Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwaith cwrs - beth i'w ddisgwyl

Bydd gwaith cwrs yn rhan bwysig o'r cymwysterau y byddwch yn eu dewis ym Mlynyddoedd 10 i 13. Gall gwybod beth i'w ddisgwyl a beth yw'r ffordd orau o fynd i'r afael ag ef eich helpu i gael graddau uwch.

Pam fod gwaith cwrs yn bwysig

Bydd llawer o'r pynciau y byddwch yn eu hastudio ym Mlynyddoedd 10 i 13 yn cael eu hasesu ar sail cymysgedd o waith cwrs ac arholiadau. Gall elfen gwaith cwrs o bwnc gyfrif tuag at ran sylweddol o'ch marc terfynol - gyda rhai pynciau, mae gwaith cwrs yn cyfrif tuag at fwy na hanner y cyfanswm.

Gall gwaith cwrs fod yn ffordd ddefnyddiol o ddangos beth allwch chi ei wneud, mewn amgylchiadau lle na fyddai arholiad yn briodol (er enghraifft, cyflwyniad cerdd neu arbrawf gwyddoniaeth).

Gall gwaith cwrs hefyd eich galluogi i wneud y canlynol:

  • astudio pwnc mewn mwy o fanylder
  • cymryd mwy o gyfrifoldeb dros yr hyn yr ydych yn ei astudio
  • cael mwy o reolaeth dros faint o amser yr ydych yn ei dreulio ar eich astudiaethau

Gall aseiniadau gwaith cwrs gael eu gosod dros amryw o ddyddiau neu wythnosau, felly mae llai o siawns hefyd yr effeithir ar eich gradd os nad ydych yn teimlo'ch bod wedi gallu rhoi cant y cant ar ddiwrnod penodol.

Beth i’w ddisgwyl

Gall y gwaith cwrs a roddir i chi fod ar sawl ffurf wahanol. Gallai gynnwys:

  • prosiectau a gwaith maes
  • gwaith ysgrifenedig neu draethodau estynedig
  • gwaith celf
  • arbrofion ac ymchwiliadau
  • perfformiadau neu waith llafar

Asesir gwaith cwrs yn fewnol gan eich athrawon neu'ch tiwtoriaid, a gellir ei osod ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs. Gallech gyflawni rhywfaint o'ch gwaith cwrs y tu allan i oriau ysgol, a rhywfaint yn yr ysgol dan oruchwyliaeth eich athrawon.

TGAU

Ar gyfer TGAU, bydd y gymysgedd o arholiadau a gwaith cwrs yn amrywio o bwnc i bwnc. Gallai ambell bwnc, fel celf a dylunio, gynnwys mwy o waith cwrs a llai o arholiadau.

Safon UG a Safon Uwch

Mae Safon UG a Safon Uwch fel arfer yn cynnwys 70 y cant o arholiadau ac oddeutu 30 y cant o waith cwrs. Fel gyda TGAU, fodd bynnag, mae hyn yn amrywio o bwnc i bwnc.

Cymwysterau eraill

Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud gwaith cwrs hefyd os byddwch yn dewis cymwysterau galwedigaethol, neu'r Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol.

Bydd faint o waith cwrs y bydd angen i chi ei wneud hefyd yn dibynnu ar y corff gwobrwyo (y bwrdd arholi) sy'n cynnig y cymhwyster.

Newidiadau i waith cwrs TGAU

Mae arolwg gan yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (nawr yr Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a Chwricwlwm) wedi cynnig nifer o newidiadau ar gyfer gwaith cwrs TGAU.

Nid oes gwaith cwrs mewn cyrsiau mathemateg TGAU bellach, yn dechrau o fis Medi 2007.

Mae'r Awdurdodau Cymwysterau a Chwricwlwm hefyd wedi cynnig newid elfennau gwaith cwrs pynciau TGAU eraill – dilynwch y ddolen isod am fanylion.

Awgrymiadau ar gyfer gwneud gwaith cwrs

I gael rhai awgrymiadau ynghylch beth i'w wneud a beth i beidio â'i wneud wrth gwblhau gwaith cwrs, gweler 'Gwaith cwrs: gair i gall er mwyn llwyddo'.

Angen cymorth a chyngor am waith cwrs?

Os ydych chi'n cael trafferthion â gwaith cwrs, y peth gorau i'w wneud yn aml yw cael sgwrs â'ch athrawon.

Gallwch gael llawer o gymorth ar-lein hefyd. Mae gwefannau Bitesize a Schools y BBC yn llawn awgrymiadau a syniadau da ar gyfer gwaith cwrs, gwaith cartref ac adolygu.

Connexions Direct

I gael cyngor am ddysgu ac am gymwysterau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 oed, cysylltwch â Connexions Direct.

  • Llinell gymorth Connexions Direct: 08080 013 219

Allweddumynediad llywodraeth y DU