Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael help gyda phroblemau cyffuriau neu alcohol sy'n eich rhwystro rhag gweithio

Os yw eich defnydd o gyffuriau neu alcohol yn eich rhwystro rhag gweithio, ond nid ydych yn derbyn triniaeth, gall y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu. I ddefnyddio’r gwasanaeth gwirfoddol hwn, siaradwch â'ch ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith. Gallant ddweud wrthych am yr help sydd ar gael gan weithiwr proffesiynol sy’n arbenigo mewn triniaethau ar gyfer cyffuriau neu alcohol.

Problemau cyffuriau neu alcohol - pwy all gael help?

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl sydd â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol sy'n eu rhwystro rhag dod o hyd i swydd, neu aros mewn swydd. Gall y gwasanaeth hefyd helpu pobl sydd â phroblem gyda chyffuriau ac alcohol.

Mae’n wasanaeth sy’n gwbl wirfoddol.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os:

  • ydych yn hawlio budd-dal
  • oes darparwr triniaeth addas ar gael yn eich ardal

Gall darparwyr triniaeth eich cynorthwyo wrth oresgyn eich dibyniaeth, er mwyn i chi allu manteisio o fod mewn gwaith.

Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys:

  • cyfeirio at wasanaeth triniaeth cyffuriau neu alcohol pe dymunech
  • apwyntiad cychwynnol gyda gwasanaeth trin cyffuriau neu alcohol i siarad am y cymorth sydd ar gael
  • cymorth cyflogaeth a hyfforddiant parhaus gan y Ganolfan Byd Gwaith

Siaradwch â’ch ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith neu’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf i gael cyngor ar:

  • y gwasanaethau triniaeth sydd ar gael yn eich ardal
  • sut i gael help gan wasanaethau triniaeth yn eich ardal

Cyffuriau neu alcohol - sut mae’r gwasanaeth gwirfoddol hwn yn gweithio

Os yw'ch dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn eich rhwystro rhag chwilio am swydd, cael swydd neu aros mewn swydd, trafodwch hyn gyda'ch ymgynghorydd personol y Ganolfan Byd Gwaith. Bydd eich ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gallu dweud wrthych am y gwasanaeth triniaeth agosaf.

Lle y bydd darparwr triniaeth addas ar gael, ac os hoffech fynychu, bydd eich ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith yn naill ai’n:

  • trefnu apwyntiad ar eich cyfer
  • rhoi’r wybodaeth i chi i wneud apwyntiad eich hun

Byddwch yn trafod gyda gweithiwr triniaeth broffesiynol. Byddant yn siarad â chi am wahanol ffyrdd i oresgyn eich dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol. Byddant hefyd yn siarad am yr ystod o ddewisiadau triniaeth sydd ar gael i chi.

Gall penderfynu ar y gefnogaeth orau i chi gymryd mwy nag un ymweliad i wasanaeth trin cyffuriau neu alcohol. Efallai y byddwch yn parhau i gael eich gweld yn yr un lle. Gallech hefyd fynd i wasanaeth gwahanol sy'n fwy addas ar gyfer eich amgylchiadau personol.

Chi sy’n penderfynu a ydych am gymryd rhan yn y rhaglen triniaeth cyffuriau neu alcohol ai peidio. Os penderfynwch gymryd rhan, bydd angen i chi gytuno gyda'ch gweithiwr proffesiynol pa fath o driniaeth fydd ei hangen arnoch, a pha agweddau eraill sydd angen sylw. Dylech ddisgwyl i'ch rhaglen driniaeth barhau am o leiaf dri mis. Dyma’r cyfnod lleiafswm sydd ei angen i’r driniaeth eich helpu.

Cedwir pob trafodaeth ac unrhyw drefniadau triniaeth yn gyfrinachol. Ni fydd eich darparydd triniaeth yn datgelu unrhyw wybodaeth am eich trafodaeth na'ch triniaeth â neb, nid â'r Ganolfan Byd Gwaith hyd yn oed, oni bai eich bod yn rhoi'ch caniatâd i rannu’r wybodaeth.

Cymorth gan eich ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith

Tra byddwch yn cael triniaeth, bydd eich ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith yn dal yno i'ch cefnogi .

Os dywedwch wrthynt am eich triniaeth, caiff ei gynnwys o fewn y trefniadau a wnewch mewn perthynas â:

  • dod o hyd i swydd
  • ennill sgiliau newydd
  • mynediad at hyfforddiant

Gallant gynnig cyngor ar y cymorth y gallai fod ar gael i chi.

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth ychwanegol sydd ar gael gan y Ganolfan Byd Gwaith, defnyddiwch y ddolen ganlynol.

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Allweddumynediad llywodraeth y DU