Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall y Rhaglen Waith eich helpu i baratoi ar gyfer gwaith, dod o hyd i waith ac aros mewn gwaith. Os ydych eisoes yn gweithio rhan-amser, gallai eich helpu i gynyddu eich oriau. Dewch i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys pryd y mae'n rhaid i chi gymryd rhan.
Darperir y Rhaglen Waith ar gyfer y Ganolfan Byd Gwaith gan sefydliadau arbenigol, a elwir yn 'ddarparwyr'.
Bydd eich darparwr yn rhoi'r holl gymorth sydd ei angen arnoch i ddod o hyd i waith ac i aros mewn gwaith, hyd yn oed os byddwch yn:
Gall y Rhaglen Waith gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau i’ch helpu i ddod o hyd i waith fel:
Bydd y cymorth a gewch yn cael ei deilwra i'ch anghenion a’ch amgylchiadau unigol. Bydd eich ymglymiad i’r Rhaglen Waith yn para hyd at ddwy flynedd.
Bydd un o ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith yn esbonio:
Os bydd yn rhaid i chi gymryd rhan yn y Rhaglen Waith, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ysgrifennu atoch yn gofyn i chi fynd i gyfweliad.
Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd rhan os ydych yn cael un o’r canlynol:
Lwfans Ceisio Gwaith a’r Rhaglen Waith
Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith, efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd rhan yn y Rhaglen Waith ar ôl:
Efallai y gallech ymuno â'r Rhaglen Waith yn gynharach, os byddwch chi a'ch ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cytuno ar hyn.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a’r Rhaglen Waith
Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, ac yn rhan o’r grŵp gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith, efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd rhan yn y Rhaglen Waith. Ceir rhai eithriadau i hyn, er enghraifft, os ydych yn:
Os nad oes yn rhaid i chi gymryd rhan, gallwch wirfoddoli i ymuno â’r Rhaglen Waith.
I wirfoddoli, mae’n rhaid eich bod yn cael:
Os ydych yn byw yn Lloegr, gallwch hefyd wirfoddoli os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd neu Gymhorthdal Incwm. Nid yw hyn yn berthnasol os ydych yn byw yng Nghymru neu yn yr Alban.
Ni fydd pawb sy'n gwirfoddoli i ymuno â'r Rhaglen Waith yn gallu gwneud hynny. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall y Ganolfan Byd Gwaith gynnig cymorth gwahanol yn lle hynny.
I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch ag ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.
Gall fod yn anodd iawn dod o hyd i gyflogwyr a fydd yn recriwtio pobl sydd ag ychydig neu ddim profiad - a dyna lle gall y Cytundeb Ieuenctid eich helpu. Dylech siarad â'ch ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith am eich amgylchiadau.
Efallai y byddwch yn cael cynnig ystod o opsiynau, gan gynnwys:
Gofynnwch i'ch ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith yr hyn y gall y Cytundeb Ieuenctid ei wneud i'ch helpu i gael sgiliau, profiad neu hyfforddiant swydd.
Cael mwy o wybodaeth am y Rhaglen Waith drwy ddefnyddio'r dolenni canlynol.