Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Profiad gwaith - lleoliadau gwaith i geiswyr gwaith

Mae profiad gwaith ar gyfer unrhyw un rhwng 16 a 24 oed sy'n cael Lwfans Ceisio Gwaith. Mae'n rhoi'r cyfle i chi gymryd rhan mewn lleoliad gwaith gyda chyflogwr go iawn. Gallai fod yn ddefnyddiol os nad oes gennych lawer o brofiad gwaith diweddar neu ddim o gwbl. Mynnwch wybod mwy, gan gynnwys sut i ymuno.

Profiad gwaith - beth ydyw

Mae profiad gwaith yn un o'r gwasanaethau a gynigir gan y Ganolfan Byd Gwaith i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith.

Mae profiad gwaith yn rhoi'r cyfle i chi:

  • wella eich siawns o ddod o hyd i waith
  • gweld sut y gellir defnyddio'r sgiliau sydd gennych eisoes mewn gweithle
  • cael profiad gwaith bywyd go iawn
  • magu eich hyder
  • ychwanegu at eich CV
  • cael geirda

Gall lleoliad profiad gwaith:

  • bara rhwng pythefnos ac wyth wythnos
  • bod yn brofiad gwaith ymarferol am 25 i 30 awr yr wythnos

Efallai y gallwch gael help gan y Ganolfan Byd Gwaith hefyd ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â mynd i'ch lleoliad profiad gwaith. Gallai hyn helpu gyda phethau fel eich:

  • costau teithio
  • costau gofal plant

Dod o hyd i leoliad profiad gwaith

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael profiad gwaith, gall ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith:

  • egluro sut y gallai profiad gwaith wella eich siawns o ddod o hyd i waith
  • rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y lleoliadau gwaith sydd ar gael yn eich ardal
  • cadarnhau a allwch gael unrhyw help gyda'ch costau teithio a gofal plant - ni fydd pawb yn gallu cael help
  • egluro beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn dechrau
  • egluro beth fydd yn digwydd pan ddaw eich profiad gwaith i ben

Gallwch hefyd ddod o hyd i'ch lleoliad profiad gwaith eich hun. Os byddwch yn gwneud hyn, rhaid i chi ddweud wrth eich ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith ar unwaith fel y gellir trefnu'r lleoliad rydych wedi dod o hyd iddo yn ffurfiol gyda'r Ganolfan Byd Gwaith.

Pwy all gymryd rhan?

Gallwch wirfoddoli am gyfnod o brofiad gwaith os ydych:

  • rhwng 16 a 24 oed
  • yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith

Gallwch ymuno â phrofiad gwaith:

  • pan fyddwch wedi bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith am 13 wythnos
  • hyd nes ei bod yn ofynnol i chi gymryd rhan yn y Rhaglen Waith

Lwfans Ceisio Gwaith a phrofiad gwaith

Er mwyn parhau i gael eich Lwfans Ceisio Gwaith tra'n cymryd rhan mewn Profiad Gwaith, rhaid i chi:

  • barhau i chwilio am waith
  • mynd i'ch adolygiadau chwiliad gwaith rheolaidd

Er mwyn helpu yn ystod eich lleoliad, efallai y gall y Ganolfan Byd Gwaith gynnig amseroedd gwahanol i chi fynd i'ch adolygiadau chwiliad gwaith rheolaidd. Er enghraifft, efallai y cewch fynd i'ch adolygiadau'n gynharach neu'n hwyrach yn y dydd na'r arfer.

Manteisio i'r eithaf ar eich lleoliad profiad gwaith

Mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi llunio rhai awgrymiadau ar sut i fanteisio i'r eithaf ar eich lleoliad gwaith.

Gallwch lawrlwytho taflen ffeithiau 'profiad gwaith - Rhai awgrymiadau defnyddiol' y Ganolfan Byd Gwaith gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU