Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Clybiau Menter - help i ddod yn hunangyflogedig neu ddechrau busnes

Gall Clybiau Menter helpu os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn hunangyflogedig neu ddechrau busnes. Os ydych yn ddi-waith, mae Clybiau Menter yn cynnig y cyfle i gyfarfod â phobl eraill sydd am fod yn hunangyflogedig, pobl sy'n hunangyflogedig ac ymgynghorwyr busnes. Mynnwch wybod mwy, gan gynnwys pryd y gallwch gymryd rhan.

Clybiau Menter - beth ydynt

Mae Clybiau Menter yn un o'r gwasanaethau a gynigir gan y Ganolfan Byd Gwaith i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith.

Bydd pob Clwb Menter yn cynnig gwasanaethau gwahanol. Gall hyn gynnwys y cyfle i:

  • gyfarfod â phobl sydd eisoes yn hunangyflogedig, a all ddweud wrthych am eu profiadau
  • cyfarfod â phobl sydd am fod yn hunangyflogedig - er mwyn rhannu eich syniadau a'ch sgiliau ac annog eich gilydd i weithio drwy eich syniadau busnes
  • cael gwybodaeth a chyngor ar ddechrau busnes
  • cael cyngor ariannol a chyfreithiol a chyngor ar y farchnad
  • mynediad i'r rhyngrwyd
  • cael cyngor ar fudd-daliadau y gallech eu cael tra byddwch yn gweithio

Caiff Clybiau Menter eu rhedeg gan sefydliadau lleol, a allai gynnwys:

  • cyflogwyr
  • sefydliadau busnes
  • awdurdodau lleol
  • Siambrau Masnach
  • sefydliadau gwirfoddol
  • grwpiau cymunedol

Os oes gennych ddiddordeb mewn Clybiau Menter, gall un o ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith:

  • egluro sut y gallai Clwb Menter eich helpu os ydych yn ystyried mynd yn hunangyflogedig
  • rhoi mwy o wybodaeth i chi am Glybiau Menter yn eich ardal
  • egluro beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn dechrau

Pwy all gymryd rhan mewn Clwb Menter?

Mae cymryd rhan mewn Clwb Menter:

  • yn gwbl wirfoddol
  • ar gael i unrhyw un sy'n ddi-waith - cyn belled â bod un yn cael ei redeg yn eich ardal

Gallwch ymuno â Chlwb Menter ar unrhyw adeg oni bai ei bod yn ofynnol i chi gymryd rhan yn y Rhaglen Waith.

Mynnwch wybod mwy am Glybiau Menter

I gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal, cysylltwch â swyddfa leol y Ganolfan Byd Gwaith.

Lwfans Ceisio Gwaith a Chlybiau Menter

Er mwyn parhau i gael eich Lwfans Ceisio Gwaith tra'n mynychu Clwb Menter, rhaid i chi:

  • barhau i chwilio am waith
  • mynd i'ch adolygiadau chwiliad gwaith rheolaidd

Clybiau Menter a budd-daliadau eraill

Os ydych yn cael budd-daliadau eraill, byddwch yn parhau i'w cael cyn belled â'ch bod yn parhau i fodloni rheolau'r budd-dal hwnnw.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU