Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae sawl ffordd y gallwch chi gadw'n heini heb orfod ymuno â champfa. Mae ymuno â thîm chwaraeon lleol yn ffordd wych o dreulio'ch amser hamdden a chadw'n heini, a chewch gwrdd ag amryw o bobl newydd hefyd.
Drwy wneud digon o ymarfer corff, byddwch chi'n sicrhau bod eich cymalau ac organau'ch corff yn gweithio'n effeithiol. Gall ymarfer corff helpu i gadw'ch pwysau'n iach hefyd a'ch gwarchod rhag dal peswch ac annwyd yn rheolaidd.
Byddwch hefyd yn teimlo bod lefel eich egni'n cynyddu a bod eich ymennydd yn gweithio'n well. Mae gwybod eich bod yn edrych ac yn teimlo'n dda hefyd yn gallu rhoi hwb sylweddol i'ch hunanhyder.
Os ydych chi dan 18 oed, dylech geisio gwneud cyfanswm o 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd. Does dim rhaid i chi wneud hynny i gyd ar unwaith, ond mewn pyliau o 10 - 15 munud o leiaf drwy gydol y dydd. Mae hyn yn cynnwys popeth o godi pwysau yn y gampfa i gerdded i fyny'r grisiau yn hytrach na mynd yn y lifft. Y peth pwysig yw bod y gweithgarwch yn cynyddu cyfradd eich calon ac yn gwneud i chi deimlo'n gynhesach.
Os ydych chi dros 18 oed, anelwch at o leiaf 30 munud o ymarfer corff o leiaf bum diwrnod yr wythnos.
Mae'n syniad da rhoi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau corfforol i weld pa rai sydd orau gennych. Ar ôl i chi benderfynu pa fath o ymarfer corff rydych chi'n ei fwynhau, fe allwch gynllunio pa fath o ymarfer corff rydych chi'n bwriadu ei wneud a phryd.
Os ydych chi wedi penderfynu dechrau ar drefn ymarfer, mae'n bwysig mynd i weld eich meddyg i gael archwiliad. Bydd eich meddyg yn gallu'ch cynghori ynghylch faint o ymarfer y dylech chi fod yn ei wneud i ddechrau.
Bydd hefyd yn rhoi gwybod i chi a oes gennych unrhyw gyflwr meddygol megis poen yn eich cefn, a all gyfyngu ar ba fath o ymarfer y byddwch yn ei wneud.
Does dim rhaid mynd i'r gampfa i gadw'n heini. Ni fydd rhai mathau o ymarfer corff yn costio dimai i chi, ac fe allwch chi gynnwys y rhan fwyaf ohonyn nhw yn rhan o batrwm eich bywyd prysur.
Dylech ystyried:
Does dim rhaid i chi gadw'n heini ar eich pen eich hun. Mae chwarae gemau tîm megis pêl-droed, hoci neu bêl-rwyd yn ymarfer corff ardderchog, ond mae'n aml yn fwy o hwyl am eich bod gyda chriw o ffrindiau.
Mae'n bosib y bydd eich ysgol, eich coleg neu'ch prifysgol yn cynnal sesiynau gyda'r nos, neu efallai yr hoffech ymuno â thîm lleol. Mae manylion clybiau lleol i'w gweld ar y we, yn y llyfr ffôn neu yn eich canolfan hamdden agosaf. Gall eich awdurdod lleol hefyd roi gwybodaeth i chi am weithgareddau chwaraeon yn eich ardal.
Os ydych chi'n credu bod angen gwell cyfleusterau chwaraeon yn eich cymdogaeth chi, beth am wneud cais am rywfaint o arian gan y Cronfeydd Ieuenctid?