Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n dymuno mynd i addysg uwch, mae llawer o ddewisiadau ar gael. Nid yw addysg uwch o anghenraid yn ymwneud ag ennill Safon Uwch – gallwch astudio'n llawn amser i gael cymwysterau cysylltiedig â gwaith neu ddewis gwneud Prentisiaeth. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu astudio ar gyfer cymhwyster Diploma Pellach.
Atebion i gwestiynau cyffredin ar y broses clirio a mwy
Gall addysg uwch gynnig dewisiadau newydd i chi yn eich gyrfa, a dengys ymchwil ei bod yn nodweddiadol i bobl a chanddynt gymwysterau addysg uwch ennill mwy o arian na phobl sydd heb gymwysterau o’r fath. Efallai y bydd ganddynt fwy o sicrwydd swydd hefyd.
Nid yw addysg uwch o anghenraid yn ymwneud â chael gradd draddodiadol. Gallech ddewis gwneud Gradd Sylfaen, a chyfuno astudiaeth academaidd â dysgu yn y gweithle. Gallech hefyd ddewis cymhwyster cysylltiedig â gwaith, fel Tystysgrif Genedlaethol Uwch neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch.
Beth bynnag yw’ch diddordebau, mae'n bur debyg y dewch o hyd i gwrs y gwnewch ei fwynhau – bydd mwy o lawer o bynciau i ddewis ohonynt nag a gafwyd yn yr ysgol.
Bydd prifysgolion a cholegau’n pennu eu gofynion mynediad eu hunain, felly byddant yn amrywio o un cwrs i’r llall. Pan fyddwch chi’n dewis beth i’w wneud yn 16 oed, mae’n bwysig cael gwybod pa gymwysterau a graddau y mae’n debygol y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y math o gwrs addysg uwch y dymunwch ei ddilyn.
Ar gyfer cyrsiau amser llawn, gallwch edrych am ofynion mynediad ar wefan UCAS. Ar gyfer cyrsiau rhan-amser, ceisiwch gael gafael ar brosbectws y brifysgol neu'r coleg – mae'r rhan fwyaf ar gael ar-lein erbyn hyn.
Yn dibynnu ar y cwrs y dymunwch ei ddilyn, ceir dau brif lwybr a all eich arwain at addysg uwch:
Os byddwch yn penderfynu aros mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11, ceir amrywiaeth o gymwysterau academaidd, cymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith a chymwysterau sy'n seiliedig ar sgiliau y gallwch eu dewis er mwyn mynd i addysg uwch.
Yn gyffredinol, bydd arnoch angen cymwysterau ar lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Ar gyfer myfyrwyr o’r DU, mae hyn fel arfer yn golygu:
Gall cymwysterau Sgiliau Allweddol hefyd gyfri tuag at eich cais (Sgiliau Allweddol yw'r sgiliau angenrheidiol y mae cyflogwyr angen i'w gweithwyr eu cael).
Gall myfyrwyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig wneud cais am gyrsiau gyda chymwysterau fel y Fagloriaeth Ryngwladol, y Fagloriaeth Ewropeaidd a Thystysgrif Gadael Iwerddon.
Os ydych chi'n dymuno dechrau gweithio ar ôl Blwyddyn 11, gall Prentisiaeth fod yn llwybr at addysg uwch.
Fel arfer, bydd angen i chi ddilyn Prentisiaeth Uwch. Mae hyn yn arwain at NVQ lefel 3 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.
Fel Prentis, byddwch hefyd yn astudio ar gyfer Sgiliau Allweddol, tystysgrif dechnegol neu gymhwyster arall sy'n berthnasol i'ch swydd. Gall y rhain hefyd gyfrif tuag at fynediad i addysg uwch.
Profiad gwaith
Ar gyfer rhai cyrsiau – er enghraifft, nifer o Raddau Sylfaen – bydd y sefydliad y byddwch yn gwneud cais i fynd iddo yn edrych ar eich profiad gwaith yn ogystal ag ar eich cymwysterau.
Os penderfynwch eich bod am fynd i addysg uwch, mae cymorth ariannol ar gael. Ar gyfer cyrsiau amser llawn, gallwch wneud cais am Fenthyciadau Myfyrwyr er mwyn talu am eich ffioedd a'ch costau byw. Ni fydd yn rhaid i chi ddechrau ad-dalu'r rhain nes eich bod wedi gadael eich cwrs ac yn ennill dros £15,000 y flwyddyn.
Gallech hefyd fod yn gymwys ar gyfer Grant Cynhaliaeth nad oes angen ei ad-dalu. Mae'n bosib y bydd cymorth ychwanegol nad oes angen ei ad-dalu ar gael os oes gennych anabledd, neu os oes gennych blant neu oedolion sy'n ddibynnol arnoch. Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol ar ffurf bwrsari gan eich prifysgol neu'ch coleg. Gweler 'Cyllid myfyrwyr' i gael gwybod mwy.
Gallwch ddechrau arni drwy edrych ar y cyfeirlyfrau, y prosbectysau a'r meddalwedd gyrfaoedd a geir yng Nghanolfan Adnoddau Connexions eich ysgol neu yn eich Partneriaeth Connexions lleol.
Os ydych rhwng 13 a 19 oed, gallwch hefyd gysylltu â chynghorydd Connexions Direct i gael cyngor cyfrinachol am ddim – drwy ffonio, anfon e-bost, sgwrsio ar y we neu anfon neges destun.
Ceir llawer o wybodaeth yn ‘Eich dyfodol, eich dewis’ - canllaw Aimhigher ar gyfer pobl ifanc 16 oed a hŷn.
Gallwch lawrlwytho copi isod, neu archebu un:
Nodwch y cyfeirnod ‘16PLUS09’. Gellir cael copïau mewn Braille, mewn print bras neu ar dâp sain.