Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn neilltuo rhywfaint o'ch amser i ddysgu, byddwch yn paratoi eich hun ar gyfer y dyfodol. Bydd gennych gyfle i wella eich gyrfa neu i ddod o hyd i swydd newydd. Mae llawer o ffyrdd o ddysgu, a gellir cael cyngor am ddim a hyd yn oed mwy o arian gan y llywodraeth i helpu gyda'r costau.
Mae ymchwil yn dangos y gallai gwella eich sgiliau gynyddu eich cyflog o hyd at £3,000 y flwyddyn ar gyfartaledd
Mae cael y sgiliau cywir yn bwysicach nawr nag erioed o'r blaen. Y rheswm am hyn yw mewn llai na deng mlynedd, ychydig iawn o swyddi na fydd angen sgiliau o gwbl ar eu cyfer fydd ar gael.
Yn ogystal â rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa, gall gwella eich sgiliau hefyd helpu os ydych yn bwriadu astudio ymhellach.
Mae sgiliau hefyd yn ddefnyddiol ym mhob math o sefyllfaoedd mewn bywyd, a gallant roi mwy o hyder i chi. Gallwch hefyd ennill cymwysterau newydd ar yr un pryd.
Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, gellir cael digon o gyngor diduedd, am ddim gan wasanaethau fel Cyngor Gyrfa a nextstep.
Byddant yn gallu rhoi gwybod i chi am eich dewisiadau ac am unrhyw arian am ddim y gallech ei gael i helpu i dalu am eich dysgu.
Gallwch gwrdd â chynghorydd hyfforddedig wyneb-yn-wyneb, cael sgwrs dros y ffôn neu gysylltu â chynghorydd dros e-bost.
Os oes angen help arnoch i ddarllen, ysgrifennu neu i wneud mathemateg, mae digon o gymorth ar gael.
Mae llawer o ffyrdd hefyd o loywi eich sgiliau cyfrifiadurol, p'un ai a ydych yn ddechreuwr llwyr, neu am wella eich sgiliau presennol.
Mae gan bawb y gallu i ddysgu pethau newydd, beth bynnag yw'ch oedran neu'ch amgylchiadau
Os byddwch yn penderfynu gwella eich sgiliau drwy fynd ar gwrs, mae bron i filiwn o gyrsiau i ddewis ohonynt yn y DU. Felly, rydych yn siŵr o ddod o hyd i un sydd o ddiddordeb i chi ac sy'n cyd-fynd â'ch ymrwymiadau gartref ac yn y gwaith.
Gallwch ddewis lle a phryd y gallwch ddysgu - nid oes yn rhaid i chi eistedd mewn ystafell ddosbarth. Er enghraifft, efallai y gallwch gael hyfforddiant yn y gwaith. Gallwch ddysgu amser llawn neu ran-amser, am ychydig o oriau neu am nifer o flynyddoedd - beth bynnag sydd fwyaf addas i chi.
Os byddwch yn penderfynu eich bod am wella eich siliau, ond eich bod yn poeni faint fydd hyn yn ei gostio, nid oes angen i chi boeni. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael. Bydd yr union swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Gallech gael cymorth ariannol drwy nifer o wahanol raglenni fel y Grant Dysgu i Oedolion a'r Benthyciadau Datblygu Gyrfa. Gallech gael cymorth gyda chostau gofal plant hefyd.
Gall ennill cymhwyster addysg uwch wella eich rhagolygon gyrfa a'ch cyfleoedd mewn bywyd. Bydd hefyd yn rhoi'r cyfle i chi brofi pethau newydd a chwrdd â phobl newydd.
Nid dim ond cael gradd sy'n bwysig. Ceir hefyd lawer o gyrsiau gwahanol megis cymwysterau HNC a HND, neu Raddau Sylfaen sy'n cyfuno astudio gyda dysgu yn y gweithle. Gallwch ddysgu mewn coleg neu brifysgol, amser llawn neu ran-amser.
Mae amrywiaeth hefyd o grantiau, benthyciadau a bwrsarïau i'ch helpu i dalu am y costau. Os byddwch yn cael help drwy grant neu fwrsari, nid oes yn rhaid i chi eu talu'n ôl.
Dod o hyd i gefnogaeth gyrfaoedd a dysgu wyneb-yn-wyneb gan eich swyddfa nextstep leol