Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Academïau gwaith seiliedig ar sector – hyfforddiant, profiad gwaith a chyfweliad swydd gwarantedig

Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gallai academïau gwaith seiliedig ar sector wella eich siawns o ddod o hyd i waith. Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac yn rhoi'r cyfle i chi gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfweliad swydd gwarantedig neu brentisiaeth. Mynnwch wybod mwy, gan gynnwys pryd y gallwch ddechrau.

Academïau gwaith seiliedig ar sector - beth ydynt

Mae academïau gwaith seiliedig ar sector yn un o'r gwasanaethau a gynigir gan y Ganolfan Byd Gwaith i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith.

Mae academïau gwaith seiliedig ar sector ar gael ar hyn o bryd yn Lloegr a’r Alban. Mae cymorth tebyg ar gael ar gyfer hawlwyr drwy’r rhaglen Llwybrau at Waith yng Nghymru. Os ydych yn byw yng Nghymru, siaradwch â'ch ymgynghorydd yn y Ganolfan Byd Gwaith.

Os byddwch yn ymuno ag un o'r academïau gwaith seiliedig ar sector, byddwch yn cael y cyfle i:

  • gymryd rhan mewn hyfforddiant sy'n berthnasol i'r math o waith sydd ar gael yn eich ardal
  • cyflawni unedau tuag at gymhwyster perthnasol mewn rhai amgylchiadau
  • gwneud lleoliad profiad gwaith gyda chyflogwr sydd â gwaith sy'n cyfateb i'r hyfforddiant rydych wedi'i gael
  • mynd i gyfweliad gwarantedig ar gyfer swydd neu brentisiaeth.

Yn gyfan gwbl, gall academïau gwaith seiliedig ar sector bara am hyd at chwe wythnos. Caiff yr hyfforddiant a'r lleoliad profiad gwaith eu teilwra'n arbennig i'ch helpu i baratoi ar gyfer swydd wag go iawn.

Mae academïau gwaith seiliedig ar sector yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth rhwng:

  • Y Ganolfan Byd Gwaith
  • cyflogwyr
  • colegau
  • darparwyr hyfforddiant

Mae rhan profiad gwaith yr academi waith seiliedig ar sector yn rhoi’r cyfle i chi wneud yr hyn rydych wedi’i ddysgu yn eich hyfforddiant. Mae’n gyfle i chi gael profiad o weithio yn y diwydiant hwnnw gyda chyflogwr. Hefyd, mae’n cynnig y cyfle i chi brofi i gyflogwr pa mor dda y gallwch ei weithio.

Os byddwch yn cwblhau’r holl academi waith seiliedig ar sector, gallech fod yn fwy llwyddiannus wrth ddod o hyd i swydd llawn amser.

Cymryd rhan mewn academïau gwaith seiliedig ar sector

Siaradwch ag ymgynghorydd yn y Ganolfan Byd Gwaith os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn academïau gwaith seiliedig ar sector. Bydd yn gallu:

  • egluro sut y gallai academïau gwaith seiliedig ar sector wella eich siawns o ddod o hyd i waith
  • rhoi gwybodaeth i chi am academïau gwaith seiliedig ar sector yn eich ardal
  • egluro beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn dechrau
  • egluro beth fydd yn digwydd pan fyddant yn dod i ben

Pwy all gymryd rhan?

Efallai y gallwch gymryd rhan mewn academïau gwaith seiliedig ar sector os:

• ydych yn 18 oed neu'n hŷn ac yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith

• rydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ac rydych yn y Grŵp Gweithgaredd sy'n Gysylltiedig â Gwaith

Lwfans Ceisio Gwaith ac academïau gwaith seiliedig ar sector

Er mwyn parhau i gael Lwfans Ceisio Gwaith tra'n mynychu academïau gwaith seiliedig ar sector, rhaid i chi barhau i fynd i'ch adolygiadau chwiliad gwaith rheolaidd.

Er mwyn helpu tra byddwch yn cymryd rhan, gall y Ganolfan Byd Gwaith gynnig amseroedd gwahanol i chi fynd i'ch adolygiadau chwiliad gwaith rheolaidd. Er enghraifft, efallai y cewch fynd i'ch adolygiadau'n gynharach neu'n hwyrach yn y dydd na'r arfer.

Unwaith y byddwch yn cytuno i gymryd rhan mewn academi waith seiliedig ar sector, mae’n rhaid i chi gwblhau’r rhan hyfforddiant. Mae’n rhaid i chi hefyd fynd i unrhyw gyfweliad a gynigir i chi ar gyfer swydd neu brentisiaeth. Os na wnewch, gall effeithio ar eich budd-dal.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ac academïau gwaith seiliedig ar sector

Byddwch yn parhau i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyn belled â'ch bod yn bodloni'r rheolau y gwnaethoch gytuno iddynt i gael y budd-dal.

Unwaith y byddwch yn cytuno i gymryd rhan mewn academi waith seiliedig ar sector, mae’n rhaid i chi gwblhau’r rhan hyfforddiant. Os na wnewch, gall effeithio ar eich budd-dal.

Allweddumynediad llywodraeth y DU