Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn byw oddi cartref, mewn neuaddau preswyl neu'n rhannu tŷ, yna bydd angen trwydded deledu arnoch chi. Gall myfyrwyr sy'n bwriadu mynd adref dros yr haf hawlio gostyngiad.
Gallwch gael ad-daliad os ydych yn mynd adref dros yr haf
Rhaid i fyfyrwyr coleg neu brifysgol sy'n byw oddi cartref gael trwydded deledu er mwyn gwylio neu recordio rhaglenni teledu.
Yn ogystal â setiau teledu a recordwyr fideo neu DVD, mae'n cynnwys defnyddio ffonau symudol, blychau ar ben set deledu, gliniaduron neu gyfrifiaduron personol i dderbyn neu recordio rhaglenni teledu.
Ond os ydych chi'n mynd adref dros wyliau'r haf a dim ond angen trwydded am naw mis, mae'n bosib y byddwch chi'n gymwys i gael ad-daliad am y tri mis sy'n weddill.
Fe gewch fwy o wybodaeth yn adran myfyrwyr y wefan Trwyddedau Teledu.
Mae'r hyn y bydd yn rhaid i chi ei wneud i gael trwydded deledu yn dibynnu ar ble'r ydych chi'n byw:
Neuaddau preswyl
Os ydych chi'n byw mewn neuadd breswyl ac yn gwylio neu'n recordio rhaglenni teledu yn eich ystafell, bydd angen eich trwydded deledu eich hun arnoch chi.
Rhannu tŷ
Os oes gennych gytundeb tenantiaeth ar y cyd, gyda phawb yn eich tŷ yn llofnodi'r un contract, dim ond un drwydded y bydd ei hangen arnoch chi fel arfer ar gyfer pob set deledu yn y tŷ.
Os oes gennych gytundeb tenantiaeth ar wahân, gyda phob tenant yn llofnodi contract unigol gyda'r landlord, bydd angen trwydded yr un arnoch chi i ddefnyddio set deledu yn eich ystafelloedd. Dim ond un drwydded sydd ei hangen os yw'r unig set deledu a ddefnyddir mewn ystafell gyffredin.
Offer sy'n defnyddio batri
Mae set deledu sy'n defnyddio ei batris mewnol ei hun, megis set deledu maint poced neu ffôn symudol, yn dod o dan drwydded ar gyfer cyfeiriad eich rhieni. Fodd bynnag, ni ddylai gael ei blygio i'r prif gyflenwad trydan wrth ei ddefnyddio i dderbyn rhaglenni teledu.
Os nad oes trwydded ar gyfer cyfeiriad eich rhieni, bydd yn rhaid i chi brynu trwydded eich hun.
Gallwch brynu neu adnewyddu trwydded deledu ar-lein gan ddefnyddio cerdyn credyd neu gerdyn debyd drwy ymweld â'r wefan Trwyddedau Teledu. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ffyrdd eraill o dalu.
Mae'r rhain yn cynnwys talu drwy'r post, drwy ddebyd uniongyrchol, drwy gerdyn cynilo neu dros y cownter mewn siop sydd ag arwydd PwyntTalu.
Os byddwch chi'n gwylio teledu heb drwydded, byddwch chi'n torri'r gyfraith ac yn agored i gael eich erlyn a'ch dirwyo hyd at £1,000. Mae swyddogion gorfodi yn ymweld ag ystafelloedd sydd heb drwydded ar gampws prifysgolion a cholegau, yn ogystal â llety myfyrwyr oddi ar y campws
Gallech fod yn gymwys i gael ad-daliad o hyd at £32 os prynwch chi drwydded deledu cyn diwedd mis Hydref ac yna'n mynd adref dros wyliau'r haf. I gael mwy o wybodaeth am sut i hawlio, cysylltwch â'r adran Trwyddedau Teledu ar 0844 800 6779 neu ymwelwch â'u gwefan.
Os ydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi wedi'u cofrestru'n ddall, rydych chi'n gymwys i gael gostyngiad o 50 y cant ar gost eich trwydded deledu.
Mae gostyngiadau ar bris ar gael hefyd i bobl sy'n byw mewn gofal preswyl, ac mae pobl dros 75 oed yn cael trwyddedau am ddim.
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch yr adran Trwyddedau Teledu ar 0844 800 6779 neu ymwelwch â'u gwefan.