Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Clybiau Gwaith - cymorth i'ch helpu i ddod o hyd i waith

Mae Clybiau Gwaith ar gyfer unrhyw un sy'n ddi-waith ac yn chwilio am waith. Mae Clybiau Gwaith yn rhoi'r cyfle i chi fanteisio i'r eithaf ar y wybodaeth leol sydd ar gael, i'ch cynorthwyo i chwilio am waith. Mynnwch wybod mwy, gan gynnwys sut i ymuno â Chlwb Gwaith.

Clybiau Gwaith - beth ydynt

Mae Clybiau Gwaith yn un o'r gwasanaethau a gynigir gan y Ganolfan Byd Gwaith i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith.

Caiff Clybiau Gwaith eu rhedeg gan grwpiau lleol, a allai gynnwys:

  • cyflogwyr lleol
  • sefydliadau gwirfoddol
  • grwpiau cymunedol
  • awdurdodau lleol

Mae gan y grwpiau hyn y wybodaeth a'r adnoddau i'ch helpu i ddod o hyd i waith. Gallant roi lle i chi a phobl eraill sy'n chwilio am waith i gyfarfod er mwyn:

  • rhannu syniadau ac awgrymiadau ar gyfer chwilio am waith
  • dod o hyd i swyddi a chyfleoedd hyfforddi
  • rhannu profiadau
  • cyfarfod â phobl a all eich helpu i wella eich siawns o ddod o hyd i swydd
  • cael y cymorth sydd ei angen arnoch i ddod o hyd i waith

Bydd pob Clwb Gwaith yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnoch i ddod o hyd i'r gwaith sydd ar gael yn lleol.

Gall rhai Clybiau Gwaith hefyd fod ar gael i gynorthwyo grwpiau penodol o bobl, er enghraifft, os ydych:

  • yn weithiwr proffesiynol
  • yn swyddog gweithredol
  • wedi colli eich swydd mewn diwydiant penodol
  • yn berson ifanc sydd rhwng 18 a 24 oed

Clybiau Gwaith – pwy all gymryd rhan?

Mae cymryd rhan mewn Clwb Gwaith yn gwbl wirfoddol. Maent ar gael i unrhyw unigolyn di-waith sy'n chwilio am waith. Gallwch ymuno â Chlwb Gwaith ar unrhyw adeg.

Gall un o ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith drafod y Clwb Gwaith â chi a chytuno ar p'un a yw'n addas i chi ai peidio.

Ymuno â Chlwb Gwaith

Siaradwch ag un o ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan. Gall:

  • egluro sut y gallai Clwb Gwaith eich helpu i chwilio am waith
  • rhoi rhagor o wybodaeth i chi am Glybiau Gwaith yn eich ardal
  • egluro beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn dechrau

Lwfans Ceisio Gwaith a Chlybiau Gwaith

Er mwyn parhau i gael eich Lwfans Ceisio Gwaith tra'n cymryd rhan mewn Clwb Gwaith, rhaid i chi:

  • barhau i chwilio am waith
  • mynd i'ch adolygiadau chwiliad gwaith rheolaidd

Clybiau Gwaith a budd-daliadau eraill

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill, byddwch yn parhau i'w cael cyn belled â'ch bod yn parhau i fodloni rheolau'r budd-dal hwnnw.

Rhagor o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU