Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr anabl

Os oes gennych nam, cyflwr iechyd (gan gynnwys cyflwr iechyd meddwl) neu anhawster dysgu penodol megis dyslecsia, mae'n bosib eich bod yn gymwys i hawlio cymorth ariannol ychwanegol fel myfyriwr. Bydd hwn yn cael ei dalu ar ben unrhyw gyllid myfyrwyr sylfaenol y byddwch yn ei dderbyn.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr anabl

Mae ffynonellau am gymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr anabl yn cynnwys:

  • Lwfansau Myfyrwyr Anabl
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Telir y rhain ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol.

Lwfansau Myfyrwyr Anabl

Grantiau yw'r Lwfansau Myfyrwyr Anabl sy'n helpu i dalu'r costau astudio ychwanegol y mae’n bosib y bydd myfyriwr yn ei wynebu fel canlyniad uniongyrchol o anabledd, cyflwr iechyd neu anhawster dysgu penodol.

Ni fydd y swm y gallwch ei gael yn cael ei effeithio gan incwm eich cartref ac nid oes yn rhaid ad-dalu'r lwfansau hyn.

Lwfans Byw i'r Anabl

Mae'n bosib y gallwch hawlio Lwfans Byw i'r Anabl dros ac uwchben Lwfansau Myfyrwyr Anabl a mathau eraill o gyllid myfyrwyr.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Budd-dal Analluogrwydd

Budd-dal a delir i bobl nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd sy’n effeithio ar eu gallu i weithio yw’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a’r Budd-dâl Analluogrwydd.

Os ydych yn hawlio Budd-dal Analluogrwydd eisoes, mae'n bosib i chi barhau ei dderbyn fel myfyriwr.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch hawlio’r budd-dal hwn wrth astudio o Skill: Y Biwro Cenedlaethol i Fyfyrwyr ag Anableddau.

Additional links

Cyngor gyrfa am ddim

Awgrymiadau am eich CV, dod o hyd i gwrs, proffiliau swydd a llawer mwy ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd

Allweddumynediad llywodraeth y DU