Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cael cynnig gan brifysgol neu goleg

Os ydych wedi gwneud cais i brifysgol neu i goleg drwy UCAS, ac wedi derbyn cynigion, gallwch yna dderbyn y cynigion yn bendant, eu derbyn wrth gefn, neu eu gwrthod.

Dilyn trywydd eich cynigion ar-lein

Os byddwch chi'n cyflwyno'ch cais i UCAS erbyn y dyddiad cau yng nghanol mis Ionawr, fel arfer byddwch yn derbyn cynigion gan eich prifysgolion erbyn diwedd mis Mawrth, er ei bod yn bosib na chlywch chi gan rai cyrsiau poblogaidd tan fis Mai. Gallwch ddilyn trywydd eich cais drwy’r gwasanaeth Trywydd ar wefan UCAS. I wneud hyn, rhaid i chi gael rhif eich cais, enw defnyddiwr a'ch cyfrinair. Hefyd, fe gewch ddewis gwasanaeth Trywydd UCAS i edrych am unrhyw gynigion ac i’w hateb.

Amodol neu ddiamod

Mae cynigion amodol yn golygu bod rhaid i chi gael graddau penodol yn eich arholiadau neu nifer penodol o bwyntiau UCAS. Os na chewch chi raddau digon uchel, neu os na chewch chi ddigon o bwyntiau UCAS, mae'n bosib na chewch chi'ch derbyn.

Ystyr cynnig diamod yw eich bod eisoes wedi bodloni'r gofynion derbyn a'ch bod wedi cael eich derbyn i'r cwrs.

Ymateb i gynigion

Ar ôl i chi gael penderfyniad gan bob prifysgol neu goleg, bydd UCAS yn anfon llythyr atoch a chanllawiau ar sut i ymateb i gynigion. Os na fyddwch wedi ateb erbyn y dyddiad cau, mae'n bosib y collwch chi'r cynnig.

Y ffordd gyflymaf a'r ffordd fwyaf effeithlon o ymateb yw drwy wefan UCAS. Ar gyfer pob cynnig, bydd gennych dri dewis:

  • derbyn yn bendant
  • derbyn wrth gefn
  • gwrthod

Dim ond dau gynnig ar y mwyaf y cewch chi eu derbyn - sef un yn bendant, ac un wrth gefn. Bydd llawer o bobl, pan fyddan nhw'n dewis cwrs i'w dderbyn wrth gefn, yn dewis cynnig sy'n gofyn am raddau is na'r cynnig y maen nhw'n ei dderbyn yn bendant.

I gael canllawiau llawn ar gyfer ymateb i gynigion, gweler gwefan UCAS.

Newid eich meddwl

Os newidiwch chi'ch meddwl ar ôl derbyn cynnig, bydd rhaid i chi dynnu'ch cais yn ôl, a chewch chi ddim defnyddio'r drefn Glirio i chwilio am gwrs arall. Cysylltwch ag UCAS i gael cyngor.

Os na chewch chi gynnig o gwbl

Os na chewch chi gynnig drwy'ch cais cyntaf, a'ch bod eisoes wedi gwneud cais ar gyfer pum cwrs, cewch ddefnyddio gwasanaeth UCAS Extra o ddiwedd Chwefror hyd ddiwedd Mehefin.

Os na chewch chi gynnig addas drwy'r gwasanaeth Extra, fe allwch fynd drwy'r drefn Glirio, lle bydd prifysgolion a cholegau'n hysbysebu - ac yn llenwi - eu llefydd munud olaf. Hysbysebir llefydd gwag ar wefan UCAS, ac yn y wasg genedlaethol o ganol mis Awst ymlaen.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU