Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn 20 oed neu'n hŷn ac yn dymuno dilyn cwrs, gallech gael cymorth gyda'ch costau gofal plant o amryw o ffynonellau.
Os ydych chi'n 20 oed neu'n hŷn ac yn astudio mewn chweched dosbarth mewn ysgol neu mewn coleg chweched dosbarth, gallech gael cymorth gyda'ch costau gofal plant drwy'r Cynllun Gofal Plant ar gyfer Colegau Chweched Dosbarth.
Os ydych yn rhiant 20 oed neu'n hŷn sy'n ddi-waith gyda phartner sy'n gweithio, gallech gael cymorth gyda'ch costau gofal plant drwy'r cynllun Gofal Plant am Ddim ar gyfer Hyfforddiant a Dysgu ar gyfer Gwaith.
Dechrau gweithio: mwy o ffynonellau cymorth i rieni
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y cynlluniau sy'n cynnig cymorth gyda chostau gofal plant, mae'n dal yn bosib i chi gael cymorth pan fyddwch wedi cael ei derbyn ar eich cwrs - drwy Gronfa Cymorth Dewisol eich coleg.
Gall gadael i rywun arall ofalu am eich plentyn fod yn gam mawr.
Mae'r Cynllun Gofal Plant ar gyfer Colegau Chweched Dosbarth, y cynllun Gofal Plant am Ddim ar gyfer Hyfforddiant a Dysgu ar gyfer Gwaith, a Chronfeydd Cymorth Dewisol yn helpu drwy adael i chi ddewis y math o ofal plant sy'n addas i chi a'ch plentyn.
Gallwch ddefnyddio'r arian i dalu am ofal plant:
Yr unig amod yw bod y darparwr gofal plant wedi ei gofrestru ag Ofsted. Rhaid i ddarparwyr gofal plant cofrestredig fodloni'r safonau cenedlaethol, ac fe fyddant yn cael eu harchwilio'n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn darparu gwasanaeth gofal o safon.
Mae cael trefn ar eich trefniadau gofal plant yn golygu y gallwch ganolbwyntio ar eich cwrs - ac mae amrywiaeth eang i ddewis ohonynt.
Gall dod o hyd i gwrs a fydd yn ychwanegu at eich sgiliau a'ch cymwysterau agor drysau at gyfleoedd newydd yn eich gyrfa - yn y pen draw, gallai hyn fod o fudd i chi ac i'ch teulu.