Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dysgu drwy waith gwirfoddol

Mae gwirfoddoli'n ffordd wych o ddefnyddio'ch sgiliau i helpu pobl eraill, ac ar yr un pryd, byddwch chi'n dysgu rhywbeth newydd a all arwain at gymhwyster. Mae llu o gyfleoedd ar gael i wirfoddoli felly mae'n werth meddwl beth rydych chi'n awyddus i'w wneud a pha fudd rydych chi'n awyddus i'w gael ohono.

Cyfleoedd hyfforddi i wirfoddolwyr

Fel gwirfoddolwr mae’n bosib byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau newydd, ac ymarfer sgiliau sydd eisoes yn bod. Er na fyddwch yn derbyn tâl, mae’n bosib bydd eich treuliau neu gostau hyfforddi yn cael eu talu. Mae yna bob math o resymau i wirfoddoli, gan gynnwys:

  • helpu eraill a’ch cymuned leol
  • cwrdd â phobl newydd
  • cymryd rhan mewn rhywbeth sy’n bwysig i chi
  • gwneud gwahaniaeth
  • gwneud rhywbeth yr ydych yn mwynhau
  • datblygu eich diddordebau
  • dysgu rhywbeth newydd
  • ennill profiad a gwella eich CV
  • hybu eich rhagolygon swydd

Cymryd rhan

Unwaith i chi benderfynu y byddech yn hoffi gwirfoddoli, gallwch chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli yn eich ardal.

Bydd rhai mathau o waith gwirfoddol yn fwy addas i chi na mathau eraill felly mae'n werth meddwl pam eich bod chi'n awyddus i wirfoddoli, faint o amser sydd gennych i'w roi a pha sgiliau sydd gennych i'w cynnig.

Cyfleoedd hyfforddi i wirfoddolwyr

Os ydych chi'n awyddus i wirfoddoli er mwyn rhoi hwb i'ch gyrfa, meddyliwch yn ofalus am y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch. Peidiwch â bod ag ofn dweud hyn yn blaen pan fyddwch yn gwneud cais am gyfleoedd - cyn belled â'ch bod yn barod i ddangos ymrwymiad i'ch gwaith gwirfoddol, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau'n falch o'ch gweld chi'n cael budd o'r peth hefyd.

Gall gwirfoddoli gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu i chi:

  • bydd llawer o leoliadau gwirfoddoli'n cynnig cyfle i chi astudio a datblygu eich 'sgiliau allweddol' y sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen arnoch i ddod yn eich blaen yn y gweithle, wrth ddysgu ac yn eich bywyd.
  • Bydd rhai gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant galwedigaethol mewn meysydd arbenigol megis gofal cymdeithasol, gweithio gyda'r henoed, neu weithio gyda phlant
  • mewn rhai swyddi, bydd angen hyfforddiant penodol megis gwirfoddoli fel cwnstabl arbennig gyda'ch heddlu lleol

Fel arfer, bydd y sefydliad rydych chi'n gweithio iddo'n talu am eich costau hyfforddi a'ch treuliau yn gyfnewid am eich amser a'ch ymrwymiad.

Gwirfoddoli yn yr awyr agored a thramor

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig llu o gyfleoedd i wirfoddoli gan gynnwys gwirfoddoli amser llawn, gwyliau gweithio a gwirfoddoli gan gyflogeion.

Os ydych chi'n awyddus i ehangu'ch gorwelion, gallwch wirfoddoli dramor drwy'r Gwasanaeth Gwirfoddoli Dramor.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Cysylltiadau defnyddiol

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU