Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ar ôl eich canlyniadau arholiad: cwestiynau poblogaidd

Os nad ydych yn cael y canlyniadau yr oeddech yn disgwyl, gall hyn eich gadael yn ansicr ynghylch beth i’w wneud nesaf. Ceir atebion ar y dudalen hon i rai cwestiynau cyffredin gan fyfyrwyr sydd newydd sefyll arholiadau Safon A, TGAU a rhai cyfwerth.

Os nad ydych yn cael y canlyniadau arholiad yr oeddech yn eu disgwyl

Beth ddylech chi ei wneud os na chewch chi'r graddau sy'n ofynnol ar gyfer eich cwrs mewn prifysgol?

Mae'n werth gweld a yw'r sefydliad yn fodlon cadarnhau eich lle beth bynnag, yn enwedig os oeddech chi'n agos iawn at y graddau gofynnol.

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth 'Trac' i weld a yw'ch lle wedi'i gadarnhau. Os mai dim ond o drwch blewyn yr ydych wedi methu â chyrraedd amodau eich cynnig, ffoniwch y brifysgol.

Mae Trac yn eich galluogi i weld sut mae'ch ceisiadau prifysgol yn dod yn eu blaen. I'w ddefnyddio, bydd arnoch angen eich rhif cais UCAS ac enw defnyddiwr a chyfrinair Trac. Bydd eich enw defnyddiwr a chyfrinair Trac yr un fath â'r rhai a ddefnyddioch i wneud cais.

I gael mwy o wybodaeth am 'Trac' gweler yr erthygl 'Newid eich cais i UCAS'.

Os ydych yn aflwyddiannus gyda’ch dewis cyntaf, ond yn diwallu amodau eich ail dewis, cewch eich derbyn yno.

Os nad ydych yn cyrraedd gofynion eich dau cynnig, cewch siawns arall i gael lle – gweler yr adran ar ‘Y Drefn Gliro’ isod.

Beth yw eich opsiynau os ydych yn gwneud yn well nag yr oeddech yn disgwyl?

Os byddwch nid yn unig yn cyrraedd holl gyflyrau’ch dewis pendant, ond yn rhagori ynddynt (er enghraifft, drwy gael graddau Lefel A uwch nag sydd angen arnoch), gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth UCAS ‘Adjustment’ newydd i edrych ar opsiynau eraill.

Mae ‘Adjustment’ yn wasanaeth newydd sy’n eich gadael chi i chwilio am gyrsiau eraill am amser byr tra bod eich lle gweiddiol sydd wedi’i gadarnhau yn cael ei ddal.

Derbyn cynnig gan brifysgol neu goleg

Allwch chi wrthod cynnig cadarn am le er mwyn derbyn cynnig wrth gefn?

Gan eich bod wedi gwneud ymrwymiad i'ch cynnig cadarn yn wreiddiol, chewch chi ddim gwrthod eich lle ar y cam hwn. Os yw eich dewis cadarn eisoes wedi cadarnhau eich lle, byddant wedi hysbysu eich dewis wrth gefn – ac efallai y bydd eich dewis wrth gefn wedi cynnig eich lle chi i rywun arall.

Sicrhewch fod eich dewis wrth gefn yn fodlon eich ystyried drwy'r broses Clirio, yna cysylltwch â'ch dewis cadarn i egluro'r sefyllfa. Os yw eich dewis cadarn yn cytuno i'ch rhyddhau, gall eich dewis wrth gefn gwneud cynnig i chi drwy’r broses Clirio.

Ni allwch dderbyn eich cynnig wrth gefn heb gael eich rhyddhau gan eich cynnig cadarn.

Y Drefn Glirio

Beth sy'n digwydd os byddwch yn ymgeisio'n hwyr, neu os na chewch gynnig?

Os byddwch yn gwneud cais yn hwyr (yn y rhan fwyaf o achosion, ar ôl 30 Mehefin ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi), cewch eich trosglwyddo i’r drefn Glirio yn awtomatig.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r system Glirio os nad ydych yn derbyn unrhyw gynigion, neu os nad yw eich cynigion wedi'u cadarnhau (er enghraifft, oherwydd na chawsoch chi’r graddau gofynnol). Mae'r system Glirio hefyd yn opsiwn os penderfynwch wrthod y cynigion y byddwch yn eu derbyn.

Gewch chi dderbyn mwy nag un cwrs drwy'r system Glirio?

Na chewch. Cewch siarad â chymaint o brifysgolion a cholegau ag yr hoffwch yn ystod y broses Glirio, ond dim ond un cwrs gewch chi ei dderbyn. Cyn gwneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis yr un iawn.

Pryd mae'r broses Glirio'n digwydd?

Mae’r drefn Glirio ar gael o ganol Gorffennaf tan ganol Medi.

Ailsefyll ac ail-farcio arholiadau

Allwch chi ail-wneud eich arholiadau Safon UG/Safon Uwch er mwyn gwella'ch marciau?

Gofynnwch am gyngor gan eich athrawon yn yr ysgol i ddechrau, a siaradwch â'ch rhieni. Gallwch hefyd drafod eich opsiynau gyda chynghorydd Connexions.

Y cam nesaf yw cysylltu â thiwtoriaid mynediad y cyrsiau yr ydych yn gwneud cais i fynd arnynt. Cofiwch, gydag ailsefyll arholiadau, y gallant ofyn am raddau uwch na'r graddau a nodwyd yn y cynnig sylfaenol, ac efallai y byddant eisiau i'ch holl raddau ddod o un eisteddiad.

Mae digon o ddewisiadau ar gael o ran prifysgolion ac addysg uwch – sicrhewch eich bod yn archwilio pob un ohonynt.

Sut y gellir ail-farcio eich Safon UG/Safon Uwch?

Trafodwch y mater gyda'ch athrawon cyn gynted ag sy’n bosibl. Rhaid i'r sefydliad lle safoch chi'r arholiad benderfynu a ydynt am wneud cais am ail-farcio ar eich rhan: chewch chi ddim gwneud cais yn uniongyrchol i gorff dyfarnu.

Blynyddoedd bwlch

Beth yw’r dewisiadau wrth gymryd blwyddyn fwlch?

Cyn penderfynu cymryd blwyddyn fwlch, gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod eich cynlluniau gyda thiwtor derbyn y cwrs yr ydych wedi'i ddewis.

Os penderfynwch fwrw 'mlaen, mae eich dewisiadau'n cynnwys gwneud gwaith gwirfoddol, gweithio dramor a dilyn cwrs. I gael mwy o syniadau, ewch i 'Trefnu blwyddyn fwlch'.

Allweddumynediad llywodraeth y DU