Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae adolygu'n fwy na dim ond darllen drwy'r nodiadau a wnaethoch yn y dosbarth - mae hefyd yn golygu gwybod sut i ateb y cwestiynau pan fyddwch yn yr arholiad. Bydd defnyddio hen bapurau arholiad i ymarfer yn helpu i wneud y gwaith o basio arholiadau'n haws.
Mae adolygu'n cael yr effaith orau pan fyddwch yn ymarfer yr hyn y byddwch yn ei wneud yn yr arholiad - sef ateb cwestiynau. Drwy ganolbwyntio ar ffeithiau allweddol a'u hysgrifennu ar bapur fel atebion arholiad, byddwch yn ei chael yn haws cofio'r hyn a ddysgoch yn y dosbarth.
Yn yr arholiad, disgwylir i chi ateb cwestiynau ar y pynciau a astudiwyd gennych yn y dosbarth, sy'n golygu y bydd angen set lawn o nodiadau arnoch i adolygu. Os methoch rhai dosbarthiadau, efallai na fydd eich nodiadau'n gyflawn.
I wneud yn siŵr bod yr holl nodiadau gennych, sicrhewch fod eich nodiadau'n cyfateb i'r rhestr wirio ar gyfer adolygu y byddwch yn ei derbyn gan eich athro. Os bydd y rhestr wirio'n dangos nad oes gennych nodiadau ar gyfer rhai pynciau, gofynnwch i'ch athro pa benodau o'r gwerslyfr pwnc y bydd angen i chi eu darllen er mwyn gwneud nodiadau i lenwi'r bylchau.
Fis cyn i chi sefyll yr arholiad, bydd eich athro fel arfer yn rhoi copïau o hen bapurau arholiad i'r dosbarth. Mae'r rhain yn ddelfrydol i'w defnyddio i ymarfer ateb cwestiynau arholiad.
Does dim rhaid i chi aros tan hynny. Gallwch ddechrau ymarfer yn gynt drwy ddarllen drwy eich gwerslyfr pwnc a fydd fel arfer yn cynnwys rhai cwestiynau arholiad enghreifftiol.
Gellir llwytho mwy o gwestiynau arholiad er mwyn ymarfer, ynghyd â'u hatebion (y cynllun marcio), oddi ar wefannau byrddau arholiad. Dyma brif fyrddau arholi Lloegr:
Mae hen bapurau arholiad yn ddefnyddiol iawn wrth i chi roi trefn ar eich nodiadau adolygu. Trefnwch eich nodiadau yn yr un drefn ag y mae'r testunau'n ymddangos yn y papur arholiad. Ar ôl i chi wneud hyn, ceisiwch gofio'r ffeithiau allweddol sy'n ofynnol ar gyfer pob pwnc. Fe welwch fod trefnu'ch nodiadau yn ei gwneud yn haws i chi eu cofio ac yn gwella'ch cof.
Po hawsaf yw cofio'r ffeithiau, cyflymaf y gallwch eu hysgrifennu yn yr arholiad.
Mae pasio arholiadau gyda'r marciau gorau posib yn golygu gwybod beth i'w ysgrifennu a beth i'w adael allan. Does dim rhaid i chi ysgrifennu popeth yr ydych yn ei gofio ac mae cael hyn yn iawn yn gofyn am ymarfer.
Cyn i chi ddechrau ysgrifennu, darllenwch y rhif yn y cromfachau ar ôl bob cwestiwn. Mae hwn yn nodi sawl marc a roddir am bob cwestiwn ac yn rhoi cliw i chi ynghylch hyd yr ateb. Er enghraifft, mae cwestiwn tri phwynt yn golygu y bydd yn rhaid i chi nodi tair ffaith; gyda chwestiwn lle rhoddir mwy o farciau, rhaid rhoi mwy o ffeithiau ac ateb hirach bob amser.
Dyma rai cliwiau a geir mewn cwestiynau arholiad:
Unwaith i chi gwblhau'r papur arholiad enghreifftiol gallwch weld a ydych wedi ateb y cwestiynau'n gywir drwy gymharu eich atebion gyda'r cynllun marcio y gellir ei lwytho oddi ar wefan y bwrdd arholi.