Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae chwe cham i’w dilyn wrth fynd ati i gael lle mewn prifysgol neu goleg drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i UCAS am gyrsiau sy’n dechrau o fis Medi 2010
Fel arfer, byddwch yn gwneud cais yn y flwyddyn academaidd cyn y bwriadwch fynd i'r coleg. Y cynharaf y gallwch gyflwyno cais wedi'i gwblhau yw'r mis Medi cyn i chi ddechrau eich cwrs (oni bai eich bod yn gwneud cais am ohirio'ch lle tan y flwyddyn ganlynol).
Os nad ydych wedi cwblhau’ch arholiadau erbyn hyn, bydd eich cais yn cael ei seilio ar y graddau y mae’ch athrawon neu’ch darlithwyr yn rhagweld y byddwch yn eu hennill.
I gael gwybod sut i wneud cais, ac ynghylch y dyddiadau cau y bydd angen i chi gwrdd ag hwy, ewch i ‘Llenwi’ch ffurflen gais UCAS’.
Ar ôl i chi wneud cais i UCAS, bydd eich cais yn cael ei drosglwyddo i'r sefydliadau a ddewiswyd gennych.
Bydd gan bob prifysgol neu goleg eu trefn ymgeisio'u hunain. Fe all rhai ofyn i chi ddod am gyfweliad ac mae'n bosib hefyd y gofynnir i chi sefyll prawf. Efallai y bydd eraill yn cynnig lle i chi ar sail y wybodaeth sydd ar eich cais.
Mae’n syniad da gwneud cais am gyllid mor fuan â phosib
Wedi i chi gyflwyno'ch cais i UCAS, gallwch wneud cais am gymorth ariannol cyn gynted ag y bydd eich ceisiadau am gyllid myfyrwyr yn agor. Does dim angen i chi aros am gynnig.
I gael gwybod faint allech chi ei gael, a sut mae gwneud cais ar-lein - gweler adran 'Cyllid myfyrwyr'.
Os byddwch chi'n cyflwyno'ch ffurflen gais i UCAS erbyn y dyddiad cau perthnasol, fel arfer, byddwch yn cael cynigion gan eich prifysgolion erbyn diwedd mis Mawrth. Er hynny, gyda rhai cyrsiau poblogaidd, mae'n bosib na chlywch chi ddim tan fis Mai.
Os cewch gynnig gan sefydliad nad ydych wedi ymweld ag ef, fe allai diwrnod agored fod o fudd i chi benderfynu a ydych am astudio yno ai peidio.
Os na chewch chi gynnig
Os na chewch chi gynnig gan y prifysgolion neu'r colegau ar eich rhestr, neu os byddwch chi'n gwrthod neu'n canslo'ch dewisiadau, gallai gwasanaeth UCAS Extra roi ail gyfle i chi sicrhau lle.
Os na chewch chi gynnig drwy'r gwasanaeth Extra, fe allwch fynd drwy'r drefn Glirio, lle bydd prifysgolion a cholegau'n hysbysebu – a llenwi - llefydd gwag hwyr ar gyrsiau.
Bydd y cynigion naill ai'n amodol (yn dibynnu ar gael graddau penodol ar eich cwrs cyfredol) neu'n ddiamod (os ydych eisoes wedi ennill y cymwysterau y mae'n rhaid eu cael).
Os nad ydych wedi sefyll eich arholiadau eto, gallwch wneud un dewis pendant ac un dewis ‘wrth gefn’.
Os cewch chi'r graddau y mae eu hangen arnoch ar gyfer cynnig amodol, bydd eich prifysgol neu'ch coleg yn cadarnhau eich lle. Bydd UCAS yn anfon llythyr cadarnhau ffurfiol atoch.
Os cewch ganlyniadau sy’n well na’r disgwyl
Os byddwch nid yn unig yn cyrraedd holl gyflyrau’ch dewis pendant, ond yn rhagori ynddynt (er enghraifft, drwy gael graddau uwch nag sydd angen arnoch), gallwch ddefnyddio ‘Adjustment’ i edrych ar opsiynau eraill.
Mae ‘Adjustment’ yn wasanaeth newydd sy’n eich gadael chi i chwilio am gyrsiau eraill am amser byr tra bod eich lle gwreiddiol sydd wedi’i gadarnhau yn cael ei ddal.
Yr ydych yn cofrestru am ‘Adjustment’ drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Trywydd ar wefan UCAS.
Os na chewch chi’r graddau y mae eu hangen arnoch
Os na chewch chi'r graddau y mae eu hangen arnoch ar gyfer cynnig amodol, mae'n bosib na fydd eich prifysgol neu'ch coleg yn gallu cadarnhau eich cynnig. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y gwnaiff eich ail ddewis eich derbyn. Os na fydd yn eich derbyn, fe gewch gyfle arall i gael lle drwy'r drefn Glirio.
Pan fydd eich lle wedi’i drefnu, gallwch ddechrau paratoi ar gyfer bywyd myfyriwr.