Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael hyfforddiant yn y gwaith

Mae dysgu yn y gwaith yn ffordd wych o gael yr amser i ddysgu, ac fe all wella rhagolygon eich gyrfa. Efallai fod eich cyflogwr eisoes yn darparu cyfleoedd dysgu - os nad ydyn nhw, holwch a fydden nhw'n ystyried cymryd rhan mewn cynllun hyfforddi gweithwyr.

Datblygu sgiliau newydd yn y gwaith

Os ydych chi'n awyddus i ennill sgiliau newydd sy'n berthnasol i'ch swydd, bydd holi eich cyflogwr yn fan cychwyn da.

Mae'n bosib y gallwch gael hyfforddiant mewn sgiliau sylfaenol, sgiliau ychwanegol i wella'ch perfformiad yn y gwaith, neu hyd yn oed gymhwyster a all agor y drws i fynd i addysg uwch. Mae rhai cyflogwyr yn cynnal cynlluniau 'mentora' er mwyn eich helpu i ddringo yn y gwaith.

Holwch uwch aelod staff neu gynrychiolwr dysgu eich undeb a yw'ch cyflogwr yn rhedeg cynlluniau hyfforddi. Os nad ydyn nhw, gofynnwch a fydden nhw'n ystyried sefydlu un.

Pa fudd gaiff eich cyflogwr o hyn?

Mae llawer o gyflogwyr yn hapus i gefnogi eu gweithwyr gyda'u dysgu:

  • gall gweithlu medrus helpu i hybu cynhyrchiant
  • mae cynlluniau hyfforddi ar gael y gellir eu haddasu i gwrdd ag anghenion y cyflogwr a'r gweithwyr
  • mae'n bosibl y caiff eich cyflogwr gymorth i dalu'r costau

Yn yr adran isod ar 'Cyfleoedd hyfforddi', ceir manylion am rai o'r cynlluniau y gallwch chi a'ch cyflogwr gymryd rhan ynddynt, a cheir mwy o wybodaeth i gyflogwyr ar Business Link. Holwch eich cyflogwr neu gynrychiolwr dysgu eich undeb a ydynt yn cynnal cynllun hyfforddiant ar hyn o bryd - ac os nad ydyn nhw, a fydden nhw'n ystyried eich cefnogi pe byddech chi eich hun yn trefnu dysgu sy'n gysylltiedig â gwaith.

Cyfleoedd hyfforddi

Hyfforddi i Ennill

Nod y gwasanaeth hwn yw helpu oedolion a phobl ifanc yn Lloegr i gael yr hyfforddiant gorau posibl yn y gwaith. Mae'n cynnig y canlynol i fusnesau:

  • cyngor diduedd am ddim am eu hanghenion hyfforddi
  • help wrth ddod o hyd i'r hyfforddiant cywir - mewn lle ac ar amser sy'n addas iddyn nhw ac i'w gweithwyr
  • mewn rhai achosion, cymorth i ddod o hyd i gyllid
  • cymorth wrth adolygu cynnydd yr hyfforddiant o ran datblygu sgiliau'r gweithlu

Cynllun Dysgu drwy Weithio learndirect

Mae Dysgu drwy Weithio yn caniatáu ichi astudio cwrs ar lefel prifysgol heb orfod cymryd amser o'r gwaith. Gallwch weithio tuag at gael cymhwyster israddedig neu ôl-raddedig, neu wneud un neu ddau o fodiwlau'n unig - gan ddibynnu ar beth fydd yn addas i chi.

Mae'r cynllun yn cael ei redeg gan learndirect, a hynny mewn partneriaeth â nifer o brifysgolion a cholegau. Os byddwch yn cymryd rhan, bydd eich tiwtor yn gweithio gyda chi i sicrhau bod yr hyn a ddysgwch yn berthnasol i'ch swydd.

Byddwch yn cynllunio gyda'ch gilydd pa feysydd i roi sylw iddynt, a lle bynnag mae modd, fe gewch gredydau am brosiectau y byddwch yn gweithio arnynt yn rhinwedd eich swydd. Efallai y gallwch hefyd gael credydau am waith y byddwch eisoes wedi'i wneud.

Efallai byddai'n werth siarad â'ch cyflogwr i weld a allan nhw eich cefnogi tra'r ydych yn rhan o'r cynllun - yn ariannol neu fel arall. Ac os ydyn nhw am chwarae mwy o ran, gall cyflogwyr ddefnyddio'r cynllun i lunio rhaglen sy'n diwallu eu hanghenion penodol nhw.

Prentisiaethau

Mae Prentisiaeth yn rhoi'r cyfle ichi weithio tuag at gymhwyster tra byddwch yn ennill arian.

Mae llawer o gyflogwyr yn dewis darparu hyfforddiant drwy raglenni Prentisiaeth - maent yn cael eu cynllunio gan fusnesau o fewn sector cyflogaeth arbennig, gydag anghenion hyfforddi'r sector hwnnw mewn golwg.

Buddsoddwyr mewn Pobl

Os oes gan eich cyflogwr statws Buddsoddwyr mewn Pobl, mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i wella perfformiad y sefydliad drwy ddatblygu eu staff. Fel rhan o hyn, maent yn asesu'r anghenion dysgu o fewn y sefydliad, ac yn cynllunio sut i'w diwallu.

Gall y manteision i chi, y gweithiwr, gynnwys y canlynol:

  • mynediad at hyfforddiant o ansawdd da
  • gwell boddhad yn eich gwaith
  • mwy o gyfleoedd yn eich gyrfa

Os na all eich cyflogwr helpu

Os na allwch gael hyfforddiant drwy eich cyflogwr, does dim byd yn eich rhwystro rhag ei drefnu eich hun. Edrychwch ar 'Dysgu ar gyfer gwaith' er mwyn gweld sut i gael yr amser i ddysgu tra'r ydych yn gweithio, ac o ble i gael cyngor am ddim.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU