Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Torheulo doeth

Os ydych chi'n mynd ar wyliau, neu'n bwriadu mynd i'r traeth neu orweddian yn yr haul am eich bod yn ysu i gael lliw haul, dylech fod yn ymwybodol y gall gormod o amser yn yr haul fod yn beryglus. Gall wneud niwed i'ch croen ac arwain at ganser y croen yn nes ymlaen yn eich bywyd.

Canser y croen

Caiff y rhan fwyaf o ganser y croen ei achosi gan ddifrod a wneir gan belydrau UV (uwchfioled) o'r haul. Os bydd gormod o'r pelydrau hyn yn treiddio drwy'ch croen, fe allwch losgi, a gall hyn ddyblu'r perygl o gael canser y croen yn nes ymlaen yn eich bywyd.

Canser y croen yw un o’r mathau mwyaf cyffredin o ganser ymhlith plant yn eu harddegau a phobl ifanc, ac mae mwy a mwy o bobl yn ei gael. Ar ben y pwysau cymdeithasol i gael lliw haul, mae llawer ohonom yn dal yn anymwybodol o beryglon dod i ormod o gysylltiad â haul cryf.

Ceir dau fath o ganser y croen: melanoma malaen, sef y math mwyaf difrifol o ganser y croen, a chanser y croen di-felanoma, sy'n llai difrifol, ond sy'n effeithio ar bobl hŷn yn bennaf.

Pwy sydd mewn perygl

Gall unrhyw un sy'n treulio llawer o amser yn yr awyr agored yn ystod misoedd yr haf ddioddef difrod i'r croen a achosir gan belydrau UV, ond mae rhai pobl mewn mwy o berygl nag eraill.

Mae'r bobl hyn yn tueddu i fod ag un neu fwy o'r canlynol:

  • croen golau sy'n tueddu i losgi mewn haul cryf
  • gwallt coch neu wallt golau
  • sawl man geni neu frychni haul
  • hanes o ganser y croen yn eu teulu

Yn gyffredinol, y goleuaf yw'ch croen, y mwyaf gofalus y dylech fod yn yr haul. Hyd yn oed os oes gennych groen naturiol dywyll, byddwch chi'n dal mewn perygl os na fyddwch yn cymryd y camau angenrheidiol i warchod eich hun.

Synnwyr yn yr haul

Os ydych yn bwriadu treulio llawer o amser yn yr awyr agored yr haf hwn, naill ai'n gorwedd ar y traeth, yn gwneud llawer o chwaraeon, neu'n gweithio yn yr awyr agored am gyfnodau hir, mae rhai pethau syml y gallwch eu gwneud i leihau'r perygl o ddod i ormod o gysylltiad â'r haul.

  • edrychwch beth yw'r lefel UV cyn i chi fynd allan - mae hyn yn ffordd fanylach o gael gwybod pa mor gryf yw'r haul na defnyddio'r tymheredd fel canllaw
  • ar ddiwrnodau arbennig o boeth a heulog, arhoswch yn y cysgod rhwng 11.00 am a 3.00 pm pan fo'r haul ar ei boethaf
  • defnyddiwch eli haul da sy'n ffactor 15 o leiaf a fydd yn eich gwarchod yn erbyn pelydrau UVA ac UVB, hyd yn oed os ydych chi'n meddwl bod gennych groen cymharol dywyll
  • gwisgwch het a sbectol haul i warchod eich pen a'ch llygaid
  • cadwch grys-t neu dop llac gyda chi i'ch cuddio o olwg yr haul bob hyn a hyn

Gwarchod eich hun ar y llethr sgïo

Nid dim ond ar lan y môr y mae angen i chi feddwl am warchod eich hun rhag yr haul. Mae gwyliau sgïo ac eirafyrddio yn y gaeaf hefyd yn eich gwneud yn agored i belydrau UV a all niweidio'ch croen.

Gan eich bod ar diroedd uwch ac yn agosach at yr haul, mae pelydrau'r haul yn gryfach. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw rannau o'ch corff sydd yn y golwg losgi'n gyflymach o lawer na phetaech ar y traeth.

Os ydych chi'n mynd ar wyliau chwaraeon y gaeaf:

  • defnyddiwch eli haul da i warchod unrhyw rannau o'r croen sy'n cael eu dangos i'r haul, yn enwedig eich gwefusau, eich wyneb ac o amgylch eich llygaid
  • rhowch yr eli haul ar eich croen y peth cyntaf yn y bore, a rhoi mwy ohono bob tua dwy awr

Mae hefyd yn syniad da prynu sbectol haul arbennig ar gyfer chwaraeon neu gogls sgïo sy'n gwarchod eich llygaid yn llwyr rhag pelydrau UV. Darllenwch y label neu gofynnwch i rywun sy'n gweithio yn y siop pa mor dda y bydd eich sbectol yn gwarchod eich llygaid.

Arwyddion amlwg

Os byddwch yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored yn yr haf, sicrhewch eich bod yn archwilio'ch corff am fannau geni'n rheolaidd. Mae'r rhan fwyaf o fannau geni'n rhai naturiol ac nid ydynt yn beryglus, ond os gwelwch eu bod yn newid eu siâp neu'u lliw, neu os byddwch yn darganfod un newydd, ewch at y meddyg.

Gwelyau haul

Fel yr haul, mae gwelyau haul yn cynhyrchu pelydrau UV sy'n gallu cynyddu'r perygl o ganser y croen. Po fwyaf y byddwch yn defnyddio gwelyau haul, y mwyaf yw'r perygl, a phan fydd y lliw haul yn diflannu, bydd y difrod i'r croen yn aros.

Ddylech chi byth ddefnyddio gwely haul os ydych chi'n iau na 18 oed, gan fod croen ifanc yn fwy sensitif ac agored i ddifrod na chroen hŷn. Hyd yn oed os ydych chi dros 18 oed, dylech fod yn ofalus iawn os byddwch yn dewis defnyddio un.

Dylech hefyd osgoi gwelyau haul yn gyfan gwbl dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os oes gennych groen golau neu groen â brychni haul
  • os byddwch yn llosgi'n hawdd
  • os oes gennych sawl man geni
  • os oes hanes o ganser y croen yn eich teulu
  • os ydych yn defnyddio meddyginiaeth sy'n cynyddu eich sensitifrwydd i UV

Os byddwch yn penderfynu defnyddio un, cyfyngwch eich hun i ddwy sesiwn yr wythnos, dros gyfnod o 30 wythnos, bob blwyddyn.

Cofiwch, os na fyddwch yn cael lliw haul yn yr haul, ni fyddwch yn cael mwy o liw haul ar wely haul. Hefyd, nid yw cael rhywfaint o liw haul cyn mynd i ffwrdd yn golygu y bydd eich croen yn gwrthsefyll pelydrau UV yn well. Bydd gormod o amser yn yr haul yn dal i achosi niwed ni waeth faint o liw sydd gennych.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU