Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bwyta'n iach

Dim ots faint o ymarfer corff wnewch chi, fe all bwyta sothach seimllyd saith diwrnod yr wythnos wneud niwed i'ch corff. Mae cael deiet mwy cytbwys yn ffordd wych o gadw'ch pwysau'n iach heb fynd ar ddeiet caeth.

Beth sy'n iach?

Hanfod bwyta'n iach yw sicrhau eich bod yn cael y swm iawn o fitaminau, mineralau, protin a charbohydrad, yn ogystal â'r mathau iawn o fraster a siwgr.

Mae tomen o gyngor a gwybodaeth am fwyta'n iach ym mhob man, ac mae ceisio deall y cyfan bron yn amhosib. Os ydych chi'n meddwl y gallech wella'ch deiet, mae ambell beth syml i'w cofio.

Deiet iach

Sicrhau eich bod yn bwyta'r cydbwysedd iawn o'r bwydydd iawn yw'r allwedd i ddeiet iach. Dyma ambell awgrym i sicrhau eich bod yn bwyta amrywiaeth dda o fwyd:

  • bwytwch o leiaf bum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd, gan gynnwys sudd oren a ffa pob
  • seiliwch eich prydau ar fwydydd starts, megis tatws, reis brown a bara cyflawn
  • os byddwch chi'n bwyta cig bob dydd o'r wythnos, ceisiwch fwyta pysgodyn olewog yn lle hynny ambell ddiwrnod, pysgod megis mecryll, eog neu diwna
  • dewiswch gaws, llaeth a iogwrt isel mewn braster bob tro
  • ceisiwch fwyta ac yfed llai o bethau uchel mewn braster neu siwgr rhwng prydau bob wythnos

Dylech hefyd gadw llygad ar faint o halen rydych chi'n ei fwyta. Cawn y rhan fwyaf o'n halen o fwydydd wedi'u prosesu, felly cofiwch ddarllen y label. Os yw byrbrydau neu brydau bwyd yn cynnwys mwy na 1.25 gram o halen ym mhob 100g, mae hynny'n llawer o halen.

Mae hefyd yn syniad da rhoi'r gorau i'r arferiad o ychwanegu halen at fwyd pan fyddwch yn coginio neu wrth y bwrdd bwyd. Ydych chi wir yn gweld gwahaniaeth pan na fyddwch yn ychwanegu halen?

Cael gwared ar arferion drwg

Os ydych yn brysur iawn, mae'n andros o demtasiwn mynd i'r arfer o fwyta rhwng prydau. Mae'n bosib bod sglaffio bag o greision neu far o siocled ar y ffordd adref yn rhoi hwb tymor byr i'ch egni, ond fel arfer, dyma'r math o bethau sy'n llawn braster a siwgr o'r math gwaethaf.

Mae'n well ceisio rhoi'r gorau i fwyta rhwng prydau yn gyfan gwbl. Os ydych yn ei chael yn anodd, ceisiwch gadw ffrwyth neu ddau neu fag o gnau wrth law. Mae'r rhain yn gallu rhoi'r un math o hwb i'ch egni ac mae'r braster a'r siwgrau sydd ynddyn nhw'n well i chi.

Arfer drwg arall yw peidio â bwyta brecwast. Efallai ei bod yn well gennych dreulio 15 munud arall yn y gwely, ond mae peidio â bwyta brecwast yn golygu eich bod yn debygol o fod yn estyn am y siocled ganol bore.

Drwy fwyta brecwast iach, bydd eich corff yn cael mwy o fitaminau a mineralau hefyd. Mae bwyta rhywbeth fel powlaid o rawnfwyd a gwydraid o sudd ffrwythau cyn gadael y tŷ yn y bore'n fwy na digon i'ch cadw i fynd tan amser cinio.

Poeni am eich pwysau

Mae bod dros eich pwysau yn gallu cynyddu'ch risg o gael diabetes, clefyd y galon a rhai mathau o ganser.

Er bod pobl yn tyfu ar gyfradd wahanol ac ar wahanol oedrannau, dylech anelu at fod o fewn yr ystod pwysau normal ar gyfer eich taldra.

Os hoffech gael rhywfaint o gyngor ar ddeiet, maeth neu fwyta'n iach, beth am wneud apwyntiad gyda'ch meddyg?

Mynd ar Ddeiet

Mae'n bosib eich bod yn cael eich temtio i roi cynnig ar ambell ddeiet sy'n llenwi tudalennau cylchgronau bob wythnos. Yn anffodus, nid yw deiet o'r fath yn syniad da gan amlaf. Ni fyddant yn gweithio bob tro, a gallant eich annog i beidio â bwyta rhai mathau pwysig o fwyd.

Bydd gwneud mân newidiadau i'ch deiet a bwyta llai o bethau melys a bwydydd llawn braster yn iachach o lawer i chi yn y tymor hir.

Yn yr adran hon

Allweddumynediad llywodraeth y DU