Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cenedligrwydd a dinasyddiaeth

Os oes gennych ddiddordeb mewn symud i’r DU neu mewn bod yn ddinesydd Prydeinig, mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth i'ch rhoi ar ben ffordd.

Dod i'r DU ar ymweliad, i astudio neu i weithio

Fisas

Mae gwefan Asiantaeth Ffiniau’r DU, Gwasanaethau Fisas yn rhoi manylion am y gofynion o ran dod i mewn i'r DU. Drwy nodi pwrpas eich ymweliad, eich cenedligrwydd a'ch lleoliad, bydd modd i'r wefan roi gwybod i chi a oes angen fisa neu ganiatâd mynediad arnoch, pa ffurflen gais y mae angen i chi ei llenwi, pa ganllawiau y dylech chi eu darllen a ble mae gwneud cais.

Mae'r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth am warchodwyr plant a staff domestig dramor, aelodau o'r teulu a phlant sydd wedi'u mabwysiadu, gwyliau gweithio, mewnfudwyr sgilgar a buddsoddwyr ym Mhrydain.

Trwyddedau gwaith

Mae’r wefan trwyddedau gwaith yn rhoi gwybodaeth ynghylch y llwybrau gwahanol sydd ar agor i genedlaetholwyr tramor sydd am ddod i weithio yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r cynlluniau hyn ar gyfer pobl fel dynion busnes, gweithwyr domestig, diddanwyr, criw ffilm, myfyrwyr blwyddyn fwlch sy’n dod i mewn, pobl fudol sy’n dra medrus, arloeswyr, dyfeiswyr, gweinidogion o grefydd, newyddiadurwyr o dramor, chwaraewyr a gweithwyr gwirfoddol.

Arfer eich proffesiwn yn y DU

Yn y DU, fel yn y rhan fwyaf o aelod wladwriaethau'r UE, 'rheoleiddir' rhai proffesiynau penodol. Mae hyn yn golygu bod yna gyfreithiau sy'n nodi'r cymwysterau y mae arnoch eu hangen er mwyn cael arfer y proffesiynau hyn. Gall dinasyddion cymwys o wledydd yr UE sy'n dymuno arfer proffesiwn rheoledig yn y DU wneud cais am gydnabyddiaeth o'r cymwysterau a enillwyd ganddynt yn eu gwlad gartref - dilynwch y ddolen isod i gael manylion.

Swyddfa Comisiynydd y Gwasanaeth Mewnfudo

Mae Swyddfa Comisiynydd y Gwasanaeth Mewnfudo (OISC) yn bodoli er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyngor da ar fewnfudo. Ni allant helpu gyda cheisiadau unigol neu roi cyngor, ond gallant ddod o hyd i rywun yn yr ardal sy'n gallu helpu. Mae gwefan OISC yn rhoi manylion ynghylch sut i ddod o hyd i ymgynghorydd mewnfudo a sut i gwyno os ydych yn credu i chi gael eich trin yn annheg.

Cael gwybodaeth mewn ieithoedd eraill

Mae gwefan o’r enw myUKinfo yn helpu gweithwyr tramor drwy ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf mewn Pwyleg a Phortiwgaleg, ymysg ieithoedd eraill.

Mae’n cynnig cyngor ar weithio a byw ym Mhrydain, a gwybodaeth ynghylch arian, tai, iechyd a diwylliant lleol. Mae ganddo adran i gyflogwyr sy’n cyflogi gweithwyr mewnfudol hefyd.

Brodori, preswylio, lloches a chenedligrwydd

Asiantaeth Ffiniau'r DU

Asiantaeth Ffiniau’r DU yn y Swyddfa Gartref sy'n gyfrifol am geisiadau am genedligrwydd Prydeinig, am ganiatâd i aros ym Mhrydain, am ddinasyddiaeth ac am loches. Mae eu gwefan yn darparu ffurflenni a gwybodaeth am wneud ceisiadau sy'n ymwneud â phob agwedd ar y drefn fewnfudo a chenedligrwydd.

Cenedligrwydd deuol

Yn gyffredinol, nid oes cyfyngiad, yn ôl cyfraith y DU, ar frodor o Brydain rhag bod yn ddinesydd mewn gwlad arall yn ogystal. Felly, os rhoddir cenedligrwydd arall i chi, ni fyddwch chi'n colli eich cenedligrwydd Prydeinig. Yn yr un modd, ni fydd yn rhaid i chi ildio'ch cenedligrwydd arall wrth ddod yn Brydeiniwr. Mae'r Swyddfa Gartref yn darparu gwybodaeth fanylach.

Seremonïau dinasyddiaeth a'r Prawf Byw yn y DU

I ddathlu dod yn ddinesydd Prydeinig, mae'r llywodraeth wedi cyflwyno seremonïau dinasyddiaeth yn ddiweddar.

Mae yna hefyd wefan sy'n rhoi amlinelliad o'r Prawf Byw yn y DU y bydd yn rhaid i lawer o ddinasyddion Prydeinig newydd eu cymryd. Ceir yno gwybodaeth am bwy fydd yn gorfod sefyll y prawf a sut i baratoi ar ei gyfer.

Addysg dinasyddiaeth

Mae dinasyddiaeth yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol. Mae nifer o adnoddau ar-lein ar gael.

Y Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae gwefannau'r cwricwlwm cenedlaethol ar-lein ar gyfer Lloegr yn rhoi gwybodaeth am raglenni astudio a chanllawiau anstatudol - ar gyfer dinasyddiaeth a phob pwnc arall - yn nodi targedau cyrhaeddiad, ac yn rhoi nodiadau a dolenni i adnoddau dysgu ar-lein.

Mae gwefan y cwricwlwm Cenedlaethol ar waith yn darparu enghreifftiau o waith disgyblion a sylwadau.

Yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm

Mae'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (QCA) yn rhoi gwybodaeth am addysg dinasyddiaeth yn Lloegr, mewn ysgolion a sefydliadau dysgu ôl-16

Hanes dinasyddiaeth

Mae'r Archifau Cenedlaethol a'r Archifau Seneddol wedi creu arddangosfa dinasyddiaeth ar-lein.

Mae'r arddangosfa'n archwilio'r hyn y mae bod yn ddinesydd wedi'i olygu dros fileniwm yn hanes Prydain. Mae dinasyddiaeth yn aml yn y newyddion. Ond beth ydyw, a sut mae wedi newid dros y canrifoedd? O ble daeth y Senedd? Sut y cafodd pobl gyffredin hawliau gwleidyddol a chymdeithasol?

Gwefan dinasyddiaeth yr Adran Addysg a Sgiliau

Dysgwch fwy am addysg dinasyddiaeth, pwnc sydd ar y cwricwlwm cenedlaethol, a sut y gallwch chi gyfrannu mewn ffordd gadarnhaol.

Additional links

Gwyliau, gwaith ac astudio ym Mhrydain

Syniadau am wyliau, canllaw i leoliadau, dyddiadur digwyddiadau, a chynigion a hyrwyddiadau arbennig

Allweddumynediad llywodraeth y DU