Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y bydd adegau mewn prifysgol neu goleg pan fydd angen arweiniad a chefnogaeth arnoch ar bob mathau o faterion. Os felly, mae llawer o help ar gael.
Mae astudio mewn prifysgol neu goleg addysg uwch yn wahanol iawn i fod yn yr ysgol neu mewn addysg bellach.
Gyda llawer o bynciau, bydd disgwyl i chi astudio ar eich pen eich hun y rhan fwyaf o'r amser. Rhaid i chi reoli'ch amser yn dda er mwyn gorffen gwaith mewn pryd, a hefyd bydd angen i chi feithrin sgiliau academaidd ar gyfer tasgau megis ysgrifennu traethodau.
Os byddwch yn cael problemau academaidd, gall eich tiwtor personol roi cyngor i chi. Gall cael help yn ystod cam cynnar yn aml atal problemau bach rhag dod yn fwy anodd eu datrys.
Mae gan y rhan fwyaf o undebau myfyrwyr swyddog lles a fydd yn rhoi cyngor arbenigol i fyfyrwyr ar fwy neu lai unrhyw les neu broblem sy’n ymwneud â’r cwrs. Efallai y bydd gan eich coleg gynllun mentora hyd yn oed, lle gall myfyrwyr mwy profiadol roi arweiniad academaidd i fyfyrwyr newydd.
Iechyd
Bydd cyflwr eich iechyd yn effeithio ar eich gallu i astudio. Mae’n bwysig gofalu amdanoch eich hun, bwyta’n dda a gwneud rhywfaint o ymarfer corff.
Wrth gofrestru mewn prifysgol neu goleg, dylech gofrestru gyda meddyg cyn gynted â phosib. Mae gan lawer o gampysau eu gwasanaethau iechyd eu hunain, ac mae gan rai ddeintyddion ac optegwyr hefyd.
Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch wneud cais am help gyda chostau meddygol fel presgripsiynau, gwaith deintyddol a sbectol.
Ewch i wefan NHS Choices i gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau iechyd a byw'n iach, ac i ddod o hyd i feddygfeydd meddygon teulu, deintyddion, fferyllfeydd (cemists), ysbytai a chanolfannau galw i mewn yn eich ardal chi.
Gallwch hefyd gysylltu ag NHS Direct i gael gwybodaeth a chyngor ar iechyd.
Problemau personol
Mae gwefan NUS (Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr) yn cynnwys cyngor am ddelio â hiraeth a phroblemau cyffredin eraill i fyfyrwyr newydd.
Bydd gan eich prifysgol neu goleg wasanaeth cwnsela ar gael. Bydd rhai hefyd yn cynnig ‘Nawdd Nos’ y tu allan i oriau arferol – gwasanaeth gwybodaeth, cymorth emosiynol a gwrando sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr i fyfyrwyr. Neu gallwch ffonio neu e-bostio sefydliadau megis y Samariaid, sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol 24 awr y dydd.
Gallwch hefyd ollwng stêm ar fforymau ar-lein megis The Student Room, neu efallai fod undeb myfyrwyr eich prifysgol yn darparu gwasanaeth tebyg drwy eu gwefan.
Diogelwch personol
Byddwch yn ymwybodol o’ch diogelwch eich hun, yn enwedig os ydych yn byw yng nghanol dinas. Os ydych yn bryderus, mae camau y gallwch eu cymryd. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau yn cynnig dosbarthiadau hunanamddiffyniad neu’n rhoi larymau personol i bobl.
Dylech hefyd edrych ar yr amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau (er enghraifft, cludiant bws mini yn hwyr yn y nos) a gynigir gan eich undeb myfyrwyr lleol.
Diogelwch a sicrwydd tai
Mae llety myfyrwyr yn darged poblogaidd i ladron. Mae hyn yn wir am dai sy’n berchen i brifysgolion a thai sy’n cael eu rhentu’n breifat.
Sicrhewch fod cloeon priodol ar ddrysau a ffenestri. Mae digon o gyngor ar ddiogelwch yn y cartref ar gael ar-lein.
Os ydych yn rhentu’n breifat, sicrhewch fod gan eich cyfarpar nwy dystysgrifau diogelwch dilys, a bod yr holl ddodrefn yn bodloni rheoliadau iechyd a diogelwch.
Hefyd sicrhewch fod larymau mwg yn yr adeilad ac y caiff y batris eu profi'n rheolaidd.
Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau yn cynnig rhyw fath o ddarpariaeth gofal plant. Gall y rhain gynnwys creches, clybiau y tu allan i oriau’r ysgol, llyfrgelloedd teganau a chynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau. Cysylltwch â’ch prifysgol neu’ch coleg i gael rhagor o wybodaeth.
Dod o hyd i ddarparwr gofal plant
Dilynwch y ddolen isod o ddod o hyd i wasanaeth gofal plant yn eich ardal leol, yn cynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd, grwpiau chwarae a chynlluniau chwarae.
Cymorth ariannol i fyfyrwyr â phlant
Os ydych yn fyfyriwr llawn amser gyda phlant dibynnol, efallai y gallwch gael cymorth ariannol ychwanegol ar ben unrhyw Fenthyciadau Myfyrwyr, grantiau a bwrsarïau yr ydych yn eu cael.
Mae colegau a phrifysgolion wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o anghenion myfyrwyr gydag anableddau, ac mae ganddynt ddyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb anabledd.
Mae gan lawer ohonynt wasanaethau cefnogi arbenigol er mwyn helpu i ddiwallu anghenion myfyrwyr anabl ym mhob maes o fywyd prifysgol neu goleg. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu penodol, megis dyslecsia.
Dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.
Mae llawer o fyfyrwyr yn gweithio rhan-amser i gefnogi eu hunain tra eu bod yn astudio. Mae eraill yn dewis dysgu hyblyg fel y gallant roi amser i astudio o gwmpas swydd lawn amser.
Wrth ystyried pa gyrsiau rydych am wneud cais ar eu cyfer, byddai'n ddefnyddiol ymchwilio i weld a ellir eu cyflawni drwy ddysgu hyblyg.