Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dysgu ar gyfer gwaith

Os ydych chi'n chwilio am swydd neu'n awyddus i ddringo'r ysgol yrfa, gall gloywi'ch sgiliau agor drysau newydd i chi. Mae ystod eang iawn o gyrsiau ar gael. Mae rhai am ddim, ac fe allech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol. Ceir hefyd ddigonedd o gyngor am ddim i'ch helpu i ddewis beth sy'n iawn ar eich cyfer chi.

Dringo yn y gwaith

Lle bynnag yr ydych chi arni yn eich bywyd, gall dysgu sgiliau newydd wella rhagolygon eich gyrfa.

Mae ymchwil yn rhagweld y bydd llai o swyddi yn y dyfodol i bobl sydd heb sgiliau - sy'n golygu bod sgiliau'n debygol o ddod yn fwyfwy pwysig ymhen hir a hwyr.

Mae help a chymorth ar gael am ddim p'un ai a ydych yn gweithio ar hyn o bryd ai peidio. Ceir cynlluniau gwahanol i fodloni anghenion gwahanol bobl.

Cyngor am wella'ch sgiliau gwaith

Cael cyngor am eich gyrfa am ddim dros y ffôn neu dros e-bost

Os ydych chi'n chwilio am swydd newydd, yn gobeithio cael dyrchafiad neu'n meddwl dilyn gyrfa hollol newydd, gallwch gael cyngor am ddim gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd.

  • ffoniwch y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd ar 0800 100 900

Mae galwadau'n rhad ac am ddim, ac mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 10.00 pm, saith niwrnod yr wythnos.

Gallwch hefyd ofyn i gynghorydd eich ffonio'n ôl ar adeg sy'n gyfleus i chi, neu anfon cwestiwn dros e-bost.

Cyngor wyneb-yn-wyneb am ddim: nextstep

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd modd i chi hefyd gael cyngor wyneb-yn-wyneb gan eich gwasanaeth nextstep lleol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Gloywi'ch sgiliau gwaith: dechrau arni

Mae digonedd o ddewisiadau ar gael os ydych chi am loywi'ch sgiliau gwaith.

Os ydych chi'n chwilio am swydd, ceir sawl cynllun i'ch helpu. Bydd y mwyafrif ohonynt yn rhoi cyfle i chi ddysgu wrth chwilio. Gweler yr adran 'Cynlluniau i'ch helpu i ddod o hyd i waith' isod i gael mwy o fanylion.

Os ydych chi'n gweithio, efallai y gallwch gael hyfforddiant drwy eich cyflogwr. Gweler yr adran 'Cymorth os ydych eisoes yn gweithio' isod i gael manylion.

Chwilio am hyfforddiant ar-lein

Wrth gwrs, does dim byd yn eich rhwystro rhag trefnu i gael hyfforddiant eich hun. Ewch i’r adrannau 'Beth i ddysgu, ble i ddysgu' ac ‘Eich sgiliau, eich dyfodol’ i gael awgrymiadau ar ddewis cwrs a dod o hyd i'r lle iawn i ddysgu, gwybodaeth am gymwysterau a chyngor os ydych yn dychwelyd i ddysgu ar ôl toriad.

Mae'n bosib y cewch gymorth ariannol tra byddwch yn dilyn cwrs: gweler 'Cymorth gyda chostau dysgu' am fwy o fanylion.

Addysg uwch a’ch gyrfa

Os ydych am ddatblygu eich sgiliau am waith yn bellach, gall cymhwyster addysg uwch fod yr ateb. Mae yna ystod eang o gyrsiau i ddewis ohoni, gan gynnwys cyrsiau galwedigaethol sydd wedi’u hanelu at bobl sydd am ddatblygu mewn gwaith penodol.

Gwella eich mathamateg, Saesneg a Thechnoleg Gwybodaeth

I nifer o bobl, gloywi'u sgiliau hanfodol yw'r cam cyntaf a'r pwysicaf tuag at agor drysau newydd o ran cyfleoedd gyrfa.

Cynlluniau i'ch helpu i ddod o hyd i waith

Os ydych chi'n ddi-waith, ceir nifer o gynlluniau cenedlaethol i'ch helpu i ddod o hyd i waith neu i gael profiad gwaith.

Y Fargen Newydd a rhaglenni eraill y Ganolfan Byd Gwaith

Mae'r Fargen Newydd yn helpu pobl i fynd i fyd gwaith. Bydd cynghorwr yn eich holi am eich profiadau, eich diddordebau a'ch amcanion, ac yn eich helpu i baratoi cynllun.

Os byddwch yn cymryd rhan, mae'n bosib y cewch lwfans ar ben eich budd-daliadau. Mae'n bosib y bydd ffioedd eich cwrs yn cael eu talu ac fe allech gael help gyda chost llyfrau, teithio, offer neu ofal plant.

Mae cynlluniau eraill i'ch helpu i ddod o hyd i waith yn cynnwys:

  • Treial Gwaith
  • Cyflogi ar Brawf
  • Llwybrau at Waith

Prentisiaethau

Mae Prentisiaeth yn caniatáu i chi ddysgu wrth i chi weithio, ac ennill cymhwyster wrth i chi ennill arian. Mae Prentisiaethau ar gael mewn sawl gwahanol faes, o weinyddu busnes i beirianneg, o therapi harddwch i iechyd a gofal cymdeithasol.

Os oes gennych anabledd

Os oes gennych anabledd, ceir cynlluniau ychwanegol i'ch helpu i ddod o hyd i waith.

Cael hyfforddiant os ydych eisoes yn gweithio

Os ydych chi'n awyddus i ennill sgiliau newydd sy'n berthnasol i fyd gwaith - a bod gennych swydd yn barod - bydd siarad â'ch cyflogwr yn aml yn gam cyntaf da.

Cewch wybod mwy am rai o'r cyfleoedd hyfforddi a all fod ar gael drwy eich cyflogwr yn 'Cael hyfforddiant yn y gwaith'.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU