Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL)

Gall gwella eich Saesneg eich helpu i gael mwy allan o'ch bywyd yn y DU. Bydd hefyd yn eich helpu os ydych eisiau astudio, cael gwell swydd neu wneud cais i fod yn ddinesydd Prydeinig.

Gwella'ch Saesneg

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, fe allwch ddilyn cwrs i'ch helpu i wella'ch Saesneg. Gelwir y cyrsiau hyn yn ESOL neu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill.

Bydd gwella'ch Saesneg yn ei gwneud yn haws i wneud y canlynol:

  • siarad â meddygon ac athrawon
  • deall cyfreithiau ac arferion y DU
  • gwneud cwrs a chael cymhwyster
  • helpu'ch plentyn â'i waith cartref
  • pasio prawf Bywyd yn y DU a dod yn ddinesydd Prydeinig

Beth yn union y mae cwrs ESOL yn ei olygu?

Mae cyrsiau ESOL yn cynnwys:

  • siarad a gwrando
  • darllen ac ysgrifennu
  • geirfa
  • atalnodi a gramadeg

Mae cyrsiau ar wahanol lefelau felly byddwch yn medru cychwyn ar lefel sy'n briodol i chi.

O ble allwch chi gael cyngor?

Mae cyrsiau ESOL ar hyd a lled y DU ac mae cyngor ar gael i'ch helpu i ddewis y cwrs iawn i chi.

Am gyngor rhad ac am ddim ffoniwch linell gymorth Get On. Mae'r llinellau ar agor saith niwrnod yr wythnos rhwng 8.00 am a 10.00 pm.

  • Llinell gymorth Get On: 0800 100 900

Hefyd, cewch ofyn i rywun roi galwad ffôn yn ôl i chi ar amser cyfleus, gan ddefnyddio'r gwasanaeth ffôn rhyngweithiol.

Cyngor mewn ieithoedd eraill

Os hoffech gael cyngor am ddysgu a gyrfaoedd, gallwch siarad â chynghorydd Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd yn yr ieithoedd hyn:

  • Farsi - 0800 0931116
  • Ffrangeg - 0800 093 1115
  • Gwjarati - 0800 093 1119
  • Pwnjabeg - 0800 093 1333
  • Pwyleg - 0800 093 1114
  • Somalieg - 0800 093 1555
  • Sylheti - 0800 093 1444
  • Wrdw - 0800 093 1118
  • Welsh - 0800 100 900

Mae'r llinellau cymorth ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Dysgu Saesneg ar-lein

Dysgu Saesneg y BBC

Newyddion, gwe-ddarllediadau, cwisiau, byrddiau negeseuon am ddysgwyr Saesneg ar draws y byd, ac adnoddau ar gyfer athrawon.

Cyngor Brydeinig

Dysgu Saesneg neu ymarfer eich sgiliau ar-lein ar wefan Dysgu Saesneg Cyngor Brydeinig.

Prawf Bywyd yn y DU

Byddwch yn cymryd y prawf 'Bywyd yn y DU' os byddwch yn gwneud cais i fod yn ddinesydd Prydeinig a bod lefel eich Saesneg yn ESOL Mynediad 3 neu uwch.

Os yw lefel eich Saesneg yn is na ESOL Mynediad 3 a'ch bod yn dymuno gwneud cais i frodori, bydd yn rhaid i chi fynychu dosbarthiadau iaith Saesneg (ESOL) a dinasyddiaeth.

I gael cyngor am sut i asesu lefel eich Saesneg, ffoniwch y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd. Mae llinellau ar agor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

  • y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd: 0800 101 901

I siarad â rhywun am y prawf ‘Bywyd yn y DU’, ffoniwch linell gymorth ‘Bywyd yn y DU’. Mae'r llinellau ar agor saith niwrnod yr wythnos rhwng 8.00 am a 10.00 pm.

  • Llinell gymorth ‘Bywyd yn y DU’: 0800 015 4245

Hefyd gallwch ddefnyddio’r ddolen isod i ofyn i gynghorydd llinell gymorth ‘Bywyd yn y DU’ eich ffonio yn ôl, am ddim.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Cysylltiadau defnyddiol

Meithrin gwell sgiliau

Allweddumynediad llywodraeth y DU