Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n chwilio am gyngor ar ddysgu personol a gyrfaoedd, gallwch ei gael mewn ffordd sy'n addas i chi. Gallwch gyfarfod cynghorydd wyneb-yn-wyneb, sgwrsio dros y ffôn, neu gysylltu â chynghorydd drwy e-bost: pa un bynnag sydd fwyaf cyfleus.
Gallwch gael cyngor arbenigol yn rhad ac am ddim am eich dewisiadau dysgu neu'ch dewisiadau gyrfa drwy ffonio’r Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd – neu drwy drefnu i gynghorydd roi galwad ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Mae pob galwad am ddim, boed i linell gartref neu i ffôn symudol.
Os oes gennych gwestiwn am ddysgu, gyrfaoedd, cyrsiau neu gymwysterau, gallwch hefyd gysylltu â chynghorydd dysgu drwy e-bost. Byddant yn ymateb i'ch ymholiad cyn gynted â phosibl.
Gwasanaeth wyneb-yn-wyneb, am ddim yw nextstep ar gyfer pobl yn Lloegr. Mae ymgynghorwyr personol yn eich swyddfa leol yn barod i'ch helpu gyda chyngor ar ddysgu ac ar yrfaoedd.
P'un ai a ydych eisiau newid swydd neu ddysgu rhywbeth newydd ac ehangu'ch sgiliau, gallwch siarad yn gyfrinachol â'ch cynghorydd personol, a chynllunio'r cam nesaf.
Os nad ydych chi'n gweithio ar hyn o bryd, gall y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu i ddod o hyd i'r math delfrydol o swydd: llawn amser neu ran amser, dros dro neu'n barhaol.
Os ydych chi rhwng 13 a 19 oed, gall Connexions Direct roi'r holl wybodaeth a chyngor sydd eu hangen arnoch er mwyn gwneud penderfyniadau am ddysgu, gwybodaeth, a rhagor.
Os ydych chi'n raddedig
Dod o hyd i gefnogaeth gyrfaoedd a dysgu wyneb-yn-wyneb gan eich swyddfa nextstep leol