Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gwaith cwrs yn rhan bwysig o'r cymwysterau y byddwch yn astudio ar eu cyfer ym Mlynyddoedd 10 i 13. Bydd dilyn yr awgrymiadau a'r cynghorion hyn yn eich helpu i ymdopi.
Gall llawer o'r pynciau y byddwch yn eu hastudio ym Mlynyddoedd 10 i 13 gynnwys elfen sylweddol o waith cwrs, felly mae'n bwysig i chi wneud eich gorau os ydych chi'n dymuno cael graddau da.
Rydych chi'n llawer mwy tebygol o wneud yn dda os ydych:
Pethau i'w hosgoi
Yn yr un modd, ceir rhai pethau pendant na ddylech eu gwneud os ydych am roi'r cyfle gorau i chi'ch hun wneud yn dda.
Mae'n bwysig iawn mai eich gwaith chi eich hun yw'r gwaith cwrs yr ydych yn ei gynhyrchu. Twyllo yw copïo darnau mawr o destun a chymryd arnoch mai chi sydd wedi eu hysgrifennu - fe'i gelwir yn 'llên-ladrad'.
Gallwch fod yn euog o lên-ladrad os ydych chu'n copïo o ffynonellau fel y rhain:
Os ydych yn syml yn copïo gwaith rhywun arall, mae'n debygol na fyddwch yn ei ddeall yn iawn. Gallech fynd i drwbl gwirioneddol os yw'ch gwaith cwrs yn gysylltiedig ag arholiadau y mae'n rhaid i chi eu sefyll yn nes ymlaen yn y cwrs.
Beth bynnag ydych chi'n ei feddwl, gellir adnabod llên-ladrad yn hawdd, gan fod arddulliau pobl o ysgrifennu'n gallu bod yn unigryw iawn. Ceir nifer o raglenni cyfrifiadur hefyd sy'n gallu helpu athrawon, tiwtoriaid a byrddau arholi i sylwi ar lên-ladrad.
Os byddwch yn cael ei dal
Yn ogystal â bod yn anonest ac yn annheg tuag at y person yr ydych yn copïo ei waith, gall llên-ladrata eich rhoi mewn trwbl. Efallai y cewch chi rybudd, efallai y gostyngir eich gradd derfynol, neu efallai y cewch eich diarddel o'r cymhwyster yn gyfan gwbl hyd yn oed.
Cadw at y rheolau
Pan fyddwch yn cael aseiniad gwaith cwrs, efallai y byddwch yn dymuno rhannu syniadau neu wneud rhywfaint o waith ymchwil gydag aelod arall o'ch dosbarth. Mae hyn yn iawn, ond mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn ysgrifennu'ch gwaith ar eich pen eich hunain.
Os ydych chi'n dyfynnu testun o ffynonellau eraill, rhaid i chi bob amser ddweud o ba le mae wedi dod, a phwy sydd wedi ei ysgrifennu.
Os ydych chi'n cael trafferthion â gwaith cwrs, y peth gorau i'w wneud yn aml yw siarad â'ch athrawon.
Gallwch gael llawer o gymorth ar-lein hefyd. Mae gwefannau Bitesize a Schools y BBC yn llawn awgrymiadau a syniadau da ar gyfer gwaith cwrs, gwaith cartref ac adolygu.
Connexions Direct
Mae Connexions Direct yn darparu cyngor ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 19 oed am bopeth sy'n gysylltiedig â dysgu a chymwysterau.