Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bod yn ddiogel wrth chwilio am waith

Pan fyddwch yn chwilio am waith, beth bynnag yw’r hysbysiad swydd, chi sy’n gyfrifol am amddiffyn eich diogelwch eich hun. Dyma ychydig o awgrymiadau diogelwch ynghylch diogelu eich manylion personol a’r camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich hun pan fyddwch yn chwilio am waith.

Byddwch yn ddiogel wrth chwilio am waith

Mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi cynhyrchu'r awgrymiadau sylfaenol canlynol ar sut i aros yn ddiogel wrth chwilio am waith.

Rhifau Ffôn

Ni ddylech fyth ffonio rhif cyfradd bremiwm i gael mwy o wybodaeth am y swydd wag. Mae hyn oherwydd eu bod yn ddrud iawn i’w ffonio. Mae rhifau cyfradd premiwm fel arfer yn dechrau gyda'r rhifau 070 neu 090.

Os byddwch yn ffonio rhif sy’n dechrau gydag 0871 i ofyn am y swydd wag, dylid ei ateb o fewn pum munud. Os na chaiff ei ateb, peidiwch â:

  • pharhau gyda’r alwad ffôn
  • ceisio cadw ffonio'r rhif

Mae hyn oherwydd y gall galwadau i rifau 0871 fod yn ddrud.

Gofyn neu ymgeisio am swydd

Pan fyddwch yn gofyn neu’n ymgeisio am swydd, peidiwch â byth:

  • rhoi eich manylion ariannol personol, fel cyfrif banc
  • rhoi eich rhif Yswiriant Gwladol
  • rhoi eich dyddiad geni
  • rhoi eich rhif trwydded yrru
  • rhoi eich rhif pasbort
  • rhoi copïau o’ch biliau gwasanaethau
  • darparu ffotograff
  • darparu unrhyw fanylion eraill y credwch eu bod yn bersonol

Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddarparu’r manylion hyn pan gewch gynnig swydd go iawn neu pan fyddwch yn dechrau swydd.

Dylech hefyd fyth:

  • dalu unrhyw ffioedd ymlaen llaw am help gyda chwiliad gwaith neu hyfforddiant
  • caniatáu i’r cyfweliad gymryd lle yn eich cartref
  • siarad am faterion personol sy’n gwbl amherthnasol i’r swydd
  • derbyn lifft gan y person sy’n eich cyfweld

Dylech bob amser ystyried:

  • canfod cymaint ag y gallwch am y cwmni neu’r person sy’n eich cyfweld
  • sut y byddwch yn teithio yn ôl ac ymlaen o’r cyfweliad
  • dweud wrth ffrind neu berthynas lle rydych yn mynd a pha amser i’ch disgwyl yn ôl
  • ceisio trefnu i rywun i’ch casglu os cynhelir y cyfweliad y tu allan i oriau gwaith arferol
  • sicrhewch fod y cyfweliad yn cael ei gynnal ar safle gwaith y cwmni neu mewn man cyhoeddus addas

Ar gyfer swyddi sy'n cynnig lle i fyw gyda nhw, dylech bob amser sicrhau eich bod yn edrych ar y llety cyn derbyn y swydd. Os yw’n bosibl peidiwch â mynd yno ar eich pen eich hun, hyd yn oed os yw’n golygu bod ffrind neu aelod o'r teulu yn gorfod aros y tu allan i chi.

Cael rhagor o gymorth a chyngor

Os oes gennych unrhyw bryderon am swydd wag, gofynnwch i’r Ganolfan Byd Gwaith am gyngor. Er enghraifft, os byddwch:

  • o’r farn bod y swydd yn cynnig gormod o arian am beth ydyw
  • yn ansicr am y cwmni

Darparwyd gan Jobcentre Plus

Additional links

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli eich helpu chi a’ch cymuned – cael gwybod mwy

Dechrau masnachfraint

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hunangyflogedig, efallai y bydd dechrau masnachfraint yn opsiwn sy’n werth ei ystyried

Allweddumynediad llywodraeth y DU