Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Menter Newydd - cymorth busnes i geiswyr gwaith

Gall y Lwfans Menter Newydd helpu os ydych am ddechrau eich busnes eich hun. Os ydych wedi bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith am dri mis, gallech gael mentor a chymorth ariannol (ar ôl chwe mis) i'ch helpu i ddechrau eich busnes. Mynnwch wybod mwy, gan gynnwys sut i gymryd rhan.

Lwfans Menter Newydd - beth ydyw

Os oes gennych syniad da am fusnes rydych am ei ddechrau, gall y Lwfans Menter Newydd gynnig help a chymorth ymarferol i'ch paratoi ar gyfer hunangyflogaeth.

Mae dwy elfen i’r Lwfans Menter Newydd - Mentora Busnes a Chymorth ariannol

Mentora Busnes

Ar gael o dri mis - yn cynnig cefnogaeth trwy ddatblygu eich syniad busnes a thrwy’r gamau cynnar o fasnachu.

Cymorth ariannol

Ar gael o chwe mis - lwfans wythnosol sy'n daladwy dros 26 wythnos gwerth hyd at £1,274 - sy'n eich galluogi i sefydlu eich busnes eich hun a llif arian. Gallech hefyd gael benthyciad cost isel o hyd at £1,000 i helpu gyda chostau sefydlu busnes.

Ni chaiff y lwfans na'r benthyciad eu hystyried wrth gyfrifo:

  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor
  • credydau treth
  • Treth Incwm

Lwfans Menter Newydd - pwy all gymryd rhan?

Efallai y gallwch gymryd rhan yn y Lwfans Menter Newydd os:

  • rydych yn 18 oed a throsodd ac wedi bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith am chwe mis neu fwy
  • bod gennych syniad busnes da

Ni fydd y Lwfans Menter Newydd ar gael i chi os bydd angen i chi gymryd rhan yn y Rhaglen Waith.

Lwfans Menter Newydd - sut i gymryd rhan

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y Lwfans Menter Newydd, siaradwch â'ch ymgynghorydd yn y Ganolfan Byd Gwaith. Bydd yn gallu egluro'r canlynol:

  • sut mae'r Lwfans Menter Newydd yn gweithio
  • pwy fydd yn asesu eich syniad busnes
  • pwy sy'n rhoi'r cymorth ymarferol sydd ei angen arnoch
  • beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn dechrau a beth fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn disgwyl i chi ei wneud
  • faint o lwfans a gewch a sut y caiff ei dalu
  • y benthyciad - gan gynnwys ble y gallwch wneud cais am fenthyciad bach a fforddiadwy i'ch helpu gyda'ch costau dechrau busnes
  • beth fydd yn digwydd pan ddaw'r lwfans i ben

Os bydd gennych ddiddordeb o hyd, cewch eich gwahodd i fynd i sefydliad a fydd yn ystyried eich syniad busnes. Bydd yn penderfynu p'un a allai eich syniad weithio ai peidio. Os bydd yn penderfynu bod gan eich syniad botensial, bydd yn rhoi mentor busnes i chi i'ch helpu i baratoi ar gyfer hunangyflogaeth.

Am fwy o wybodaeth, siaradwch â'ch ymgynghorydd yn y Ganolfan Byd Gwaith. Bydd yn gallu:

  • rhoi mwy o wybodaeth i chi am y Lwfans Menter Newydd
  • trafod p'un a allai'r Lwfans Menter Newydd fod yn addas i chi

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU