Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae llawer o gyrsiau ym maes llythrennedd a rhifedd ar gael am ddim, ac mae'n bosib na fydd angen i chi dalu ffioedd dysgu os ydych chi'n astudio ar gyfer eich cymhwyster cyntaf sy'n gyfystyr â chymwysterau TGAU neu Safon Uwch. Mae ystod ehangach o gyrsiau ar gael am ddim os ydych chi ar fudd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm, a cheir cyfleoedd i bawb ddysgu am ddim ar-lein.
Gall sgiliau a chymwysterau helpu i gyflwyno dewisiadau newydd ar gyfer gwaith ac astudiaeth bellach - neu gyda phethau sy'n codi yn eich bywyd o ddydd i ddydd, fel helpu eich plentyn gyda'i waith cartref.
Mae amrywiaeth o gyrsiau ar gael am ddim, yn arbennig os nad oes gennych lawer o gymwysterau ar hyn o bryd. Beth sydd gennych i’w golli?
Fyddech chi'n hoffi gloywi'ch sgiliau darllen, ysgrifennu neu rifedd? Yn aml iawn mae cyrsiau llythrennedd a rhifedd ar gael yn rhad ac am ddim.
Ewch i ‘Gwella eich sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifedd’ i gael gwybod mwy am gyrsiau llythrennedd a rhifedd. Cewch hefyd wybod sut mae cysylltu â chynghorydd Get On i gael cymorth am ddim i ddod o hyd i gwrs addas i chi.
Os nad oes gennych gymwysterau TGAU, Safon Uwch neu gymwysterau sy'n gyfystyr â'r rhain, efallai y bydd modd i chi eu hastudio heb orfod talu unrhyw ffioedd dysgu.
Bydd modd i chi ddilyn cwrs am ddim:
Gall ennill cymhwyster Lefel 2 eich helpu i feithrin sgiliau addas ar gyfer ystod o swyddi - a gallai cymhwyster Lefel 3 roi mynediad i chi i brifysgol neu addysg uwch.
Mae cymhwyster Lefel 2 llawn yn gyfystyr â phum TGAU gradd A* i C, a Lefel 3 llawn yn gyfystyr â dau gymhwyster Safon Uwch. Ond ni chewch eich cyfyngu i ddim ond cymwysterau TGAU a Safon Uwch. Gallech, er enghraifft, ddewis dilyn cymhwyster NVQ neu BTEC sy'n cyd-fynd â'ch cynlluniau gyrfa.
Os ydych chi'n cael rhai mathau o gymorth ariannol, mae mwy o gyrsiau am ddim y gallech fanteisio arnynt.
Mae'r Cyngor Dysgu a Sgiliau (LSC) yn darparu cyllid ar gyfer ystod eang o gyrsiau, o sgiliau cyfrifiadur i sgiliau gofal iechyd a Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Os caiff eich cwrs ei gyllido gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau, byddwch yn gymwys ar gyfer cyrsiau am ddim os ydych chi'n cael:
Byddwch hefyd yn gymwys os nad ydych yn gweithio a'ch bod yn ddibynnol yn ariannol ar rywun sy'n cael un o'r mathau o gymorth ariannol a restrir uchod.
Mewn rhai achosion, mae cyrsiau am ddim ar gael i geiswyr lloches.
Dewis cwrs
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth am ddewis cwrs, ac i ddefnyddio gwasanaeth chwilio am gyrsiau Cross & Stitch. Fe welwch hefyd fanylion cyswllt ar gyfer y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd - cymorth am ddim i'ch helpu i ddod o hyd i gwrs sy’n addas i chi.
Gweld a gewch chi ddilyn cwrs am ddim
Os nad ydych yn siŵr a yw'r cwrs y dymunwch ei ddilyn yn cael ei gyllido gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau, holwch y coleg.
Cofiwch y bydd angen i chi ddangos iddynt eich bod yn gymwys ar gyfer cyrsiau am ddim - er enghraifft, tystiolaeth eich bod yn cael un o'r budd-daliadau a restrir uchod.
Hyd yn oed os na chewch chi ddilyn cwrs am ddim, bydd rhai colegau'n cynnig gostyngiad dan rai amgylchiadau - holwch hwy wrth wneud cais.
Gweld a allwch chi gael cymorth ariannol tra'ch bod ar eich cwrs
P'un ai a ydych yn gymwys i ddilyn cwrs am ddim ai peidio, efallai y bydd angen i chi dalu costau eraill - fel ffioedd cofrestru ar gyfer arholiadau.
Efallai y bydd modd i chi gael cymorth ariannol i helpu â'r costau hyn ac â chostau eraill pan fyddwch yn dysgu - fel costau teithio a chostau gofal plant.
Dysgu am ddim yn y gwaith
Mae llawer o gyflogwyr yn awyddus i'w staff feithrin sgiliau newydd, ac efallai y byddant yn cynnig cyrsiau am ddim i chi mewn maes sy'n berthnasol i'ch swydd - er enghraifft drwy Brentisiaeth, y cynllun Train to Gain neu Gynllun Dysgu drwy Waith learndirect.
Os ydych chi'n gobeithio dychwelyd i fyd gwaith, efallai y gallwch gymryd rhan yn y Fargen Newydd neu raglenni eraill ar gyfer pobl ddi-waith.
Dysgu am ddim ar-lein
Gall unrhyw un ddysgu am ddim ar y rhyngrwyd. Mae gwefan y BBC yn cynnig cyrsiau am ddim ym maes llythrennedd, rhifedd, cyfrifiaduron, ieithoedd a llawer o bynciau eraill.