Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dysgu er mwynhad

Does dim rhaid i ddysgu fod yn ffurfiol a does dim rhaid i chi ddysgu er mwyn cael cymhwyster. Gall dysgu fod yn hwyl ac yn ffordd wych o ymlacio a chymdeithasu. Mae'n bosibl y byddwch yn awyddus i ddatblygu diddordeb sydd gennych eisoes neu ddysgu rhywbeth newydd. Gall dysgu fod yn hwyl ac yn ffordd wych o ymlacio a chymdeithasu. Mae'n bosibl y byddwch yn awyddus i ddatblygu diddordeb sydd gennych eisoes neu ddysgu rhywbeth newydd.

Pam dysgu er mwynhad?

Gall dysgu fod yn ffordd o ymlacio a gwneud rhywbeth y byddwch chi'n ei fwynhau, ochr yn ochr â phobl o'r un anian mewn amgylchedd braf.

Gall dysgu er mwynhad hefyd feithrin eich hyder a bod yn garreg gamu i mewn i ddysgu mwy academaidd.

Gallwch ddysgu unrhyw beth y dymunwch ei ddysgu ac fe all y cyrsiau gael eu cynnal mewn pob math o lefydd, o golegau a chanolfannau dysgu i lyfrgelloedd a lleoliadau awyr agored. Gallech ddysgu ar gwrs penwythnos, dilyn cwrs hwy neu fynd ar wyliau dysgu hyd yn oed.

Coginio

Gall coginio fod yn hwyl ac yn her ac mae'r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael yn golygu bod wastad rhywbeth newydd i'w ddysgu. Os ydych chi'n gwbl newydd i'r maes coginio ynteu'n awyddus i ymuno â dosbarth meistr gourmet, fe gewch hyd i gwrs sy'n eich gweddu i'r dim.

Garddio

Efallai mai'r cyfan rydych am ei wneud yw cadw'ch gardd yn dwt neu mae'n bosibl eich bod yn awyddus i ysgwyddo her fwy megis ailgynllunio'ch gardd neu osod nodwedd ddur newydd. Beth bynnag yw'ch bwriad, mae cwrs ar gael i chi.

Gwella eich cartref

Mae cyrsiau gwella'ch cartref yn ddewis poblogaidd ac mae amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael.

Ieithoedd

Os ydych chi'n dymuno dysgu iaith arall, mae nifer o gyrsiau ar gael ledled y wlad. Os ydych chi'n ddechreuwr pur neu'n siaradwr gweddol rugl, bydd cwrs ar gael i chi.

Celf

Os ydych chi'n mwynhau celf neu'n awyddus i feithrin eich sgiliau, ceir cyrsiau lle gallwch weithio wrth eich pwysau ac ar adeg sy'n hwylus i chi. Gall celf fod yn hobi cymdeithasol iawn hefyd, gyda dosbarthiadau'n cael eu cynnal mewn grwpiau a'r myfyrwyr yn cael cyfle i ddysgu gan y naill a'r llall.

Ffotograffiaeth

Cynigir amrywiaeth eang o gyrsiau a rhywbeth i bawb, o'r dechreuwr pur sy'n dymuno tynnu lluniau gwell i'r ffotograffydd profiadol sy'n awyddus i ddod yn gyfarwydd â'r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf a'i thechnegau.

Beth bynnag y bo'ch safon, byddwch yn siur o gyfarfod â phobl o'r un anian, gyda'r un brwdfrydedd am ffotograffiaeth â chi.

Dawns

Mae dawnsio'n ffordd bleserus i ddysgwyr o bob oed gadw'n iach a chyfarfod â phobl newydd mewn amgylchedd braf.

Dod o hyd i gwrs

Mae llawer o'r cyrsiau hyn ar gael ar wahanol lefelau fel y gallwch fod yn sicr eich bod yn dysgu gyda phobl sydd â gallu tebyg i chi. Cyrsiau er mwynhad yw'r cyrsiau gan amlaf ond bydd rhai'n cynnig cymwysterau neu dystysgrifau.

Gallwch bori drwy'r cyrsiau drwy ddefnyddio'r dolenni i gronfa ddata Cross & Stitch a restrir uchod, neu chwilio am gwrs yn eich ardal chi drwy ddefnyddio gwasanaeth chwilio-am-gwrs Cross & Stitch.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Cysylltiadau defnyddiol

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU