Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Archwiliadau, apwyntiadau ac achosion brys

Os nad ydych chi'n teimlo'n dda, gallwch drefnu i weld meddyg neu ddeintydd. Mae'n hawdd gwneud apwyntiad, a cheir llinellau ffôn a chlinigau eraill lle nad oes angen apwyntiad arnoch hyd yn oed.

Cael archwiliad

Os ydych chi dan 18 oed, dylech gael archwiliad gan eich deintydd bob 12 mis er mwyn gwneud yn siŵr bod eich dannedd a'ch deintgig mewn cyflwr da. Os bydd deintydd yn canfod bod gennych broblem gyda'ch cefnddannedd, pydredd dannedd neu blac, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi ymweld â'r deintydd yn fwy rheolaidd.

Bydd rhai deintyddion yn eich dileu oddi ar eu cofrestr cleifion os na fyddwch chi'n trefnu apwyntiad o fewn cyfnod penodol. Os digwydd hyn, bydd yn rhaid i chi gofrestru eto gyda deintydd newydd.

Os nad oes gennych gyflwr meddygol penodol y mae angen ei fonitro, does dim angen i chi drefnu apwyntiad rheolaidd gyda'ch meddyg. Fodd bynnag, os ydych chi'n bwriadu gwneud mwy o ymarfer corff neu os ydych yn mynd i deithio, trafodwch â'ch meddyg beth y gallai hyn olygu i'ch iechyd.

Trefnu a chadw apwyntiadau

I drefnu apwyntiad gyda meddyg neu ddeintydd, bydd angen i chi ffonio'r feddygfa neu'r ddeintyddfa.

Os byddwch yn trefnu apwyntiad, cofiwch fynd. Os byddwch am ail-drefnu apwyntiad, rhowch wybod iddyn nhw ychydig o ddiwrnodau ymlaen llaw er mwyn iddyn nhw lenwi'r bwlch.

Ni fydd deintyddion y GIG yn codi tâl arnoch am golli apwyntiad. Ond, mae'n bosib y bydd rhai deintyddion a meddygon teulu yn eich tynnu oddi ar eu rhestr cleifion os byddwch yn colli apwyntiad heb roi gwybod iddyn nhw ymlaen llaw.

Argyfyngau

Os na allwch gyrraedd y feddygfa am eich bod yn ddifrifol wael, mae'n bosib y gall eich meddyg ymweld â chi yn eich cartref. Os byddwch chi'n ffonio'r feddygfa ac yn gofyn i'r meddyg ymweld â chi, bydd rhywun yn eich holi i gael gwybod a oes angen i'r meddyg ddod i'ch gweld yn eich cartref, ynteu a ddylech chi fynd i'r ysbyty.

Efallai hefyd y byddwch am fynd i adran ddamweiniau ac achosion brys eich ysbyty agosaf os ydych chi'n ddifrifol wael neu os ydych chi wedi cael damwain. Os na all neb fynd â chi i'r ysbyty a'i fod yn argyfwng, gallwch ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.

Galw Iechyd Cymru/NHS Direct

Os ydych chi am gael gwybodaeth neu gyngor am iechyd, gallwch hefyd gysylltu ag NHS Direct. Fe allwch chi ffonio 0845 4647, 24 awr y dydd, neu fynd i wefan NHS Direct. Fe allwch hefyd gael cyngor gan NHS Direct ar eich teledu digidol.

Mae NHS Direct yn help os oes gennych ryw fân anhwylder megis annwyd a chithau eisiau cyngor sydyn am y ffordd orau o gael gwared â'r peth heb orfod mynd i weld eich meddyg.

Bydd nyrsys a phobl broffesiynol hyfforddedig ym maes iechyd yn ateb eich holl gwestiynau ac fe allan nhw roi cyngor i chi os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn sâl. Gallant hefyd roi manylion gwasanaethau iechyd lleol eich ardal i chi.

Gallwch hefyd ddod o hyd i gyngor a gwybodaeth iechyd cyffredinol ar wefan NHS Choices.

Clinigau drws-agored

Hyd yn oed os ydych chi wedi cofrestru gyda meddyg, mae'n bosib yr hoffech chi ddefnyddio clinig drws-agored. Chewch chi ddim gwneud apwyntiad mewn clinig drws-agored ac maent yn gweithredu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae hyn yn golygu efallai y bydd yn rhaid i chi aros am gryn amser cyn cael gweld rhywun.

Gall clinigau drws-agored drin mân afiechydon ac anafiadau, ac fe allan nhw roi cyngor cyfrinachol am ddim i chi am faterion iechyd cyffredinol, gan gynnwys cwestiynau ynghylch iechyd rhywiol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU