Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Drwy wneud cynllun a threfnu'ch amser, gallwch rannu'ch adolygu'n ddarnau haws dygymod â nhw. Bydd hyn yn gwella'ch siawns o gofio'r ffeithiau pwysig ac osgoi straen munud olaf, gan eich helpu i berfformio'n well pan ddaw amser yr arholiad.
Gwnewch gynllun adolygu mor fuan ag y gallwch. Bydd hyn yn gadael i chi gyfrifo am faint o amser y bydd angen i chi astudio bob dydd, yn ogystal â phryd i gael seibiant - sydd yr un mor bwysig.
Canfyddwch pryd mae'r arholiad a chyfrifwch faint o amser sydd gennych tan hynny. Os nad ydych yn gwybod ar ba ddyddiad y bydd eich arholiad yn cael ei gynnal, gofynnwch i'ch athro/athrawes. Gallwch hefyd chwilio am ddyddiadau arholiadau ar-lein drwy ddefnyddio Amserlen Arholiadau Interboard - gweler 'cael gwybod ar ba ddyddiad y cynhelir eich arholiad'.
Cychwynnwch drwy rannu nifer y dyddiau sydd gennych tan yr arholiad gyda faint o bynciau y mae angen i chi eu hadolygu. Gofynnwch i'ch athro/athrawes am restr o'r testunau neu gwnewch eich rhestr eich hun drwy edrych ar eich nodiadau. Os mae’n helpu, gallwch ddefnyddio map adolygu’r BBC Bitesize i wneud eich rhestr wirio.
Meddyliwch am unrhyw destunau y bydd angen rhoi mwy o amser iddynt - gallai'r testunau fod yn rhai manylach neu efallai eich bod wedi cael mwy o drafferth gyda nhw pan oeddech yn eu hastudio.
Pan fyddwch yn gwybod faint o ddyddiau sydd eu hangen arnoch i adolygu bob testun, gallwch wneud adolygu'n rhan o'ch trefn ddyddiol. Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn realistig ynglŷn â faint o amser sydd gennych chi:
Gall canllawiau adolygu BBC BiteSize eich helpu i roi'r testunau mewn slotiau 30 munud.
Pan fyddwch yn edrych ar eich nodiadau, cofiwch pam eich bod yn eu darllen:
Mae'n bwysig eich bod yn cymryd seibiant bob hyn a hyn er mwyn i chi aros yn effro wrth adolygu. Mae'n well i chi gymryd pum munud o seibiant bob hanner awr na chymryd hanner awr o egwyl ar ôl adolygu am bum awr. Ewch am dro, gwnewch ddiod i chi'ch hun, glanhewch eich ystafell, ewch i weld a oes post i chi - pan ddaw'r amser i fwrw 'mlaen â'r gwaith, byddwch wedi adfywio. Bydd y seibiannau hyn hefyd yn eich helpu i amsugno'r wybodaeth ac osgoi gorlwytho gwybodaeth.
Cynhwyswch weithgaredd hamdden fel rhan o'ch cynllun adolygu ddwy neu dair gwaith yr wythnos er mwyn i chi gael meddwl am rywbeth arall am newid.
I gael meddwl iach, rhaid i'ch corff fod yn iach felly gofalwch amdanoch chi'ch hun tra'ch bod yn adolygu. Bydd digon o gwsg ac ymarfer corff rheolaidd yn eich helpu i aros yn effro. Mae angen egni ar eich corff, felly bwytewch ddigon o fwyd hawdd eu treulio - bydd llysiau a ffrwythau ffres yn eich helpu i gadw lefelau egni'r corff yn uchel.
Os ydych chi'n profi problemau emosiynol, fel materion gyda theulu neu ffrindiau, neu fwlio, efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich adolygu ac y bydd angen i chi geisio cymorth allanol. Ceisiwch gael cymorth cyn i hyn effeithio ar eich adolygu.