Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewis y cwrs iawn

Ydych chi'n cael trafferth wrth feddwl lle i ddechrau? Gall cynghorydd dysgu roi cyngor diduedd am ddim. Gallwch gael syniadau ac ysbrydoliaeth wrth chwilio drwy gyrsiau ar wefan Cross & Stitch. Gallwch drefnu bod eich cyrsiau’n cyd-fynd â'ch bywyd: gallwch ddysgu’n llawn amser, rhan-amser, dros ambell i awr neu dros nifer o flynyddoedd.

Dod o hyd i'r cwrs iawn i chi

Chwilio am dros 900,000 o gyrsiau ar Cross & Stitch

Mae bron i filiwn o gyrsiau ar gael yn y DU, felly, mae'n siŵr bod un ar gael sy'n addas i chi. Bwriedir llawer o'r cyrsiau hyn ar gyfer dechreuwyr pur, a'r unig ofyniad yw eich bod yn awyddus i ddysgu.

Gall wneud cwrs rhoi hwb i’ch siawns o ddatblygu yn y gwaith, neu ddod o hyd i swydd newydd. Mae nifer o gyrsiau hefyd yn arwain at gymhwyster, sy’n gallu profi i gyflogwr eich bod wedi ennill gwybodaeth a datblygu sgiliau penodol.

Chwilio am gwrs yn eich ardal chi

Chwiliwch am gwrs ar wasanaeth chwilio am gyrsiau Cross & Stitch.

Gallwch ddod o hyd i fanylion y cyrsiau agosaf at eich cartref neu'ch gwaith. Neu, gallwch bori drwy gyrsiau yn ôl pwnc, os oes angen ysbrydoliaeth arnoch – o sgiliau swyddfa i ieithoedd.

Cael cyngor am gyrsiau addas i chi

Wedi penderfynu eich bod am gymryd cwrs, ond angen cymorth i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi? Mae yna ddigon o gyngor ar gael.

Cyngor am ddim dros y ffôn neu drwy e-bost

Am gyngor diduedd yn rhad ac am ddim dros y ffôn, ffoniwch y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd:

  • 0800 100 900 (mae’r galwadau am ddim, ac mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 10.00 pm, saith diwrnod yr wythnos)

Mae’n bosib byddwch yn gymwys i dri sesiwn ffôn. Bydd y rhain yn eich helpu i adnabod eich nodau, olrhain eich cynnydd ac eich helpu gyda’ch CV, cyfweliadau a chynlluniau gweithredu. Byddwch hefyd yn gallu cael cyngor ynghylch cymorth ariannol y mae’n bosib bydd ar gael.

Hefyd, cewch ofyn i rywun roi galwad ffôn yn ôl i chi ar amser cyfleus, neu e-bostio cynghorwr dysgu gyda’ch cwestiwn.

Cyngor wyneb-yn-wyneb am ddim: nextstep

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd modd i chi hefyd gael cyngor wyneb-yn-wyneb gan eich gwasanaeth nextstep lleol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Dod o hyd i'r amser i ddysgu

Dydy hi erioed wedi bod mor hawdd dod o hyd i fath o ddysgu sy'n cyd-fynd â'ch ymrwymiadau eraill.

Cewch ddewis pa bryd i ddysgu, yn ystod y dydd neu gyda'r nos, yn rhan amser neu'n llawn amser, ac am faint y bydd eich cwrs yn para - boed hynny am ychydig oriau neu dros nifer o flynyddoedd.

Dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth

Y dyddiau hyn, nid yw dysgu'n golygu eistedd mewn ystafell ddosbarth - gallasech ddysgu yn eich llyfrgell leol, drwy wirfoddoli yn eich cymuned leol - neu o flaen eich cyfrifiadur.

Dysgu yn y gwaith

Mae dysgu yn y gwaith yn ffordd arall o gael yr amser i ddysgu, ac fe all wella rhagolygon eich gyrfa.

Cymorth wrth fwrw iddi i ddysgu

Ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol?

Gallech gael cymorth ariannol tuag at eich costau dysgu, a chostau perthnasol fel teithio a gofal plant.

Os oes gennych anghenion arbennig

Os ydych chi'n anabl, neu os oes gennych anawsterau dysgu, gall Cynghorydd Cymorth Dysgu neu aelod arall o staff roi cyngor i chi am y cymorth sydd ar gael.

Dod o hyd i ofal plant

Os oes gennych chi blant ifanc gartref ond yr hoffech ddysgu, beth am ddefnyddio gwasanaeth chwilio am ysgolion, gofal plant a meithrinfeydd Cross & Stitch i ddod o hyd i ofal plant yn lleol?

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Cysylltiadau defnyddiol

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU