Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dysgu yn eich cymuned

Gallwch ddysgu unrhyw ddiwrnod ac unrhyw bryd, a hynny yn eich llyfrgell leol, mewn amgueddfa, sinema, oriel gelf neu wrth grwydro o gwmpas eich cynefin. Mae gan lawer o lyfrgelloedd, amgueddfeydd ac orielau hefyd adrannau dysgu rhagorol ar eu gwefannau.

Llyfrgelloedd

Yn ogystal â darparu amrywiaeth eang o lyfrau, fel arfer bydd gan lyfrgelloedd amrywiaeth o adnoddau i chi eu defnyddio. Gall hyn gynnwys:

  • llyfrau cyfeirio
  • cyfnodolion a chyhoeddiadau
  • papurau newydd
  • cyfrifiaduron a chyfleusterau TG eraill
  • cerddoriaeth, fideos a DVDs
  • gwybodaeth leol
  • gwasanaeth llyfrgell deithiol sy'n ymweld â'r gymuned

Bydd y Llyfrgell Brydeinig yn derbyn copi o bob cyhoeddiad a gynhyrchir yn y DU ac yn Iwerddon. Mae'r llyfrgell yn Llundain ac mae'n cynnal digwyddiadau, arddangosfeydd a theithiau amrywiol.

Mae gan y wefan hefyd adran 'Greatest Treasures'. Yma, cewch droi tudalennau llyfr nodiadau Leonardo da Vinci, chwyddo llawysgrif y Magna Carta a darllen cyfieithiad neu edrych ar y 93 o ddramâu a ysgrifennodd Shakespeare, er enghraifft. Ar y wefan hefyd, fe geir:

  • catalogau a gwasanaeth chwilio
  • rhith-arddangosfeydd megis 'The Silk Road' neu 'Lie of the Land'
  • adnoddau dysgu
  • cyfnodolion arbenigol
  • archif papurau newydd
  • gwasanaeth archebu ar gyfer erthyglau
  • delweddau digidol
  • gwasanaeth atgynhyrchu

Amgueddfeydd ac orielau

Ar wefan yr Culture24, fe gewch wybodaeth am amgueddfeydd a galerïau ym mhob cwr o'r wlad. Fe gewch chi hefyd edrych ar gelf a dysgu ar-lein ar wefan y Tate.

Eich ardal leol

Mae mwy o wybodaeth am eich ardal chi ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac English Heritage. Hefyd, gallwch weld pethau megis mapiau a ffotograffau hanesyddol yn eich llyfrgell leol. Gall eich canolfan groeso roi gwybodaeth i chi am deithiau cerdded hanesyddol, digwyddiadau ac atyniadau.

Ffilm, teledu a'r theatr

Mae Sefydliad Ffilm Prydain yn rheoli'r archif ffilm a theledu fwyaf yn y byd. Mae deunydd sydd wedi'i archifo ar gael drwy arddangosfeydd a dangosiadau mewn sinemâu. Gallwch hefyd gael gwybod am gynyrchiadau, digwyddiadau ac arddangosfeydd ar wefan y Theatr Genedlaethol.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Cysylltiadau defnyddiol

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU