Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofrestru gyda meddyg teulu a chael triniaeth gan ddeintydd

Os ydych chi newydd ddechrau yn y brifysgol neu wedi symud oddi cartref, mae'n syniad da dod o hyd i feddygfa a threfnu apwyntiad i weld deintydd. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi fynd yn ôl adref os bydd angen cymorth meddygol arnoch.

Symud i ardal newydd

Ar ôl i chi ddechrau yn y brifysgol neu os ydych wedi symud i ardal newydd, dylech gofrestru gyda meddygfa leol cyn gynted â phosib.

Mae gan y mwyafrif o brifysgolion ganolfan iechyd myfyrwyr ar eu safle, neu mae'n bosib y bydd yn well gennych ddod o hyd i feddygfa eich hun. Fel arfer, bydd angen i chi lenwi ffurflen (GMS1) yn y feddygfa lle'r hoffech chi gofrestru.

Os ydych chi'n aros mewn ardal am gyfnod byr (mwy na 24 awr ond llai na 3 mis), gallwch ofyn i feddygfa leol am gael eich trin dan y GIG fel preswylydd dros dro. Fyddwch chi ddim yn symud i'r feddygfa hon am byth, ond bydd manylion unrhyw driniaeth a gewch chi'n cael eu trosglwyddo i'ch meddygfa eich hun ac yn cael eu hychwanegu at eich cofnod meddygol.

Cofrestru gyda meddygfa newydd

Pan fyddwch chi'n symud i feddygfa newydd, ewch â'ch cerdyn meddygol GIG gyda chi. Mae hwn yn cynnwys manylion eich meddygfa bresennol a'ch rhif GIG. Bydd hynny'n ei gwneud yn haws i chi gofrestru. Mae eich rhif GIG yn golygu y bydd eich cofnodion meddygol yn cael eu hanfon i'ch meddygfa newydd yn gyflym.

Os nad oes gennych chi gerdyn GIG, gallwch gael eich rhif GIG gan y feddygfa lle'r ydych eisoes wedi cofrestru. Mae'n syniad da ysgrifennu hwn i lawr ynghyd ag enw a chyfeiriad y feddygfa. Cadwch yr wybodaeth hon yn ddiogel oherwydd bydd ei hangen arnoch pa bryd bynnag y byddwch chi'n symud i feddygfa newydd.

Ar ôl i chi gofrestru gyda'ch meddygfa newydd, dylech gael eich gwahodd i'r feddygfa i gael sgwrs gychwynnol, pan ofynnir cwestiynau i chi am eich iechyd a'ch ffordd o fyw.

Gallwch hefyd wneud apwyntiad i weld meddyg neu nyrs yn y feddygfa pan fydd angen triniaeth arnoch ar gyfer salwch a chyflyrau meddygol eraill.

Os ydych yn cael trafferth cofrestru neu gael triniaeth fel preswylydd dros dro, ewch i'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol leol. Efallai y bydd yn bosib i Ymddiriedolaeth ddod o hyd i feddygfa leol i chi a rhoi eich enw ar ei rhestr o gleifion GIG.

Dod o hyd i ddeintydd

Yn ogystal â threfnu i weld meddyg, bydd yn rhaid i chi drefnu hefyd i weld deintydd lleol. Cyn gwneud hynny, holwch am y math o wasanaethau y maen nhw'n eu darparu.

Mae tri math o ddeintyddfa y gallwch ddewis rhyngddynt:

  • deintyddfeydd sy'n trin cleifion y GIG
  • deintyddfeydd sy'n trin cleifion preifat
  • deintyddfeydd sy'n trin cleifion y GIG a chleifion preifat

Os ydych chi dan 18 oed, neu'n hŷn na 18 oed ac mewn addysg amser llawn, cewch driniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG.

Bydd eich Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol leol yn gallu'ch helpu i ddod o hyd i ddeintydd sy'n derbyn cleifion y GIG. Gallwch hefyd chwilio ar-lein am ddeintyddion GIG.

Triniaeth breifat

Bydd rhai pobl yn dewis talu am driniaeth iechyd breifat, neu'n ei chael drwy'r gwaith fel un o'r manteision a gynigir gan y cwmni.

Dim ond pobl sydd ag yswiriant iechyd preifat y bydd rhai meddygon a deintyddion yn barod i'w derbyn, neu bobl sy'n fodlon talu bob tro y bydd angen triniaeth arnynt. Cyn i chi gofrestru, cofiwch holi pa fath o wasanaeth a ddarperir.

Mae'n bosib hefyd yr hoffech chi ofyn am restr o gostau'r triniaethau mwyaf cyffredin er mwyn i chi gymharu nifer o wahanol ddarparwyr yn eich ardal.

Allweddumynediad llywodraeth y DU