Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer teuluoedd sydd â phroblemau amrywiol

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn defnyddio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) i ariannu Cymorth ar gyfer Teuluoedd sydd â Darpariaethau Amrywiol yn Lloegr. Nod y ddarpariaeth yw helpu pobl mewn teuluoedd sydd â phroblemau neu hanes o beidio â gweithio symud yn agosach tuag at gyflogaeth. Mynnwch wybod pwy sy'n gymwys a sut i ddod o hyd i help yn eich ardal.

Ar gyfer pwy y mae?

I gael yr help hwn dylai o leiaf un aelod o'r teulu fod yn cael budd-dal oedran gweithio’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'r rhain yn cynnwys Lwfans Ceisio Gwaith a Chymhorthdal Incwm. Hefyd, ni ddylai fod gan unrhyw un yn y teulu swydd, neu dylai fod hanes o ddiweithdra yn eich teulu.

Pa help sydd ar gael?

Bydd teuluoedd yn cael cymorth gydag o leiaf dri o'r canlynol:

  • problemau yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol
  • hunangyflogaeth
  • sgiliau magu plant
  • rheoli arian y teulu
  • ymwybyddiaeth gymunedol
  • rheoli a datrys materion yn y cartref
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • cyflyrau iechyd

Cewch hefyd gymorth a chyngor ar ddychwelyd i'r gwaith.

Mae'r rhaglen yn cael ei rhedeg ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau gan sefydliadau a elwir yn 'darparwyr'.

Mae darparwyr yn sefydliadau proffesiynol a fydd yn cynnig cymorth sydd wedi'i deilwra i ddiwallu eich anghenion. Mae darparwyr yn ystyried eich teulu cyfan, nodi anghenion aelodau unigol o'r teulu ac yn datblygu cynllun gweithredu unigol.

Mae'r rhaglen yn wirfoddol ac yn para am 12 mis.

Mae Awdurdodau Lleol yn gweithio gyda theuluoedd a byddant yn nodi’r bobl o fewn teuluoedd a fyddai’n elwa o’r ddarpariaeth hwn.

Beth i’w wneud os oes gennych ddiddordeb

Cysylltwch â’ch darparwr lleol am ragor o wybodaeth.

Rhaglenni eraill yr Adran Gwaith a Phensiynau a ariennir gan ESF

Defnyddir ESF i ariannu lleoedd gwirfoddol ar y Rhaglen Waith ar gyfer pobl sy'n cael Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm.

Cewch ragor o wybodaeth am y Rhaglen Waith drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol.

Darparwyd gan European Social Fund

Allweddumynediad llywodraeth y DU