Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fydd eich lle ar gwrs addysg uwch wedi’i gadarnhau, bydd gennych lawer i'w wneud i baratoi ar gyfer bywyd fel myfyriwr.
Dylech gael pecyn cynefino neu becyn cyflwyno gan eich prifysgol neu’ch coleg, naill ai ymlaen llaw neu wrth gyrraedd yno.
Darllenwch hwn yn drylwyr, llenwch a dychwelwch unrhyw ffurflenni a chadwch gofnod o ble a phryd y mae angen i chi wneud pethau.
Efallai y bydd staff sy’n gyfrifol am wahanol bynciau wedi cynnwys gwybodaeth am waith darllen cefndir neu am y deunyddiau y bydd eu hangen arnoch. Efallai y gallwch gael gwybodaeth ychwanegol ynghylch sut mae paratoi ar gyfer eich cwrs drwy fynd i wefan y coleg ac edrych ar dudalennau’r adrannau.
Mae’n debyg y bydd pecyn cynefino eich prifysgol neu’ch coleg yn cynnwys rhestr o bethau yr awgrymir i chi fynd gyda chi. Meddyliwch yn ofalus beth fydd eu hangen arnoch, beth allwch chi ei brynu ar ôl cyrraedd a faint y mae angen i chi ei bacio mewn gwirionedd.
Os ydych chi’n bwriadu mynd ag offer i edrych ar raglenni teledu neu eu recordio – fel teledu, cyfrifiadur neu ddyfais arall – bydd angen i chi gael trwydded deledu ddilys.
Os ydych chi’n mynd i fyw mewn neuadd breswyl, bydd eich prifysgol yn rhoi dyddiad i chi a syniad o ba bryd y dylech gyrraedd eich llety newydd. Mae’n debyg y byddwch yn cyrraedd yr un pryd â’r bobl a fydd yn gymdogion i chi am y flwyddyn nesaf – bydd yn gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd.
Os ydych yn mynd i fyw mewn llety preifat, bydd angen i chi drefnu diwrnod ar gyfer symud i mewn gyda'ch landlord. Efallai y bydd y bobl a fydd yn cyd-fyw gyda chi yn cyrraedd yr un pryd, neu efallai y byddant yno’n barod.
Os gwnaethoch ymweld â’r brifysgol neu’r coleg ar ddiwrnod agored, efallai y byddwch yn gwybod ble mae rhai o’r prif adeiladau – os nad ydych yn gwybod lle maen nhw, mae’n werth dechrau dod i adnabod eich ardal newydd mor fuan ag y gallwch. Mae hefyd yn syniad da holi pryd y mae angen i chi gofrestru ar gyfer eich cwrs, ac yn lle y bydd angen i chi wneud hynny.
Os bydd angen i chi deithio i gyrraedd y brifysgol neu’r coleg, gallwch gynllunio’ch taith ar-lein. Gallech hyd yn oed drefnu i fynd yno cyn y diwrnod y byddwch yn symud er mwyn gweld ble yn union mae pethau a faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyrraedd yno.
Mae’r ychydig ddyddiau cyntaf mewn prifysgol neu goleg yn gyfnod prysur, wrth i chi setlo yn eich llety newydd (os ydych wedi symud oddi cartref i astudio), dod i adnabod yr ardal, cofrestru ar eich cwrs, a pharatoi yn gyffredinol.
Bydd angen i chi ymuno â llyfrgell y brifysgol, ac efallai y byddwch hefyd am ystyried ymuno ag undeb y myfyrwyr a banc lleol. Mae hefyd yn syniad da cofrestru â meddyg a deintydd lleol.
Erbyn diwedd y tymor neu’r semester cyntaf byddwch yn gwbl gyfarwydd â'ch man astudio, ond peidiwch â synnu os cewch broblemau wrth gynefino yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf. Caniatewch ddigon o amser i chi'ch hun, a buddsoddwch mewn map da.
Mae’n berffaith arferol i chi deimlo’n hiraethus os ydych wedi symud oddi cartref i astudio. Gall cynghorwyr lles myfyrwyr eich helpu os bydd arnoch angen rhywun i siarad â nhw.
Os byddwch yn cael problemau wrth reoli’ch arian, gall swyddfa gefnogi eich prifysgol neu’ch coleg roi cyngor i chi. Ceir hefyd lawer o lyfrau a gwefannau sy’n delio â materion ariannol. Gweler, er enghraifft, ‘Faint fydd mynd i’r brifysgol yn ei gostio?’ i gael cyngor am gyllidebu.
Os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod, cofiwch y gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr hyd at naw mis ar ôl dechrau’r flwyddyn academaidd.