Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

e-ddysgu

Gall e-ddysgu roi'r rhyddid a'r hyblygrwydd i chi ddysgu yn eich amser eich hun ar adegau sy'n hwylus i chi. Gallwch astudio amrywiaeth eang o bynciau ar unrhyw lefel, a gall e-ddysgu fod yn ddelfrydol os nad yw'r pwnc yr ydych yn dymuno'i astudio ar gael yn lleol.

Beth yw manteision e-ddysgu?

Mae e-ddysgu'n defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i ddarparu ffyrdd arloesol o ddysgu. Mae dysgu o bell yn golygu dysgu ar gyrsiau fel cyrsiau astudio gartref neu gyrsiau 'hunan-astudio', y gellir eu cyfuno ag e-ddysgu.

Efallai y bydd e-ddysgu'n apelio atoch:

  • os ydych am ddysgu yn eich amser eich hun ar adegau sy'n hwylus i chi
  • os oes gennych ymrwymiadau sy'n ei gwneud yn anoddach i chi fynychu cwrs arferol
  • os oes gennych broblemau symudedd neu broblemau iechyd sy'n gwneud teithio neu fynychu cwrs yn anodd
  • os ydych chi'n byw ymhell oddi wrth ddarparwr hyfforddiant
  • os ydych chi'n gweithio oriau afreolaidd neu shifftiau

Sut mae e-ddysgu'n gweithio?

Defnyddir gwahanol fathau o gyfryngau i'ch cynorthwyo i ddysgu ac i ddarparu cyswllt rhwng dysgwyr a thiwtoriaid. Ymhlith y rhain, mae’r canlynol:

  • deunyddiau ysgrifennu traddodiadol, megis llyfrau a llawlyfrau
  • darllediadau ar y teledu ac ar y radio
  • tapiau sain a CD-ROM
  • gwybodaeth ar-lein
  • grwpiau ar-lein
  • fideo gynadledda
  • cymorth dros yr e-bost

Gall eich tiwtor ddarparu cymorth dros y ffôn, dros e-bost, ar-lein neu drwy'r post. Efallai y byddwch yn gallu cyfathrebu gyda dysgwyr eraill dros yr e-bost neu ar wefan drafod. Bydd hyn yn help i chi ddysgu gan weddill y grŵp ac yn gyfle i roi sylwadau ar waith y naill a'r llall. Fel arfer, bydd amrywiaeth dda o gefnogaeth ar gael i'ch helpu i drefnu eich amser a rheoli eich dysgu.

Rhowch gynnig ar gwrs blasu am ddim ar-lein i weld sut beth yw e-ddysgu. Os nad oes gennych chi'r rhyngrwyd gartref, gallwch fynd ar y we am ddim yn un o ganolfannau UK online ac mewn llyfrgelloedd. Gall staff eich helpu hefyd.

Y Brifysgol Agored

Y Brifysgol Agored yw'r brifysgol fwyaf yn Ewrop, gyda thros ddwy filiwn o bobl yn dilyn cyrsiau i ddatblygu eu gyrfaoedd, gwneud iawn am unrhyw gyfle a gollwyd neu ddilyn trywydd diddordebau personol.

Fel arfer, nid oes gofynion mynediad nac uchafswm oedran ar gyfer cyrsiau'r Brifysgol Agored. Mae cyrsiau'n amrywio o gyrsiau byr i bobl sydd erioed wedi astudio o'r blaen i gyrsiau arbenigol ar gyfer graddedigion. Os nad ydych chi wedi astudio ers tro neu os oes gennych ddiddordeb mewn pwnc newydd, gall cyrsiau byr a rhaglen arbennig o'r enw 'Openings Programme' eich helpu i weld a yw astudio drwy'r Brifysgol Agored yn addas ar eich cyfer chi.

Mae cymwysterau'r Brifysgol Agored yn nodi llwyddiant academaidd ond mae'n dangos hefyd bod gennych chi ymroddiad, uchelgais a hunanddisgyblaeth.

Y Coleg Estyn Cenedlaethol

Mae'r Coleg Estyn Cenedlaethol yn helpu pobl o bob oed i wneud dysgu yn rhan o'u bywydau. Mae'r Coleg yn cefnogi dros 10,000 o ddysgwyr y flwyddyn ar dros 100 o gyrsiau astudio gartref. Ar y wefan ceir amrywiol nodweddion i'ch helpu i astudio'n effeithiol. A chithau'n ddysgwr, cewch gefnogaeth ar-lein a mynediad at grŵp myfyrwyr y Coleg, sy'n grŵp ar-lein am ddim, yn ogystal â grwpiau cwrs penodol eraill.

learndirect

Cewch ddewis o blith cyrsiau ar-lein a luniwyd yn arbennig mewn meysydd megis cyfrifiaduron, sgiliau swyddfa a hunanddatblygiad. Mae'r cyrsiau'n cael eu cynllunio i ganiatáu i chi ddysgu ar amser, mewn lle ac ar raddfa sy'n addas i chi – ac mae rhai am ddim. Gellir cael cymorth yn lleol drwy rwydwaith o fwy na 1,500 o ganolfannau learndirect, a llawer o'r rheini'n cynnig mynediad rhad ac am ddim i'r rhyngrwyd, cyfleusterau gofal plant a mwy.

Dod o hyd i gwrs dysgu-o-bell

Gallwch chwilio am gyrsiau a darparwyr dysgu-o-bell drwy ddefnyddio dolen chwilio am gyrsiau Cross & Stitch.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Cysylltiadau defnyddiol

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU