Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd. Dysgwch sut i ddilyn cwrs di-dâl, cael cyngor yn rhad ac am ddim, ymuno â chlwb, cymryd rhan mewn gweithgareddau a dysgu ar-lein.
Gall gwella'ch sgiliau eich helpu i:
Mae ystod eang o gyrsiau y gallwch eu dilyn i helpu i roi hwb i'ch sgiliau. Gall rhai arwain at gymhwyster hyd yn oed.
Bydd modd i chi ddysgu yn eich ardal leol, ac mewn ffordd sy'n addas i chi: rhan amser, amser llawn, yn ystod y dydd neu gyda'r nos. A byddwch gydag oedolion o'r un anian â chi. Nid yw’n ddim byd tebyg i fod yn yr ysgol.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol am wella'ch sgiliau, ffoniwch linell gymorth Get On.
Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 10.00 pm, saith niwrnod yr wythnos. Hefyd, gallwch drefnu i rywun roi galwad ffôn yn ôl i chi ar amser cyfleus gan ddefnyddio'r gwasanaeth ffôn rhyngweithiol.
Gwyliwch y DVD Get On newydd, i weld sut y gallai gwella eich sgiliau mathemateg a Saesneg wneud gwahaniaeth mawr i'ch bywyd.
I archebu eich copi, ffoniwch linell gymorth Get On ar 0800 66 0800 - gallwch hefyd archebu neu wylio'r DVD ar-lein drwy glicio ar y ddolen isod.
Mae cyrsiau darllen ac ysgrifennu (neu gyrsiau llythrennedd) yn ymwneud â siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.
Mae cyrsiau delio â rhifau (neu gyrsiau rhifedd) yn ymdrin â rhifau, ffracsiynau a data; lluosi a thynnu; a mesur, siapiau ac amser.
Efallai y gofynnir i chi sefyll prawf cyn cychwyn eich cwrs, er mwyn helpu'ch tiwtor i benderfynu pa gwrs yw'r mwyaf addas i chi.
Ddim yn siwr am ymrwymo i wneud cwrs llawn? Mae'n werth holi eich darparwr dysgu lleol a ydynt yn cynnal cyrsiau blasu. Cyrsiau byr yw'r rhain, sy'n gadael i chi ymarfer eich sgiliau darllen, ysgrifennu a defnyddio rhifau, ac yn rhoi syniad i chi sut beth fyddai cwrs hirach.
Defnyddiwch ganfyddwr cyrsiau Cross & Stitch i chwilio am y cwrs sy'n iawn ar eich cyfer chi - neu i ddod o hyd i'ch darparwr dysgu lleol.
Profwch eich sgiliau defnyddio geiriau a rhifau gyda chwis cyflym - neu gymryd sialens Gemau’r Ymennydd a chystadlu am fedalau.
Gall BBC RaW (Darllen ac Ysgrifennu) eich helpu i roi hwb i'ch sgiliau drwy gyfrwng gweithgareddau ar-lein megis gemau, cwisiau a phrofion. Cewch hefyd wybodaeth am eich canolfan RaW agosaf - eich llyfrgell leol neu eich canolfan ddysgu leol efallai. Cewch help gyda RaW ar-lein, cymryd rhan mewn gweithgareddau a rhannu'ch profiadau gydag eraill.
Mae gan wefan BBC Skillswise hefyd lawer o ganllawiau ac offer i'ch helpu i ddarllen ac ysgrifennu.
Profi'ch sgiliau ar-lein
Mae gwefan Move On yn gadael i chi brofi'ch sgiliau Saesneg a Mathemateg, neu ddod o hyd i'ch canolfan brofi leol os ydych yn dymuno cael cymhwyster.
Mae llawer o adnoddau dysgu i'w cael am ddim ar-lein, gan gynnwys cyrsiau, gemau a chwisiau - i gael gwybod mwy, edrychwch ar yr erthygl 'e-ddysgu'.
Llyfrau clawr meddal wedi'u hysgrifennu gan awduron poblogaidd yw 'Stori Sydyn', ac maent wedi'u cynllunio i gymell pobl i ddarllen. Mae'r llyfrau ar gael mewn siopau llyfrau, archfarchnadoedd a llyfrgelloedd, a'u pris yw £1.99.
Cyhoeddwyd deg llyfr newydd ym mis Mawrth 2008, gan gynnwys llyfrau gan Gordon Ramsay, Colin Jackson, Josephine Cox - a stori Doctor Who newydd.
Os ydych chi'n mwynhau darllen, ysgrifennu neu adrodd storïau, efallai y byddech yn hoffi cwrdd â phobl o'r un anian â chi.
Mae nifer o glybiau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar draws y wlad, neu cewch wybod mwy am ymuno â chlwb llyfrau neu gychwyn clwb eich hun ar wefan Rhwydwaith Gweithredu'r BBC.