Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch gael cymorth ariannol tuag at gostau eich cwrs, a chostau perthnasol fel teithio a gofal plant. Bydd y cymorth y gallwch ei gael yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau - gan gynnwys eich amgylchiadau personol a'r cwrs yr ydych yn ei ddilyn.
A ydych chi wedi edrych ar eich holl opsiynau ariannu?
Os ydych chi'n ystyried dilyn cwrs, mae digonedd o wybodaeth am gymorth ariannol ar gael ar-lein.
Ceir hefyd linellau cymorth y gallwch eu ffonio a bydd y rhain yn gallu ateb cwestiynau ar rai o'ch dewisiadau o ran cyllid.
Neu gallwch siarad â swyddog cefnogi myfyrwyr neu swyddog lles eich coleg.
Gallai'r Grant Dysgu i Oedolion roi hyd at £30 yr wythnos i chi tra byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster Lefel 2 neu Lefel 3 llawn cyntaf.
Os ydych chi'n rhiant, mae yna nifer o ffynonellau a allai helpu gyda chostau gofal plant tra byddwch yn dysgu.
Gall colegau a dosbarthiadau'r chweched ddarparu cymorth ariannol ychwanegol drwy gyfrwng eu Cronfeydd Cymorth Dewisol. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol.
Benthyciadau Proffesiynol a Datblygu Gyrfa
Gall Benthyciad Datblygu Gyrfa eich helpu i dalu am ddysgu galwedigaethol neu ddysgu cysylltiedig â gwaith. Benthyciad banc lle caiff yr ad-dalu ei ohirio ydy Benthyciad Datblygu Gyrfa i’ch cynorthwyo i gael benthyg rhwng £300 a £10,000.
Mae mathau eraill o grantiau a bwrsarïau ar gael hefyd i helpu gyda chostau dysgu.
Mae'r rhain yn cynnwys y Grant Cymorth Preswyl, sy'n cynnig costau llety i chi os bydd angen i chi astudio oddi cartref.
Cofiwch: does dim rhaid talu grantiau yn ôl. Mae bwrsarïau yn debyg i grantiau ond, fel arfer, maent yn gysylltiedig â gyrfa benodol.
Mae hyfforddiant am ddim ar rai cyrsiau - gan gynnwys, mewn nifer o achosion, cyrsiau mewn llythrennedd a rhifedd, a chyrsiau sy'n arwain at eich cymwysterau cyntaf a fydd yn cyfateb i gymwysterau TGAU a Safon Uwch.
Os oes gennych swydd, efallai y bydd eich cyflogwr yn fodlon eich cefnogi - yn ariannol neu fel arall.
Os oes rhaid i chi dalu ffioedd, mae ffioedd cyrsiau'n amrywio yn ôl y pwnc, hyd y cwrs a'r math o gymhwyster. Gallwch gael gwybod mwy am ffioedd cyn i chi gofrestru.
Mae'n bosib y bydd costau eraill ar gyfer pethau fel ffioedd arholiadau, teithiau maes ac aelodaeth o gymdeithasau neu glybiau. Efallai y bydd angen i chi brynu deunyddiau hefyd - llyfrau, papur ysgrifennu ac offer cyfrifiadurol, neu gyfarpar arbenigol wrth ddilyn cyrsiau megis celf neu gerddoriaeth. Mae'n werth holi am y costau hyn cyn i chi ddechrau ar y cwrs.
I gadw'r costau i lawr gallwch:
Mae'r ffynonellau cymorth ariannol yn wahanol os ydych chi'n dilyn cwrs addysg uwch.