parhau i fodloni rheolau'r budd-dal hwnnw.

I gael mwy o wybodaeth am wirfoddoli tra'n cael budd-daliadau, defnyddiwch y ddolen ganlynol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU