Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewis ble i ddysgu

Gall cael prosbectws a mynychu diwrnodau agored eich helpu i ddewis ble i astudio - ac mae Ofsted yn cyhoeddi adroddiadau arolygaeth ar golegau.

Dod o hyd i goleg neu ddarparwr dysgu

Cynhelir llawer o gyrsiau dysgu i oedolion mewn colegau addysg bellach a chanolfannau dysgu. Mae'n bosibl y bydd hyn yn addas ar eich cyfer chi os yw'n well gennych ddysgu mewn ystafell ddosbarth, a'ch bod yn hoffi'r syniad o astudio ochr yn ochr ag oedolion eraill.

Gallwch chwilio am eich coleg neu'ch darparwr dysgu agosaf drwy ddefnyddio opsiwn chwilio am goleg a darparwr dysgu Cross & Stitch.

Os ydych chi'n ystyried e-ddysgu neu ddysgu-o-bell, a elwir hefyd yn 'astudio gartref' neu 'hunan-astudio', does dim rhaid i chi boeni am leoliad darparwr y cwrs. Fe gewch astudio cwrs a gynigir gan ddarparwr dysgu rywle yn y DU, neu hyd yn oed dramor.

Cymorth i ddysgu

Yn ogystal â chymorth gan eich tiwtor, fe allech gael cymorth gan swyddog lles myfyrwyr.

Os oes gennych chi anabledd neu anawsterau dysgu, gall Cynghorydd Cymorth Dysgu neu aelod arall o staff eich helpu. Gallant roi cyngor i chi am y gefnogaeth sydd ar gael. Hefyd, mae gan bob coleg 'Ddatganiad Anabledd' sy'n dweud sut gall y coleg eich helpu.

Prosbectysau

Mae prosbectws yn cynnig gwybodaeth fanwl am goleg neu ddarparwr dysgu. Mae nifer o golegau'n cyhoeddi eu prosbectws ar-lein neu gallwch gysylltu â'ch coleg lleol i gael copi am ddim. Mae'n bosib hefyd bod taflenni ar gael am gyrsiau penodol.

Fel arfer, mewn prosbectws, bydd:

  • cyflwyniad i'r coleg
  • gwybodaeth fanwl am y cyrsiau a'r gofynion ar gyfer cael eich derbyn
  • gwybodaeth am gyfleusterau'r coleg megis llyfrgelloedd a'r cyfrifiaduron sydd ar gael
  • gwybodaeth am y gefnogaeth i fyfyrwyr gan gynnwys cymorth ariannol a gofal plant
  • gwybodaeth am gefnogaeth i fyfyrwyr anabl a myfyrwyr ag anawsterau dysgu
  • gwybodaeth ymarferol am bethau fel cludiant a chyrraedd y coleg
  • gwybodaeth am gyfleusterau hamdden, clybiau a'r bywyd cymdeithasol
  • sylwadau gan fyfyrwyr am eu profiad dysgu a'r hyn y byddan nhw'n ei wneud wedyn ar ôl gorffen eu cwrs
  • gwybodaeth am gysylltiadau'r coleg gyda sefydliadau, byd busnes a diwydiant

Diwrnodau agored

Bydd colegau'n aml yn cynnal diwrnodau neu ddigwyddiadau agored, ac weithiau, byddan nhw'n trefnu arddangosfeydd neu ffeiriau ar y cyd â cholegau eraill. Mewn diwrnod agored:

  • fe gewch gyfle i sgwrsio â'r tiwtoriaid am y cwrs a'r coleg
  • fe gewch gyfle i gael golwg ar gyfleusterau'r coleg, gan gynnwys adnoddau'r llyfrgell a'r cyfrifiaduron sydd ar gael
  • fe gewch gyfle i weld pa fath o gefnogaeth sydd ar gael megis cymorth ariannol a gofal plant
  • fe gewch sgwrsio â'r staff cefnogi i weld pa ddarpariaeth sydd ar gyfer myfyrwyr anabl a myfyrwyr ag anghenion arbennig
  • fe gewch weld pa mor hawdd fyddai cyrraedd y coleg
  • fe gewch gyfle i sgwrsio â myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr am y cwrs a'r coleg
  • fe gewch wybod beth mae cyn-fyfyrwyr yn ei wneud ar ôl gorffen eu cwrs
  • fe gewch weld a yw'r cyfleusterau hamdden a'r bywyd cymdeithasol yn apelio atoch chi
  • fe gewch weld a fyddech chi'n mwynhau astudio yno

Cael adroddiadau arolygu colegau

Mae colegau sy'n derbyn nawdd y wladwriaeth (a elwir yn golegau a gynhelir) yn cael eu harolygu gan swyddogion y llywodraeth. Gellir dod o hyd i adroddiadau arolygu colegau yn eich ardal ar wefan Ofsted.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Cysylltiadau defnyddiol

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU